Fe wnaeth disgyblion oedd yn derbyn eu canlyniadau yn ysgol uwchradd Gymraeg Wrecsam (dydd Iau, Awst 17) ragori ar y disgwyliadau cenedlaethol – yn wahanol i’r patrwm cenedlaethol.
Ar ôl yr holl ddysgu, adolygu a swotio, roedd yn ddiwrnod tyngedfennol i fyfyrwyr Safon Uwch, Uwch Gyfrannol, Bagloriaeth Cymru a chyrsiau galwedigaethol, ac fe fu golwg360 yn ymweld â seithfed dinas Cymru ar ddiwrnod prysur i lawer iawn o bobol ledled y ddinas-sir.
Roedd prysurder ac optimistiaeth yn adeilad y Chweched Dosbarth Ysgol Morgan Llwyd y bydden nhw’n mynd yn groes i’r tuedd oedd yn cael ei drafod yn helaeth yn y cyfryngau.
Cyfanswm raddau A* -A
Yn ôl Sky News, er enghraifft, roedd disgwyl y byddai canlyniadau’n is drwyddi draw eleni, wrth i fyrddau arholi ddychwelyd i ddulliau arholi cyn y pandemig.
Daeth i’r amlwg yn gynharach heddiw fod yna lai o’r graddau uchaf wedi’u cyrraedd na’r flwyddyn ddiwethaf.
Serch hynny, roedden nhw’n dal yn uwch na’r niferoedd cyn y pandemig.
Ond mewn datganiad i’r wasg ar wefan Ysgol Morgan Llwyd, datgelodd yr ysgol fod canlyniadau’r myfyrwyr yn groes i hyn, gyda chyfanswm y graddau A*-A yn uwch na’r llynedd.
“Yn ogystal, llwyddodd pob dysgwr i ennill cymwysterau ac maent bellach yn cychwyn ar eu taith nesaf i brifysgol, hyfforddiant neu gyflogaeth yn barod i groesawu cyfleoedd a heriau newydd,” meddai’r ysgol.
Yn ôl un aelod o staff yr ysgol, fe wynebodd myfyrwyr Chweched Dosbarth “heriau unigryw” eleni.
“Roedd ein dysgwyr Blwyddyn 13 yn wynebu heriau unigryw, ar ôl cael eu heffeithio gan yr aflonyddwch a achoswyd gan y pandemig COVID-19 ers Blwyddyn 10,” meddai Heledd Stanford, Pennaeth y Chweched Dosbarth.
“Er gwaethaf y rhwystrau hyn, roedden nhw’n arddangos hyblygrwydd a phenderfyniad eithriadol, gan ddangos eu gallu i oresgyn adfyd a dod yn gryfach nag erioed.”
Blwyddyn arall i fynd i rai
Roedd myfyrwyr Blwyddyn 12 yr ysgol hefyd yn derbyn eu canlyniadau Uwch Gyfrannol heddiw.
Mae Kajia Gillanders yn astudio’r Cyfryngau, Hanes a’r Gyfraith, ac Isabel Gallacher yn astudio’r Gyfraith, Gwleidyddiaeth a Hanes.
Roedd y ddwy ychydig yn siomedig yn eu graddau.
Ond yn ôl Isabel Gallacher, roedd hi’n teimlo’n “olreit” gan fod ganddi flwyddyn arall o’i chwrs yn weddill, a chan fod gwaith cwrs ar y gweill yn seiliedig ar bwnc mae’n ei fwynhau.
O ran eu cynlluniau, dywed y ddwy eu bod nhw am ofyn am cymorth gyda’r pynciau doedden nhw ddim yn eu deall 100%.
‘Pawb wedi llwyddo’
Dywed y Pennaeth Catrin Pritchard ei bod hi’n “falch iawn” o’r llwyddiannau, gyda dau ddisgybl wedi ennill ysgoloriaethau llawn i fynd i Brifysgol Aberystwyth.
Ychwanega fod “pawb wedi llwyddo, a dyna oedd y peth pwysicaf”.
Mae’r ysgol hefyd wrthi’n magu perthynas â Phrifysgol Bangor, meddai, ac maen nhw’n rhan o’r rhwydwaith newydd yn Wrecsam sy’n dathlu diwylliant ac amrywiaeth.
Fodd bynnag, mae yna heriau mawr i’r ysgol ar y ffin o hyd, fel yr unig le sy’n cynnig darpariaeth lawn trwy gyfrwng y Gymraeg yno.
Maen nhw’n parhau i wynebu trafferthion o ran recriwtio i’r Chweched Dosbarth oherwydd diffyg cadarnhad ynghylch trafnidiaeth i’r myfyrwyr ar draws y ddinas-sir i’r ysgol.
Mae teimlad fod rhaid i’r myfyrwyr gael gwybod ymlaen llaw, cyn dewis astudio yno, a fydd lle iddyn nhw ar y bws, ond yn aml maen nhw’n derbyn gwybodaeth yn rhy hwyr.
Ar ben hyn, mae teithio ar y bws yn ddrud, ond ateb y Cyngor yw eu bod nhw’n aros am adolygiad Llywodraeth Cymru o’r ‘Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru)’.
Yn y cyfamser, mae’r myfyrwyr presennol mewn sefyllfa letchwith.
Mae Coleg Cambria yn medru talu am drafnidiaeth, gan fod y canllawiau yn wahanol iddyn nhw fel coleg nag y maen nhw i’r ysgol.
Does dim modd cymryd pres o gyllideb yr ysgol i dalu am basys bws, er enghraifft, gan mai arian y trethdalwr yw hyn, yn hytrach na nawdd.
Gyda’r Chweched Dosbarth yn rhan bwysig o fywyd yr ysgol, a’r ysgol yn gyfrifol am ddarpariaeth Safon Uwch cyfrwng Cymraeg yr ardal, mae yna heriau i’w datrys yn Ysgol Morgan Llwyd, Coleg Cambria a thu hwnt.
Prifysgol (Glyndŵr) Wrecsam
Roedd gan Brifysgol Glyndwr Wrecsam, sy’n cael ei ailfrandio’n Brifysgol Wrecsam ar hyn o bryd, stondin yn Nhŷ Pawb heddiw.
Mae Joy Brereton yn gweithio yn yr adran sy’n recriwtio myfyrwyr, ac mae hi’n dweud bod cael stondin yn y brifysgol yn “atgyfnerthu’r cysylltiad hefo’r gymuned”.
Y bwriad heddiw ar ddiwrnod canlyniadau, meddai, oedd annog unrhyw un â chwestiynau neu oedd eisiau rhagor o wybodaeth i ddod draw i’w holi.
Ategodd Andy Philips, Rheolwr Derbyniadau’r brifysgol, fod y garfan o fyfyrwyr lleol, aeddfed yn bwysig iawn i’r brifysgol.
Wrth edrych ar bob math o lwybrau gwahanol i fyfyrwyr Wrecsam, a Chymru o ran hynny,
Daeth hi’n amlwg, felly, fod diwrnodau fel heddiw’n bwysig i fyfyrwyr a darpar-fyfyrwyr wrth iddyn nhw ddilyn pob math o lwybrau gwahanol – yma yn Wrecsam ac ym mhob cwr o Gymru.