Mae mwy na 200,000 o aelwydydd yng Nghymru’n ei chael hi’n anodd gwneud taliadau ar eu tai, gan gynnwys morgeisi a rhent.
Daw’r dadansoddiad gan y Blaid Lafur ar sail data’r Swyddfa Ystadegau Gwladol, sy’n dangos bod 43% o aelwydydd sy’n rhentu (99,253 o aelwydydd) a 28% o aelwydydd sy’n talu morgais (106,991 o aelwydydd) yn ei chael hi’n anodd cael deupen llinyn ynghyd.
At ei gilydd, mae 206,244 o deuluoedd yng Nghymru’n cael eu gwasgu i’r eithaf – bron y tu hwnt i’r eithaf mewn rhai achosion – er mwyn cynilo digon o arian i wneud taliadau angenrheidiol.
Yn ôl y Blaid Lafur, bydd mwy na 30,000 o aelwydydd yng Nghymru’n wynebu’r perygl o adfeddiannu cartrefi erbyn diwedd y flwyddyn, wrth iddyn nhw ei chael hi’n anodd gwneud taliadau sy’n cynyddu.
Yn ôl Llafur, mae’r sefyllfa’n dangos “methiant y Llywodraeth Dorïaidd hon i fynd i’r afael â sioc economaidd, lefelau uwch nag erioed o chwyddiant, ac argyfwng costau byw poenus sy’n cael canlyniadau trychinebus”.
‘Sicrwydd economaidd’
Wrth amlinellu eu cynlluniau i fynd i’r afael â’r heriau wrth i gyfraddau llog gynyddu, dywed Llafur mai’r unig ffordd hirdymor o ddatrys sefyllfa’r morgeisi yw rhoi sicrwydd i’r economi.
“Tra bo’r Llywodraeth Dorïaidd yn San Steffan yn methu â wynebu effaith eu camgymeriadau, mae cannoedd o filoedd o deuluoedd ledled Cymru’n ymgiprys â tharanfollt morgeisi y Torïaid,” meddai Jo Stevens, llefarydd materion Cymreig y Blaid Lafur.
“Fydd Llafur ddim yn sefyll ar y cyrion gan adael pobol sy’n gweithio yng Nghymru i wynebu’r argyfwng hwn ar eu pen eu hunain, gyda’n pecyn morgeisi gorfodol yn atal aelwydydd rhag cwympo trwy’r craciau am gefnogaeth.
“Ond rydym yn gwybod fod angen ateb tymor hir arnom i’r ansicrwydd sy’n plagio aelwydydd.
“Bydd cynllun Llafur yn adfer sicrwydd ariannol ac economaidd, fel y gallwn ni symud yn ein blaenau tuag at ddyfodol gwell.”