Mae Kezia Dugdale, cyn-arweinydd Llafur yr Alban, yn dweud nad yw hi bellach yn gallu parhau i ddadlau o blaid aros yn rhan o’r Deyrnas Unedig i’r un graddau ag y gwnaeth hi adeg refferendwm annibyniaeth yr Alban yn 2014.
Dywedodd yn ystod digwyddiad yng Ngŵyl Lyfrau Ryngwladol Caeredin ei bod hi’n teimlo y bydd Albanwyr yn ennill ail refferendwm yn y dyfodol, ond nid o fewn y degawd nesaf gan na fyddai’r Ceidwadwyr na Llafur yn awyddus i weld hynny’n digwydd.
Wrth drafod ei barn ei hun, dywed y byddai’n penderfynu “yn y fan a’r lle” mewn refferendwm a yw hi eisiau i’r Alban fod yn wlad annibynnol.
Dywed ei bod hi’n gwybod sut fyddai hi’n pleidleisio pe bai’n ddewis “rhwng Alban annibynnol mewn Ewrop adeiladol neu Prydain Brexit Boris bach”.
Ond dywed hefyd fod “cwestiynau mawr i’w trafod fel cenedl a’u datrys”.
Gyrfa
Mae Kezia Dugdale bellach wedi gadael gwleidyddiaeth bleidiol.
A hithau’n briod â Jenny Gilruth, Ysgrifennydd Addysg yr SNP, treuliodd hi wyth mlynedd yn Aelod Llafur o Senedd yr Alban, gan arwain y blaid rhwng 2015 a 2017.
Gadawodd hi’r Blaid Lafur dair blynedd yn ôl yn sgil ei chefnogaeth hithau i’r Undeb Ewropeaidd, ond mae hi’n dweud ei bod hi’n awyddus i Syr Keir Starmer ennill yr etholiad cyffredinol nesaf er mwyn “symud y Torïaid o’u swyddi”.