Mae Clwb Pêl-droed Wrecsam wedi penderfynu peidio apelio, ar ôl iddyn nhw fethu â denu Luke Armstrong i’r clwb cyn i’r ffenest drosglwyddo gau.

Roedd disgwyl i’r ymosodwr ymuno o Harrogate ar ddiwrnod ola’r ffenest drosglwyddo, ond doedd yr holl waith papur ddim wedi cael ei gwblhau mewn da bryd.

Roedd Wrecsam wedi bwriadu apelio yn erbyn y penderfyniad na fyddai’r trosglwyddiad yn cael mynd rhagddo, ond maen nhw’n dweud mai ychydig iawn o obaith fyddai ganddyn nhw o ennill eu hapêl.

Mae’r clwb wedi ymddiheuro wrth Luke Armstrong a Chlwb Pêl-droed Harrogate, ac yn dweud y byddan nhw’n ystyried eu gweithdrefnau yn y dyfodol.