Mae dynes o Rosgadfan yn dweud ei bod hi wedi’i chael hi’n hawdd cael diagnosis o Anhwylder Dysfforig Cyn Mislif (PMDD), gan ei bod wedi cadw dyddiadur o’i symptomau.
Ond mae Ceridwen Oakley Owen yn adnabod eraill sydd heb mor ffodus.
Mae deiseb i wella addysg am y cyflwr ymhlith gweithwyr gofal iechyd proffesiynol wedi cael ei llofnodi dros 400 o weithiau.
Mae’r ddeiseb yn dweud y dylai Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AAGIC) wneud Anhwylder Dysfforig Cyn Mislif (PMDD) yn fodiwl datblygiad proffesiynol parhaus gorfodol mewn addysg feddygol ôl-radd.
Mae Anhwylder Dysfforig Cyn Mislif yn anhwylder sy’n seiliedig ar hormonau sy’n effeithio ar 5.5% o fenywod sy’n cael mislif.
Mae’n achosi symptomau meddyliol, emosiynol a chorfforol difrifol yn ystod y pythefnos cyn pob mislif, ac mae’r symptomau’n ddinistriol i bob agwedd ar fywyd y rhai sy’n byw â’r cyflwr.
Does dim iachâd ar gael, dim ond dulliau i reoli’r symptomau.
Mae’r diffyg ymwybyddiaeth a’r addysg wael yn y maes meddygol yn golygu bod dioddefwyr yn aml yn cael gofal sy’n is na’r safon ddisgwyliedig, ac maen nhw’n aros deuddeg mlynedd ar gyfartaledd cyn cael diagnosis, a thrwy hynny, yn aros am driniaeth briodol a diogel.
Adnabod patrwm y symptomau
Er mwyn gallu rhoi diagnosis amserol a rheolaeth ddiogel i’r rhai sydd ag Anhwylder Dysfforig Cyn Mislif, mae’n ofynnol fod gan weithwyr meddygol proffesiynol wybodaeth ynghylch sut i adnabod patrwm cylchol y symptomau, sy’n rhwystr ar hyn o bryd ar draws y system gofal iechyd.
Does dim addysg orfodol ar Anhwylder Dysfforig Cyn Mislif, ond gall y rhai sy’n dymuno arbenigo mewn anhwylderau mislif ddewis dilyn modiwl datblygiad proffesiynol parhaus.
Mae Coleg Brenhinol y Seicolegwyr (RCPsych) yn cynnig un modiwl cyfunol ar hormonau ac iechyd meddwl, ac mae Coleg Brenhinol y Gynaecolegwyr (RCOG) a Choleg Brenhinol y Meddygon Teulu (RCGP) yn cynnig addysg gyfyngedig ar syndrom cyn mislif yn unig.
Byddai sicrhau bod myfyrwyr ôl-radd â gwybodaeth am Anhwylder Dysfforig Cyn Mislif (PMDD) yn:
- eu galluogi i adnabod arwyddion rhybudd cynnar o’r cysylltiad rhwng iechyd meddwl a chylch y mislif
- caniatáu i fyfyrwyr ddarparu cymorth ac annog menywod neu unigolion sydd wedi’u geni yn fenywaidd olrhain eu cylchoedd wrth ddod ger eu bron ag argyfwng iechyd meddwl, gan nodi unrhyw batrwm cylchol o ran symptomau
- sicrhau diagnosis mwy amserol.
- sicrhau bod gan bob myfyriwr a darparwr gofal iechyd wybodaeth gyfredol am y canllawiau triniaeth ar gyfer Anhwylder Dysfforig Cyn Mislif.
Symptomau
“Tua phythefnos cyn i fislif fi ddechrau, rwy’n ôr-flinedig,” meddai Ceridwen Oakley Owen, un sy’n byw â’r cyflwr, wrth golwg360.
“Mae’r blinder yn chwalfa, mae’n anodd codi yn y bore.
“Rwy’n gweithio efo plant felly mae hynny’n anodd, oherwydd rwy’ eisiau bod yn hapus a llon i’r plant.
“Mae poen dros fy nghorff i gyd.
“Rwy’ efo llawer o boen beth bynnag, oherwydd rwy’n byw gyda Hypermobility Syndrome felly mae’r boen arferol yn gwaethygu llawer – tymer isel iawn, short fused, stressed yn hawdd iawn, gôrbryder yn ofnadwy o uchel, emosiynau yn bob man a dim egni i wneud tasgau bob dydd.
“Mae o wir fel blanced drom yn cael ei rhoi drosta chdi bob mis yn rheolaidd, a does yna ddim ffordd o dynnu hi, dim ond disgwyl iddi godi.
“Mae’n anodd iawn fod mor out of control efo dy gorff dy hun – PMS arferol ond bod o’n waeth mewn ffordd.
“Gwnaeth o jest waethygu a gwaethygu.”
Diagnosis
Yn wahanol i lawer o ferched, roedd Ceridwen Oakley Owen wedi’i chael hi’n hawdd cael diagnosis.
Gwelodd hi hanes rhywun arall ar y rhyngrwyd, a chadwodd ddyddiadur o’i symptomau a chael diagnosis yn syth gan nad oes prawf ar gael.
Er bod y diagnosis wedi bod yn hawdd, dydy hi heb dderbyn llawer o gymorth ers hynny.
“Cefais ddiagnosis tua phedair blynedd yn ôl, ar ôl blynyddoedd o deimlo’n typically hormonal,” meddai wedyn.
“Roeddwn yn dechrau teimlo reit isel efo fo.
“Gwnaeth un o fy ffrindiau rannu post ar-lein bod hi wedi cael diagnosis efo PMDD.
“Cliciais y linc y gwnaeth hi ei rhannu a gwelais y symptomau, a theimlais fy mod yn darllen rhyw revelation amdan fy hun.
“Gwnes i ddechrau logio a thracio symptomau fi i gyd; mae doctoriaid yn gofyn i chdi wneud hynny.
“Does yna ddim prawf.
“Ti’n gorfod cadw dyddiadur o sut wyt ti’n teimlo’n gorfforol a meddyliol am dri mis, ac wedyn mynd â hwnnw at y doctor a dweud hwn ydw i’n cael profiad ohono fo.
“Gwnes i hynny a chefais i ddiagnosis yn syth oherwydd fy mod i wedi cadw log o’r dyddiadur yma.
“Cynigiodd dabledi gwahanol a ballu.
“Gwelais ddoctor oedd yn ddynes hefyd, felly dwi ddim yn siŵr os helpodd hynny a bod hi wedi ei gymryd fwy o ddifri na beth fysa dyn.
“Roeddwn yn barod i gwffio, ond doeddwn i ddim yn gorfod, felly roedd hynny reit braf.
“Fy ‘top tip‘ yw cadw dyddiadur am ychydig fisoedd.
“Os ydyn nhw’n gweld patrwm, maen nhw’n gallu rhoi diagnosis i chdi.
“Os dydyn nhw ddim yn gweld y patrwm yn datblygu, wnawn nhw jest ddweud bo ti’n hormonal.
“Mae pob un doctor yn wahanol, a ti’n cael rhyw horror stories hefyd.
“Dydw i heb gael profiad da iawn ers hynny efo doctoriaid, dydw i heb gael dim cefnogaeth, does dim byd wedi dod wedyn.
“Mae’r ochr yna ohono fo’n wahanol.”
“I fi, roedd cael diagnosis yn hawdd ond roeddwn wedi darllen rhywbeth.
“Gwnes i ychydig o ymchwil fy hun o’r symptomau a sut ti’n cael diagnosis.
“Efo prawf hormonau, does yna ddim byd fel yna; rwy’n meddwl mai dyna pam fod pobol yn ffeindio fo’n anodd cael diagnosis.
“Does dim prawf du a gwyn.
“Mae llawer o bobol yn cael camddiagnosis efo anhwylder deubegwn (bipolar disorder) neu anhwylder personoliaeth ffiniol (borderline personality disorder), oherwydd mae’r symptomau yn gallu bod mor eithriadol bod chdi’n teimlo fel person hollol wahanol yn y cyfnod yna yn y mis pan wyt ti’n hitio dy cycle.
“Ti jest eisiau lladd bob dim ti’n weld.
“Ti’n wahanol berson.”
Triniaeth
Y driniaeth gafodd ei chynnig iddi oedd SSRI, sef meddyginiaeth wrth-iselder (anti-depressant), ond roedd rhai yn gweithio’n well na ei gilydd.
“Efo’r doctor cyntaf, gwnes i weld y gwnaeth hi roi fi ar Sertraline, felly SSRI.
“Troais allan i fod ag alergedd i honno, gwnes i ddod allan mewn hives mawr, roedd o’n horrible.
“Newidiais i Seropram, SSRI arall, antidepressant felly.
“Dechreuais ar 10mg o honno.
“Es i i fyny i 30mg o fewn chwe mis, oherwydd nad oedd pethau’n gwella llawer.
“Oherwydd ei fod yn rhagnodedig yn arbennig i drin depression, dydy o ddim yn dechnegol yn drwyddedig i drin o, ond ti’n gallu defnyddio fo.
“Es i fyny at 30mg, a dywedodd, ‘Os dydy hwn ddim yn gweithio, bydd rhaid i fi newid chdi eto, fedra’i ddim rhoi chdi ar 40mg.”
“Gwnaeth o setlo llawer o bethau.
“Roeddwn yn meddwl, ‘Mae hyn yn grêt, mae hyn yn ffantastig’.
“Roeddwn dal yn cael y symptomau.
“Roeddwn yn gwybod, ’mae wedi hitio fi rŵan’, doeddwn ddim yn teimlo mor isel a blin.
“Roedd y fatigue dal yn lladdfa, roeddwn dal yn sdryglo i gysgu neu fethu deffro, roedd mood fi wedi gwella dipyn bach.”
Dod oddi ar feddyginiaethau
Yn groes i gyngor y doctor, daeth Ceridwen Oakley Owen oddi ar feddyginiaethau ar ei phen ei hun.
“Rwyf newydd ddod oddi arno,” meddai.
“Ar ôl pedair blynedd, es i i’r doctor a dweud, ‘Rwy’ eisiau dod oddi arno, rwy’ eisiau gweld sut ydw i hebddo fo’.
“Rwy’ wedi bod arno fo ers pedair blynedd.
“Mae llawer o bethau yn fy mywyd wedi newid yn y pedair blynedd diwethaf.
“Rwy’n fam i hogyn efo awtistiaeth, ac mae o wedi cael diagnosis rŵan.
“Roedd llawer o bethau eraill yn digwydd yn fy mywyd oedd ddim yn helpu.
“Doedd normal coping strategy fi efo bywyd ddim yn gweithio, roedd yna lawer o bwysau.
“Gofynnais chwe mis yn ôl i ddod oddi arno.
“Gwnaeth o chwerthin yn fy ngwyneb.
“Dywedodd, ‘Ti ddim eisiau dod oddi arno. Wnei di sylweddoli faint ti angen o os wyt ti’n dod oddi arno fo’. That was it, ac roeddwn fel, ‘Iawn’.
“Gwnes i’r penderfyniad, ‘Rwy’ am weanio fy hun oddi arno fy hun heb ddoctor – obviously not advised!
“Ond mae wedi gweithio i fi.
“Gwnes i weanio fy hun off drwy dorri 10mg allan unwaith bob mis.
“Rwy’ wedi bod hebddo fo rŵan ers dau fis.
“Rwy’n sdryglo, ond dim fel oeddwn i.
“Rwy’n sylweddoli pan mae’r symptomau yn dod ’nôl.”
Y cysylltiad rhwng PMDD a chyflyrau eraill
Mae Ceridwen Oakley Owen wedi cael ei chyfeirio am asesiad am awtistiaeth, ac mae ymchwil yn cael ei gwneud ynghylch y cysylltiad rhwng PMDD a chyflyrau niwroamrywiol.
“Rwy’ wedi gwneud dipyn bach o ymchwil, ac efo llawer o ferched sydd un ai efo ADHD neu awtistiaeth neu bobol niwroamrywiol, mae PMDD i weld yn dod mewn llawer ohonyn nhw.
“Mae llawer o ymchwil yn mynd mewn i’n bod ni’n fwy tueddol i gael ein heffeithio efo newidiadau hormonau.”
Er nad yw Ceridwen Oakley Owen bellach ar feddyginiaethau mae hi’n teimlo bod ffyrdd o ymdopi â’r cyflwr yn feddyliol a chorfforol.
“Rwy’n cerdded llawer pan fedra’i,” meddai.
“Rŵan dydw i ddim ar y Seropram, rydw i’n trio bod yn fwy meddylgar.
“Rwy’n ymwybodol rwy’n dod mewn i fy wythnos crap rŵan.
“Rydw i angen bod yn ffeindiach efo fy hun mewn ffordd.
“Mae’r gŵr yn dda.
“Mae’n dweud, ‘Iawn’, llai o straen arna i fi i wneud rhai pethau neu os ydy’r hynaf yn cael cyfnod anodd efo’i ymddygiad, mae’n gwybod i gamu mewn yn gynharach neu ddweud ‘Dyle chdi wneud rhywbeth arall, wna’i ddelio efo fo heno’.
“Mae pethau bach fel yna yn gwneud llawer o wahaniaeth.
“Mae dy lefelau stress yn mynd o 0 i 10,000 pan wyt ti yng nghanol yr episôd.
“Ti angen gwybod pryd i gamu yn ôl os fedri di, i gael rest pan ti angen o.
“Mae o’n haws dweud na gwneud pan mae gennyt ti blant a gwaith, i jest gwrando ar dy gorff mwy.
“Rwy’n meddwl, dyddiau yma, mae gymaint o bobol efo gymaint o bwysau arnyn nhw wneud y pethau yma i gyd.
“Yn amlwg, dydy’r cyfryngau cymdeithasol ddim yn helpu pan fod so-and-so yn gwneud hyn a dydw i methu.
“Rwy’n rywun gwahanol.
“Rwy’ wedi cysylltu llawer efo cymuned ar-lein, mae yna grwpiau ar Facebook, mae gennyf dudalen Instagram, jest siarad efo pobol sy’n mynd trwy’r un peth â chdi, jest gwybod bo ti ddim ar ben dy hun a bod yna bobol yn mynd trwy union yr un peth â chdi.
“Mae’n helpu a hybu chdi i barhau i fynd.
“Ti fel, ‘Mae’n iawn peidio bod yn iawn.”
Cyflwr hirdymor
Yn ôl Ceridwen Oakley Owen, mae PMDD yn gyflwr hirdymor oherwydd ei fod yn cael ei achosi gan hormonau.
Yr unig ffordd o’i waredu yw cael hysterectomi.
Dywed fod y cyflwr yn gallu gwaethygu ar ôl cael plant.
“Ti efo fo tan bo ti’n mynd trwy’r menopôs,” meddai.
“Mae un o fy ffrindiau wedi cael hysterectomi i drio cael gwared ohono fo.
“Hwnna ydy’r unig ffordd rili, oherwydd mae bob dim yn dod o dy ofarïau a chynhyrchiad hormonau chdi.
“Rai misoedd, rwy’n teimlo’n well, rai misoedd rwy’n teimlo na alla i adael y tŷ.
“Mae’n dibynnu ar dy lifestyle a sut fywyd ti’n byw, mewn ffordd.
“Os oes gennyt ti blant, ti methu cymryd rest pan wyt ti eisiau.
“Os yw’r plant yn yr ysgol a dydw i ddim yn y gwaith, wna’i gysgu am ychydig oriau ond fedra’i ddim gwneud hynny bob dydd; does dim llawer o bobol yn gallu gwneud hynna.
“Dydy alcohol ddim yn helpu, dydy caffein ddim yn helpu.
“Dydy stimulants ddim yn helpu i reoli corff chdi, i gadw fo’n ticking over.
“Os ti efo fo, ti efo fo, mewn ffordd.
“Mae llawer o bobol yn gwaethygu ar ôl cael plant.
“Roeddwn i wedi bod reit hormonal erioed.
“Roedd mam yn dweud, pan ddechreuais fy mislif, roeddwn yn gwybod pryd oeddwn yn dod ar, roeddwn yn gweld newid ynof pan oeddwn yn ieuengach.
“Cefais fy [mhlentyn] hynaf, a gwaethygodd dipyn bach eto.
“Cefais fy ail bum mlynedd yn ôl, ac roeddwn yn meddwl bod gennyf iselder ôl-enedigol.
“Siaradais efo fy ymwelydd iechyd ddywedodd, “Na, does gennyt ti ddim iselder ôl-enedigol, ddim yn ôl hwn’.
“Es i i’r doctor a dywedodd, “Cymera antidepressant, byddi di’n iawn.”
“Dydw i ddim eisiau eu cymryd nhw oherwydd dw i ddim yn gwybod beth sy’n mynd ymlaen, mewn ffordd.
“Dydw i ddim yn teimlo’n depressed, ond dydw i ddim yn teimlo’n iawn chwaith.
“Mae dy hormonau yn amlwg yn mynd yn insane pan wyt ti’n cael plant.
“Hwnna oedd ei ddechrau fo bum mlynedd yn ôl.
“Wedyn, gwnaethon ni symud ’nôl i ochrau Rhosgadfan a chefais ddoctor newydd, a gwnaeth hi gymryd hynny o ddifri.
“Roeddwn wedi bod trwy gwnsela, llwyth o stwff.
“Doedd dim byd yn helpu.
“Roeddwn fel, ‘Beth sy’n bod efo fi?’
“Roedd ychydig yn rhyfedd.
“Unwaith wnes i dderbyn bod hynny yn beth wnaeth helpu, gallwn i ddeall beth sy’n bod rŵan.
“Dydw i ddim yn eistedd yn meddwl, ‘Beth sy’n bod arnaf? Ydw i wedi torri?’
“Does neb yn gallu ffigro allan pam dw i fel hyn.
“Mae o gen ti, ond sut wyt ti’n byw efo fo a sut wyt ti’n gallu’i reoli fo?
“Rwy’ angen help weithiau, ac mae’n iawn; mae pawb angen help weithiau.
“Rwy’ angen ychydig mwy o help ar adegau arbennig o’r mis.”