Mae tîm criced Morgannwg wedi colli cyfle mawr yn y ras am ddyrchafiad i Adran Gynta’r Bencampwriaeth y tymor nesaf.
Wrth ennill o 80 rhediad, mae’r Saeson wedi cryfhau eu gafael ar yr ail safle hollbwysig yn yr Ail Adran, gyda dwy sir yn gallu ennill dyrchafiad.
Cipiodd y tîm cartre’r fuddugoliaeth gyda mwy na diwrnod yn weddill ar lain oedd yn gryn gymorth i’r bowlwyr o’r dechrau’n deg.
Mae’r canlyniad yn golygu bod Morgannwg wedi colli gêm am y tro cyntaf y tymor hwn, a bod Swydd Gaerwrangon 31 o bwyntiau ar y blaen, gyda Swydd Gaerlŷr yn drydydd yn y tabl a’r sir Gymreig bellach yn bedwerydd.
Manylion
Ar ôl galw’n gywir a phenderfynu bowlio, roedd penderfyniad Morgannwg i’w weld yn dwyn ffrwyth wrth i’r Saeson gael eu bowlio allan am 284 yn eu batiad cyntaf, gyda Brett D’Oliveira yn taro 74 a Logan van Beek 53.
Cipiodd Jamie McIlroy, y bowliwr cyflym llaw chwith, a’r bowliwr cyflym James Harris dair wiced yr un.
Ymatebodd Morgannwg gyda chyfanswm o 170 yn unig, wrth i van Beek gipio pedair wiced.
Roedd cefnau’r sir Gymreig yn erbyn y wal erbyn hynny, ond sicrhaodd un o berfformiadau gorau’r tymor gyda’r bêl y byddai’r diweddglo’n un cyffrous.
Dechreuodd y Saeson y trydydd diwrnod ar 127 am wyth, wrth i McIlroy gipio pum wiced mewn batiad am y tro cyntaf erioed, gan orffen gyda ffigurau o bum wiced am 34 wrth i Swydd Gaerwrangon ychwanegu deunaw at eu sgôr dros nos.
Nod o 260 oedd gan Forgannwg, felly, ond doedd hi ddim yn hir cyn i Joe Leach daro coes Eddie Byrom o flaen y wiced, ac fe ddioddefodd Morgannwg gyfnod lle collon nhw dair wiced am saith rhediad i’w gadael nhw’n 37 am bedair.
Ychwanegodd Sam Northeast a Billy Root 48 mewn unarddeg o belawdau cyn i Northeast gael ei ddal yn y slip gan Adam Hose.
Cyrhaeddodd Root ei hanner canred oddi ar 53 o belenni gydag ergyd am bedwar, ond cafodd Chris Cooke ei ddal yn y slip gan Jake Libby wrth gamergydio.
Methodd Ben Kellaway â sgorio’r un rhediad yn yr ornest wrth gael ei fowlio gan van Beek, a gyrrodd James Harris at Jack Haynes yn y slip.
Cafodd Timm van der Gugten ei ddal yn y slip gan Hose oddi ar fowlio Leach, a daeth y gêm i ben pan gafodd McIlroy ei fowlio gan van Beek, ac roedd Billy Root heb fod allan ar 114 yn y pen draw.
Mae gan Forgannwg ddwy gêm i achub y sefyllfa, ond mae eu gobeithion yn pylu ar ôl yr ergyd drom hon yng Nghaerwrangon.
‘Bydd hi’n anodd’
Wrth ymateb i’r golled, dywed y prif hyfforddwr Matthew Maynard y “bydd hi’n anodd” i Forgannwg ennill dyrchafiad bellach.
“Roedd hi’n llain anodd i fatio arni, a’r peth anoddaf i’w wneud oedd cael mewn ac ymsefydlu a batio pymtheg i ugain o belenni,” meddai.
“Ddaru neb taflu eu wicedi i ffwrdd, roeddan nhw wedi’u cael allan wrth y llain, ac roedd yna fowlio da gan Swydd Gaerwrangon.
“Roedd tri batiad â sgôr tebyg iawn i’w gilydd, ac roedd y bartneriaeth o 101 (rhwng D’Oliveira a Beek) yn adrodd cyfrolau; felly hefyd y 74 ddilynodd (rhwng D’Oliveira a Ben Allison) ym matiad cyntaf Swydd Gaerwrangon.
“Byddwn i’n awgrymu mai nhw oedd y ddwy bartneriaeth uchaf yn y gêm, a dyna ddaru wneud y gwahaniaeth mwyaf yn y pen draw.”
Roedd hi’n “llain ddiddorol iawn”, meddai, gan ychwanegu mai Billy Root oedd yr unig fatiwr o Forgannwg oedd yn edrych yn gyfforddus arni.
“Ro’n i’n meddwl ei bod hi’n ornest dda iawn,” meddai.
“Roedd hi’n adlamu oddi ar y llain, yn symud oddi ar y sêm, ond y gwahaniaeth mwyaf oedd ansawdd y peli yma.
“Roedd y sêm dipyn galetach na’r rhai yn yr ail grŵp o beli Duke ddaeth allan eleni, ac mi ddaru nhw gadw eu siâp yn wych, gan wyro drwy gydol y gêm, a ddaru hynny helpu i wneud yr amodau’n anoddach i fatio.
“O ran gobeithion am ddyrchafiad? Bydd hi’n anodd.
“Rhaid i ni beidio poeni’n ormodol am y tabl, canolbwyntio ar gipio ugain o wicedi a sgorio mwy o rediadau na’r gwrthwynebwyr.”
Y Prif Weithredwr yn gadael ei rôl
Yn y cyfamser, mae’r Prif Weithredwr Hugh Morris wedi cyhoeddi ei fod e’n camu o’r neilltu ar ôl degawd yn y swydd.
Yn ystod ei gyfnod wrth y llyw, roedd y clwb wedi dileu canran sylweddol o’u dyledion gafodd eu cronni wrth ailadeiladu’r stadiwm er mwyn cynnal gemau prawf.
Yn gyn-chwaraewr a chyn-gapten, arweiniodd e’r sir i dlws y gynghrair undydd AXA Equity & Law yn 1993, ac fe ddaeth ei gêm olaf i’r sir yn Taunton yn 1997 wrth i Forgannwg ennill y Bencampwriaeth am y tro cyntaf ers 1969.
Cafodd ei benodi’n un o benaethiaid Bwrdd Criced Cymru a Lloegr wrth gyhoeddi ei ymddeoliad, gan dreulio 16 o flynyddoedd mewn amryw o swyddi cyn dychwelyd i Forgannwg yn 2014.
Fe fu’n Brif Weithredwr ac yn Gyfarwyddwr Criced am dair blynedd cyn i adolygiad annibynnol argymell hollti’r swydd.
Fe fu’n goruchwylio’r ymdrechion i ddenu criced rhyngwladol i’r stadiwm, yn ogystal â sicrhau bod Gerddi Sophia’n bencadlys y Tân Cymreig yn y Can Pelen.
Bu’n derbyn triniaeth am ganser dros y flwyddyn ddiwethaf – yr eildro iddo gael diagnosis ar ôl cael triniaeth am y tro cyntaf yn 2002, ac fe fu’n weithgar yn y maes hwnnw yn codi arian at elusennau.
Er ei fod yn camu o’i swydd bresennol, mae’r clwb wedi cyhoeddi rôl newydd iddo’n goruchwylio llwybrau criced y timau ieuenctid er mwyn ceisio adnabod chwaraewyr y dyfodol.