Ar ôl mwy na blwyddyn heb athro neu athrawes, mae Cyngor Wrecsam bellach yn dweud bod modd iddyn nhw gynnig gwersi nofio trwy gyfrwng y Gymraeg.

Ers dros flwyddyn bellach, ac wrth i rieni’r fro alw am ddarpariaeth, fe fu Cyngor Wrecsam yn ceisio penodi athro neu athrawes nofio cyfrwng Cymraeg.

Mae’r Cyngor wedi bod yn cylchredeg hysbyseb Freedom Leisure ar eu gwefan a’r cyfryngau cymdeithasol bob mis, ond heb lwyddo i ddod o hyd i rywun addas.

Ond maen nhw bellach yn gallu cynnig gwersi Cymraeg fel rhan o gydweithrediad rhyngddyn nhw, yr Urdd a Freedom Leisure.

Bydd y gwersi’n cael eu cynnig yn y Ganolfan Byd Dŵr bob dydd Mercher, rhwng 5.15-5.45yh ac rhwng 5.45-6.15yh.

Bydd y gwersi’n dechrau ar Chwefror 21, ac mae modd archebu lle drwy Freedom Leisure, ond maen nhw’n rhybuddio bod llefydd yn brin ac y bydd rhestrau aros ar gael pan fydd yr holl wersi’n llawn.

‘Dal i hysbysebu’

Mae Beverley Parry Jones, Aelod Arweiniol Hamdden Cyngor Wrecsam, yn dweud bod “dysgu nofio fel plentyn yn sgil bywyd gwych i’w gael”, a’u bod nhw’n falch o allu cynnig gwersi  drwy gyfrwng y Gymraeg bellach.

Ac yn ôl y Cynghorydd Hugh Jones, Cefnogwr y Gymraeg Cyngor Wrecsam, bydd y Cyngor yn parhau i hysbysebu er mwyn ceisio recriwtio a hyfforddi hyfforddwyr nofio sy’n siarad Cymraeg.

“Er ein bod yn hapus bod y gwersi hyn bellach ar waith, rydym yn bwriadu parhau gyda’n hymrwymiad i ddarparu gwersi nofio yn Gymraeg ac yn dal i hysbysebu i recriwtio (a hyfforddi yn rhad ac am ddim) hyfforddwyr nofio sy’n siarad Cymraeg,” meddai.

“Os byddai gennych chi ddiddordeb yn hyn, rwy’n eich annog i gysylltu â Byd Dŵr ar 01978 297300 am fwy o wybodaeth.”

‘Ymateb i anghenion plant a phobol ifanc leol’

Mae’r Urdd hefyd wedi croesawu’r cyfle i gydweithio.

“Rydym yn falch o fod yn rhan o’r datblygiad hwn yng Nghanolfan Byd Dŵr, Wrecsam ac wrth wneud hynny yn ymateb i anghenion plant a phobol ifanc leol,” meddai Gwion John Williams, Uwch Swyddog Datblygu Chwaraeon yr Urdd yn y gogledd a’r canolbarth.

“Mae sicrhau bod cyfleoedd a phrofiadau trwy gyfrwng y Gymraeg ar gael i’n pobol ifanc yn ganolog i’n gwaith.”

Mae’r Ganolfan Byd Dŵr hefyd yn edrych ymlaen at y gwersi.

“Mae Freedom Leisure yn dysgu dros 12,000 o fyfyrwyr ar draws Cymru ac rydym yn edrych ymlaen at ymestyn ein cynnig ymhellach gyda’n Gwersi Nofio Cymraeg yn y Ganolfan Byd Dŵr yn Wrecsam,” meddai Felicity Griffiths, Rheolwr Cyffredinol y Ganolfan Byd Dŵr.

“Rydym yn barod i ddysgu’r sgil achub bywyd hwn i hyd yn oed fwy o bobol yn ein cymuned, ac rydym yn sicr y bydd lleoedd yn cael eu harchebu’n gyflym felly peidiwch â cholli allan!”

 

Byd-Dwr-Wrecsam-1

Heriau wrth geisio derbyn gwersi nofio yn Gymraeg yn Wrecsam

Dr Sara Louise Wheeler

Mae golwg360 wedi ceisio atebion er mwyn taflu mwy o oleuni ar y sefyllfa
Offer nofio

Gwersi nofio cyfrwng Cymraeg yn Wrecsam?

Dr Sara Louise Wheeler

Colofnydd golwg360 sy’n trafod penbleth ym mro ei mebyd