Bydd Luke Humphries, pencampwr y byd, a’r chwaraewr 17 oed Luke Littler ymhlith y rhai fydd yn cystadlu ar noson agoriadol Uwch Gynghrair Dartiau’r PDC yng Nghaerdydd heno (nos Iau, Chwefror 1).
Bydd y ddau yn herio’i gilydd yn rownd yr wyth olaf yn Arena Utilita, gan ailadrodd yr ornest fawr yn rownd derfynol Pencampwriaeth y Byd fis diwethaf.
Bydd yr Iseldirwr Michael van Gerwen anelu i ymestyn ei record o saith tlws hyd yn hyn.
Bydd rownd wyth olaf, rownd gyn-derfynol a rownd derfynol ar bob un o’r 16 noson drwy gydol y gynghrair.
Mae Littler eisoes wedi ennill Meistri Bahrain, y tro cyntaf iddo fe gystadlu yng Nghyfres y Byd, ac fe gyrhaeddodd e rownd derfynol Meistri’r Iseldiroedd yr wythnos ddiwethaf.
Hefyd, ers dechrau’r flwyddyn, mae e wedi curo pump o’r chwaraewyr fydd yn cystadlu yn yr Uwch Gynghrair.
Bydd Michael van Gerwen yn herio Michael Smith, gyda’r enillydd yn wynebu Humphries neu Littler yn y rownd gyn-derfynol.
Bydd y Cymro Gerwyn Price yn wynebu Nathan Aspinall, gyda Peter Wright a Rob Cross yn herio’i gilydd.
Mae £1m ar gael i enillydd yr Uwch Gynghrair, fydd yn cael ei darlledu’n fyw bob wythnos ar Sky Sports ac ar-lein.
Gerwyn Price allan o Feistri Cazoo
Yn y cyfamser, mae Gerwyn Price wedi tynnu’n ôl o gystadleuaeth Meistri Cazoo am resymau teuluol.
Bydd Daryl Gurney yn cymryd ei le gan nad oedd Jose de Sousa, y chwaraewr oddi tano yn y rhestr ddetholion, ar gael.
Bydd Gurney yn herio Joe Cullen neu Josh Rock yn yr ail rownd.