Bydd Liz Saville Roberts, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd, a’r Cynghorydd June Jones yn cynnal digwyddiad galw heibio ym Meddgelert i roi cyfle i bobol leol godi pryderon am faterion yn ymwneud â chysylltedd yn yr ardal.
Cafodd pryderon eu codi pan newidiodd Openreach rai cwsmeriaid o linell gopr i ffeibr mewn cymunedau lle nad oes signal rhwydwaith symudol, sy’n golygu nad oes unrhyw fodd o gysylltu ag unrhyw un bellach pan fydd tarfu ar y cyflenwad pŵer.
Mae’r digwyddiad galw heibio wedi’i anelu at bobol sy’n byw ym Meddgelert, Nantmor, Blaen Nantmor, Nantgwynant a’r ardaloedd cyfagos lle mae mynediad i fand-eang cyflym, dibynadwy a signal ffôn yn effeithio ar drigolion a busnesau ers tro.
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal rhwng 4-6yp yn Neuadd Beddgelert ar Awst 30.
‘Pryderon gwirioneddol’
“Mae nifer o etholwyr lleol sydd â phryderon gwirioneddol a dybryd am faterion cysylltedd o fewn ein cymuned wedi cysylltu â mi,” meddai’r Cynghorydd June Jones.
“Mae gennym sefyllfa lle nad oes gan drigolion lleol unrhyw fodd o gysylltu â’i gilydd a’r gwasanaethau brys pan fydd y cyflenwad pŵer yn diffodd – ni allant hyd yn oed gysylltu â’r cyflenwyr pŵer eu hunain i’w hysbysu o broblem.
“Mae’n annerbyniol bod pobol, yn yr oes sydd ohoni, yn cael eu torri i ffwrdd gan y diffyg mynediad i fand eang dibynadwy a gwasanaeth symudol – yn enwedig mewn ardaloedd gwledig lle mae mynediad i’r rhwydwaith yn anghenraid.
“Rwy’n croesawu unrhyw un sy’n dymuno codi pryderon am faterion cysylltedd yn yr ardal leol i fynychu’r digwyddiad galw heibio hwn gyda mi a Liz Saville Roberts.”
‘Cymunedau gwledig yn parhau i ddioddef yn anghymesur’
“Er bod buddsoddiad sylweddol wedi bod mewn cysylltedd symudol a band-eang ar draws Dwyfor Meirionnydd yn y blynyddoedd diwethaf, mae rhai cymunedau gwledig yn parhau i ddioddef yn anghymesur o ran cael mynediad at wasanaeth dibynadwy,” meddai Liz Saville Roberts.
“Dylid gwerthfawrogi bod busnesau gwledig a’r rhai sy’n gweithio o gartref yn teimlo bod yr arafwch y mae rhai materion cysylltedd yn cael eu datrys yn ei chael yn hynod o rwystredig.
“I gymhlethu pethau, deallaf fod rhai cartrefi, ar ôl cael eu troi o llinell gopr i ffibr mewn ardaloedd lle nad oes eisioes signal symudol, bellach yn cael eu torri i ffwrdd yn llwyr pan fydd y cyflenwad pŵer yn diffodd.
“Mae rheolau Ofcom yn golygu bod yn rhaid i ddarparwyr gymryd yr holl fesurau angenrheidiol i sicrhau bod eu cwsmeriaid yn gallu ffonio’r gwasanaethau brys yn ystod toriad pŵer a rhoi camau ychwanegol mewn lle wrth iddynt symud i dechnoleg newydd sy’n seiliedig ar fand eang.
“Byddwn felly’n annog pobol sy’n byw yn y cymunedau hyn sy’n gweld cael signal ffôn a chael mynediad i’r rhyngrwyd yn her wirioneddol, i fynychu’r digwyddiad galw heibio cyhoeddus hwn a chodi eu pryderon penodol gyda ni.
“Byddaf yn gweithio’n agos gyda’r Cynghorydd June Jones i roi pwysau pellach ar ddarparwyr band eang a rhwydwaith i sicrhau bod pobol sy’n byw yn Nantmor, Beddgelert a Nantgwynant yn cael y gwasanaeth y mae ganddynt hawl iddo.”