Dros y penwythnos (Medi 1) lansiwyd cylchgrawn chwaraeon newydd i fod yn gartref i gampau Cymru.
Chwys yw enw’r cylchgrawn digidol, sy’n “wasanaeth arloesol” yn y Gymraeg gan gwmni Golwg.
O’r Vuelta a España i ralïau ceir i glybiau lleol yr wythnos, a hyd yn oed snorclo corsydd – bydd Chwys yn rhoi sylw i gamp y Cymry ar draws y meysydd chwaraeon.
Bydd y gwasanaeth yn cynnwys sylwebaeth arbenigol, cyfweliadau ecsgliwsif, cwisiau a heriau gan gyfranwyr amrywiol sy’n ymddiddori yn eu camp.
Mae modd i gefnogwyr chwaraeon Cymru ym mhob cwr o’r byd ymuno â’r clwb a derbyn Chwys ar ffurf cylchlythyr e-bost rheolaidd, ynghyd â mynediad i’r holl gynnwys ar-lein, a hynny am gyn lleied â £1 y mis.
‘Mae gan bawb stori’
Nerys Henry yw golygydd Chwys, ac mae’n edrych ymlaen at ddod â hanesion y Cymry ym myd y campau yn fyw.
“Mae llwyddiant Cymru yn y campau yn un i ymfalchïo ynddo.
“Rydyn ni fel cenedl yn gyson yn gor-gyflawni ar y llwyfan rhyngwladol, mewn amrywiaeth o gampau, ac rydyn ni eisiau dathlu a rhannu’r llwyddiannau yma gyda’r genedl gyfan,” meddai.
“O’r tîm gymnasteg ieuenctid lleol, i’r tîm codi pwysau rhyngwladol, mae gan bawb stori ac mae Chwys yn barod i’w hadrodd!”
Mae Owain Schiavone, Prif Weithredwr Golwg Cyf, yn falch o’r cyfle i arloesi gyda’r cyhoeddiad yma: “Rydym yn awyddus i geisio datblygu gwasanaeth sy’n arloesol yn y Gymraeg ac sy’n cynnig sylwebaeth arbenigol ar nifer o gampau gwahanol – o’r rhai prif ffrwd a phoblogaidd i chwaraeon llai amlwg sydd efallai ddim yn cael sylw haeddiannol ar hyn o bryd.
“Prosiect peilot ydy hwn gyda chefnogaeth Cyngor Llyfrau Cymru, ond rydym yn ffyddiog y bydd digon o ddiddordeb i gynnal y gwasanaeth yn y tymor hir.”
‘Edrych ymlaen yn arw’
Mae Chwys yn cael ei ariannu gan Gyngor Llyfrau Cymru, er mwyn peilota cylchgrawn newydd i’r farchnad Gymraeg.
Dywedodd Arwel Jones, Pennaeth Datblygu Cyhoeddi’r Cyngor Llyfrau: “Llongyfarchiadau i Golwg ar lansiad cylchgrawn difyr, cyffrous a fydd yn dod â’r byd chwaraeon i garfan o ddarllenwyr newydd.
“Rydym ni’n falch iawn o allu ariannu’r peilot cyffrous yma, diolch i arian gan Cymru Greadigol.
“Rydym yn dymuno’n dda i dîm Chwys ac yn edrych ymlaen yn arw at ddilyn y gwasanaeth newydd.”
Mae Chwys yn croesawu cyfranwyr newydd i sgrifennu am gampau sy’n eu hymddiddori, cysylltwch os hoffech fod yn rhan o’r tîm.
Gallwch fynd i Chwys.cymru heddiw i danysgrifio.