Mae’r tanau mawr ar ynysoedd Hawaii yn peryglu dyfodol ei hiaith frodorol, ar ôl i ysgol drochi gael ei llosgi i’r llawr.

Am ddegawdau, roedd ysgol Punana Leo yn Lahaina yn symbol o’r frwydr i achub yr iaith a’r diwylliant.

Roedd hon yn un o 13 ysgol ar yr ynys oedd yn trochi pobol yn iaith Olelo Hawaii, sef iaith hynafol yr ynysoedd ddaeth yn agos i farw’n llwyr cyn bod ymgyrch i’w hachub yn y 1970au.

Mae Lahaina hefyd yn ardal sy’n hybu diwylliant brodorol Polynesiaidd, ac roedd yn un o’r canolfannau gafodd eu sefydlu er mwyn ceisio adfywio’r iaith ar ôl dileu’r gwaharddiad ar ddysgu ieithoedd brodorol yr ynysoedd yn 1978.

Cafodd ysgolion Punana Leo eu sefydlu cyn i Adran Addysg Hawaii ddechrau cynllun trochi yn y 1980au ac erbyn hyn, mae rhyw ddau ddwsin o ysgolion yn cynnig rhaglenni trochi tebyg.

Yn y 1800au, roedd oddeutu 800,000 o bobol yn siarad Olelo Hawaii; ganrif yn ddiweddarach, ychydig gannoedd o bobol yn unig oedd yn medru’r iaith.

Dim ond tua 26,000 o bobol sy’n siarad yr iaith erbyn hyn, er bod 309,000 o bobol yn cyfrif eu hunain yn frodorion, yn ôl Cyfrifiad 2021 yn yr Unol Daleithiau.

‘Mwy na dim ond adeilad’

Yn ôl arbenigwr ym Mhrifysgol Hawaii, mae’r tanau wedi dinistrio llawer mwy na dim ond adeilad.

Dywed fod yr ysgol yn symbol o ddiwylliant llewyrchus sydd wedi goresgyn nifer o frwydrau.

“Mae iaith yn gonglfaen i bobol, lle caiff seiliau eu gosod er mwyn adeiladu cymeriad yr hunaniaeth genedlaethol ethnig,” meddai wrth Reuters, gan ychwanegu bod iaith yn allweddol i hunaniaeth.

“Rydyn ni’n dysgu pwy oedden ni, sy’n cyfrannu at bwy ydyn ni heddiw, a phwy hoffem fod yn y dyfodol.”

Mae’r iaith yn dal i fod ar restr UNESCO o ieithoedd sydd mewn perygl, ac mae’r tair ysgol drochi yn Lahaina ynghau yn dilyn y tanau.

Dim ond man ddifrod ddioddefodd tair ysgol Lahaina, meddai’r awdurdodau, sy’n dweud mai ailadeiladu yw’r nod yn y tymor hir.