Mae YesCymru’n dathlu pôl piniwn sy’n dangos bod 38% o drigolion Cymru bellach o blaid gadael y Deyrnas Unedig.

Cafodd yr arolwg ei gwblhau gan Redfield & Wilton Strategies er mwyn mesur faint o bobol sydd eisiau i Gymru fod yn wlad annibynnol.

Roedd cwymp o 5% yn nifer y bobol fyddai’n gwrthwynebu annibyniaeth, sy’n golygu mai 53% yw’r ffigwr erbyn hyn.

Mae nifer y bobol fyddai’n pleidleisio o blaid annibyniaeth wedi codi un pwynt canran i 33%.

Roedd cynnydd o bedwar pwynt canran o ran pobol ddywedodd eu bod nhw’n ansicr (14%).

O ddiystyru’r rhai ansicr, mae’r ganran sydd o blaid annibyniaeth wedi codi i 38%.

Byddai 41% o bobol 18 i 24 oed yn pleidleisio dros annibyniaeth, ac mae’r ffigwr yn codi i 51% ymhlith pobol 25 i 34 oed.

Argyfwng costau byw

Daw’r pôl piniwn diweddaraf yng nghanol darlun economaidd llwm ledled y Deyrnas Unedig, yn bennaf o ganlyniad i’r argyfwng costau byw.

Yn ôl Geraint Thomas, sy’n aelod o fwrdd YesCymru, mae’r cynnydd yn y gefnogaeth i annibyniaeth yn “ddigynsail” ac yn “syfrdanol”, ac yn brawf fod pobol yng Nghymru’n “colli ffydd yn gyflym iawn yn San Steffan”.

“Mae’n amlwg fod yr awch yng Nghymru am annibyniaeth oddi wrth San Steffan yn tyfu’n ddyddiol,” meddai.

“Mae’r hyrddiad tuag at bleidlais ‘Ie’ mewn refferendwm yn y dyfodol wedi bod yn tyfu ar gyfartaledd o un pwynt canran bob mis dros y chwe mis diwethaf – sy’n eithaf digynsail.

“Mae pobol Cymru wedi cael digon o wleidyddion yn San Steffan sydd ddim yn gwneud unrhyw beth i’w cefnogi nhw.

“Gyda dyfodiad sgwrs go iawn mewn aelwydydd a chymunedau ledled Cymru, mae ein trigolion bron iawn yn ddieithriad yn dod i’r un casgliadau – mai’r unig ffordd i sicrhau gobeithion cenedlaethau’r dyfodol yw ymreolaeth.

“Bydd dyfodol sydd wedi’i glymu wrth San Steffan bob amser yn andwyol i bobol Cymru, fel y bu erioed.”

Hanner y stori

“Dim ond hanner y stori yw’r cynnydd yn y pôl ar y cyfan o blaid pleidlais ‘Ie’,” meddai Geraint Thomas wedyn.

“Mae’r darlun go iawn yn ein demograffeg iau.

“Mae’r holl grwpiau pleidleisio iau (o dan 35 oed) dros 50%, a’r rhai 18 i 24 oed yn 55%.

“Mae egni a hyder o’r newydd ymhlith cenhedlaeth iau Cymru, ac mae’n aruthrol eu bod nhw’n gweld eu cenedl annibynnol allblyg fel yr unig ffordd o ddiogelu eu dyfodol.”