Mae cynllun arbenigol maethu cŵn sy’n cefnogi perchnogion sy’n ffoi rhag trais yn y cartref wedi cyhoeddi apêl frys am ragor o faethwyr yng Nghymru.

Daw hyn yn sgil cynnydd o 23% yn y galw am y fath wasanaeth dros y flwyddyn ddiwethaf.

Y Prosiect Rhyddid, sy’n cael ei reoli gan yr Ymddiriedolaeth Cŵn, yw’r elusen lles cŵn fwyaf yn y Deyrnas Unedig, ac mae’n cynnig cymorth i berchnogion sy’n ffoi rhag trais yn y cartref drwy gynnig cartrefi maeth dros dro, gan alluogi goroeswyr i gael mynediad at lety diogel heb orfod gofidio ynghylch beth fydd yn digwydd i’w cŵn os nad oes modd iddyn nhw fynd gyda nhw.

Caiff anifeiliaid anwes eu camdrin yn aml iawn, ac mewn rhai achosion maen nhw’n cael eu lladd gan y sawl sy’n camdrin eu perchennog.

Yn ogystal â chamdrin corfforol, caiff cŵn eu defnyddio yn aml iawn i reoli’r perchennog.

Hyd yn hyn eleni, mae gwirfoddolwyr y Prosiect Rhyddid wedi maethu 185 o gŵn, gan alluogi 144 o bobol i ffoi rhag trais yn y cartref.

Ond o ganlyniad i’r cynnydd yn y galw am eu gwasanaethau, mae’r prosiect bellach yn chwilio am ragor o wirfoddolwyr i faethu fel bod modd cefnogi rhagor o bobol.

Mae’r Ymddiriedolaeth yn talu’r holl gostau, gan gynnwys biliau’r milfeddyg, bwyd, danteithion, gwastrodi a deunydd ar gyfer y gwely.

Mae unrhyw ymrwymiad yn y cynllun yn gwbl gyfrinachol er mwyn gwarchod y cŵn a’r perchnogion.

Dydy cŵn ddim yn cael eu maethu yn yr ardal lle buon nhw’n byw, a fydd y rhai sy’n maethu ddim yn gwybod pwy oedd y perchnogion blaenorol.

‘Brawychus’

Mae Neil yn un gwirfoddolwyr sy’n maethu trwy’r Prosiect Rhyddid ar hyn o bryd.

“Fe gollon ni ein ci ein hunain ryw bum mlynedd yn ôl, a thra bod gennym ni dwll siâp ci yn ein bywydau, doedden ni ddim eisiau ymrwymo i gael ci arall i ni ein hunain,” meddai.

“Cafodd fy ngwraig wybod ar-lein am faethu cŵn ar gyfer y Prosiect Rhyddid, ac fe sylweddolon ni fod hyn yn rywbeth y gallen ni ei wneud i gefnogi pobol mewn sefyllfa anodd.

“Mae bod yn faethwyr cŵn yn rhoi’r cyfle i ni fod yn fwy cymdeithasol yn yr awyr agored, ac mae’n rhoi boddhad eithriadol i weld y cŵn yn ymgartrefu a gwybod eich bod chi wedi rhoi lle diogel i’r ci.

“Does dim rhaid i’r perchennog boeni lle mae eu ci neu sut ofal maen nhw’n ei gael, ac maen nhw’n rhan annwyl o deulu hyd nes eu bod nhw’n gallu mynd adref.”

Dywed Laura Saunders, Rheolwr y Prosiect Rhyddid gyda’r Ymddiriedolaeth Cŵn, eu bod nhw “wedi gweld drosom ein hunain y ffyrdd mae troseddwyr yn defnyddio cŵn i orfodi, rheoli, niweidio’n gorfforol a bygwth o fewn perthnasau treisgar”.

“Mae hyn yn hynod frawychus i oroeswyr, a’r nod yn aml iawn yw ynysu pobol,” meddai.

“Drwy ddarparu cartrefi maeth dros dro i gŵn, rydym yn cefnogi goroeswyr i gael mynediad at lety diogel, gyda’r sicrwydd y bydd eu ci yn cael gofal hyd nes bod modd eu huno eto.

“Tra ein bod ni’n falch o fod wedi gallu cynnig cymorth i gynifer o bobol, mae angen sylweddol o hyd am ein gwasanaeth, ac mae angen rhagor o ofalwyr maeth ar frys arnom drwy’r Deyrnas Unedig fel y gallwn ni barhau â’r gwaith hwn sy’n achub bywydau.”

Mae’r Prosiect Rhyddid yn chwilio am:

  • wirfoddolwyr sydd yn y tŷ yn ystod y dydd
  • pobol sydd wedi ymddeol neu sy’n gweithio gartref
  • pobol sydd â phrofiad o ofalu am gŵn
  • pobol sy’n gallu ymrwymo i faethu ci am o leiaf chwe mis

Dylai unrhyw un all helpu fynd i www.dogstrustfreedomproject.org.uk neu ffonio  0808 196 6240.