Tra bod addysg ffurfiol mewn ysgolion Cymraeg yn mynd o nerth i nerth yn ardal Wrecsam, mae gwersi nofio cyfrwng Cymraeg y tu hwnt i’r ysgolion yn seithfed dinas Cymru’n stryffaglu i oresgyn y rhwystrau.

Ers dros flwyddyn bellach, ac wrth i rieni’r fro alw am ddarpariaeth, mae Cyngor Wrecsam wedi bod yn ceisio penodi athro neu athrawes nofio cyfrwng Cymraeg.

Mae’r Cyngor wedi bod yn cylchredeg hysbyseb Freedom Leisure ar eu gwefan a’r cyfryngau cymdeithasol bob mis, ond heb lwyddo i ddod o hyd i rywun addas.

Heriau

Dydy oriau gwaith y swydd ddim yn glir o’r hysbyseb ac mae golwg360 wedi gofyn am eglurhad a chadarnhad.

Mae Freedom Leisure yn un o ymddiriedolaethau hamdden a diwylliant elusennol nid-er-elw mwyaf blaenllaw’r Deyrnas Unedig.

Wrth ymateb, dywed Richard Milne, eu Rheolwr Ardal gogledd Cymru, y byddai’r swm yn “dibynnu ar faint o ddiddordeb sydd am wersi nofio cyfrwng Cymraeg”.

Ond mae’r mater hwn wedi codi’i ben sawl gwaith dros y flwyddyn ddiwethaf, ac o ystyried bod oddeutu 800 o blant a phobl ifanc yn astudio 100% drwy gyfrwng y Gymraeg yn Ysgol Morgan Llwyd, a saith ysgol gynradd Gymraeg bellach yn y fro, mae potensial o leiaf am niferoedd go lew o fyfyrwyr.

Yr hyfforddiant – ar gael yn y Gymraeg?

Wrth ymateb i gwestiwn golwg360 am yr hyfforddiant, dywed Nofio Cymru, trwy law Freedom Leisure, eu bod nhw’n “Ganolfan Hyfforddi Gymeradwy ar gyfer Cymwysterau Nofio Lloegr”, a bod “rhaid cwblhau asesiad o’r cymwysterau hyn yn Saesneg”.

“Ar hyn o bryd mae gan Nofio Cymru un tiwtor/aseswr sy’n rhugl yn y Gymraeg, ac ar ei gyrsiau bydd yn cyflwyno yn Gymraeg neu’n ddwyieithog lle bo’n briodol ac er budd y dysgwyr ar y cwrs,” meddai llefarydd.

“Nid ydym yn derbyn unrhyw geisiadau y tu allan i Wynedd ac Ynys Môn am gyrsiau sy’n cael eu darparu yn y Gymraeg ond pe bai gofyn am hyn, gallem ddarparu ar gyfer hynny.

“Mae rhai adnoddau sy’n cael eu darparu ar gyfer y cwrs yn ddwyieithog.

“Mae pob cwrs yn cynnwys adran ar yr iaith Gymraeg ac yn rhoi cymeradwyaeth ac anogaeth i athrawon gyflwyno yn Gymraeg a/neu’n ddwyieithog os oes ganddyn nhw’r sgiliau a’r hyder.

“Rydym hefyd yn rhannu adnoddau geirfa dyfrol i annog a chefnogi athrawon di-Gymraeg i ddefnyddio Cymraeg achlysurol wrth gyflwyno.”

Ydy’r llenyddiaeth a’r llawlyfrau ar gael yn y Gymraeg?

Dydi hyfforddi yn Saesneg i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg ddim yn ddelfrydol, ond mae ymwybyddiaeth o’r Gymraeg yn hwyluso’r broses rywfaint.

Ond dydy’r wybodaeth swyddogol ddim ar gael yn y Gymraeg ar hyn o bryd.

“Mae’r rhain yn Saesneg gan eu bod yn Gymwysterau Nofio Lloegr,” meddai Nofio Cymru.

“Maen nhw’n cael eu diwygio’n aml.

“Mae’r holl ddeunydd i’r cyhoedd mewn perthynas â Dysgu Nofio Cymru yn ddwyieithog, ac mae adnoddau cynyddol ar gyfer athrawon a darparwyr bellach yn ddwyieithog.

“Rydym wedi ymrwymo i wella’r rhan yma o’n gweithrediadau fel y corff llywodraethu cenedlaethol.

“Gan nad yw’r fanyleb ar gyfer cymwysterau Athrawon Nofio yn rhan o Gymwysterau Cymru, nid oes gofyniad i’w darparu yn y Gymraeg a’r Saesneg, ac mae hyn ond yn berthnasol i bobol ifanc 13-14 oed sydd â Chymwysterau Cymru ar hyn o bryd.

“Mae ein Rheolwr Hyfforddiant a Datblygu yn mynychu cyfarfodydd chwarterol Cymwysterau Cymru felly mae’n gyfredol gydag unrhyw ddiweddariadau.”

Ydi hi’n bosib hyfforddi yn Wrecsam neu rhywle agos?

Os ydych chi’n byw o fewn cyrraedd cyfleus i Fyd Dŵr Wrecsam, ac am roi cynnig arni, yna fe allwch chi hyfforddi rywle gweddol agos, ac “mae cyrsiau’n cael eu darparu ledled Cymru (a Lloegr) ac yn cael eu cyflwyno ar-lein ac yn y cnawd”, meddai llefarydd.

“Gallwn hwyluso cyrsiau lle bynnag y bo galw, yn amodol ar leiafswm niferoedd.

“Rydym wedi cyflwyno Lefel 1 yn y Gymraeg yn ddiweddar, ac mae gennym gynllun Lefel 2 i’w gyflwyno’r mis hwn.”

Mae’n bosib astudio Lefel 1 ym Myd Dŵr Wrecsam ar Hydref 23, mae’r manylion ar gael ar eu gwefan.

‘Prinder athrawon nofio ledled Cymru’

“Fel sefydliad mae Nofio Cymru wedi ymgysylltu â’r Comisiynydd iaith i egluro’r heriau sy’n ymwneud â hwyluso gwersi nofio trwy gyfrwng y Gymraeg ledled Cymru, nid yn Wrecsam yn unig,” meddai llefarydd ar ran Nofio Cymru, wrth ymateb i’r heriau ac am ohebiaeth â Chomisiynydd y Gymraeg ar y mater.

“Ar hyn o bryd, mae prinder athrawon nofio yn gyffredinol ledled Cymru, heb sôn am eu hiaith gyfathrebu.

“Mae Dysgu Nofio yn cael ei amlygu fel her ar gyfer darpariaeth/cyflenwi yn y Gymraeg;

“Nid wyf yn ymwybodol bod gwersi / darpariaethau chwaraeon eraill o dan yr un ffocws…

Cydweithio?

“Ers Medi 1999, daeth y Gymraeg yn orfodol i bob dysgwr ar draws Cymru yng Nghyfnod Allweddol 4,” meddai wedyn wrth ymateb i’r syniad o gydweithio â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol neu gorff tebyg er mwyn darparu cyrsiau cyfrwng Cymraeg.

“Mae hyn yn awgrymu y gallai pob unigolyn sy’n cymhwyso fel athro nofio dan 30 oed feddu ar feistrolaeth sylfaenol ar y Gymraeg; fodd bynnag, y gwir amdani yw fod hyder a chymhwysedd i wneud hynny yn hynod amrywiol.”

A yw hi’n deg, ac yn gall, disgwyl i bobol sy’n medru’r Gymraeg orfod cyfieithu gwybodaeth gymhleth ‘ar y cyd’, wrth addysgu grŵp o blant i nofio ar yr un pryd, yn ogystal â bod yn gyfrifol am eu cadw nhw’n ddiogel – a’r cyfan oll am £16.08 yr awr?

Er i golwg360 holi’r ddau sefydliad, mae Freedom Leisure yn dweud eu bod nhw’n aros hyd nes eu bod nhw’n penodi rhywun cyn asesu’r galw am ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn Wrecsam.

Fodd bynnag, yn ôl Nofio Cymru, dydyn nhw hyd yma ddim wedi gweld galw am hyfforddi addysgwyr nofio trwy gyfrwng y Gymraeg yn Wrecsam, nac yn unman arall y tu hwnt i Gwynedd ac Ynys Môn.