Mae Morgannwg yn teithio i Gaerwrangon ar gyfer gêm Bencampwriaeth hollbwysig yn erbyn Swydd Gaerwrangon sy’n dechrau heddiw (dydd Sul, Medi 3).

Mae’r sir Gymreig yn cwrso dyrchafiad i’r Adran Gyntaf wrth i’r tymor ddechrau tynnu tua’i derfyn.

Kiran Carlson sy’n arwain Morgannwg yn absenoldeb y capten David Lloyd, oedd wedi torri asen wrth chwarae ar fenthyg i Swydd Derby yng Nghwpan Metro Bank.

Daw cyfle cyntaf yn y fformat hir i’r Cymro 19 oed Ben Kellaway, ar ôl iddo greu argraff yn y tîm undydd, gan sgorio 195 o rediadau ar gyfartaledd o 32.50 a chipio 13 o wicedi ar gyfartaledd o 22.92 yr un yn y gystadleuaeth 50 pelawd.

Mae Morgannwg yn drydydd yn y tabl a Swydd Gaerwrangon yn ail, a dim ond 14 pwynt sy’n eu gwahanu nhw.

Mae Morgannwg yn ddi-guro o hyd, ond dim ond unwaith maen nhw wedi ennill y tymor hwn.

Gemau’r gorffennol

Roedd Morgannwg yn fuddugol yng Nghaerwrangon y tymor diwethaf, wrth iddyn nhw gwrso 332 yn llwyddiannus diolch i ganred Colin Ingram a 99 di-guro i Billy Root.

Y Saeson oedd yn fuddugol yn 2019, a hynny o 155 o rediadau wrth i Daryl Mitchell daro canred i osod nod o 312 i Forgannwg, gafodd eu bowlio allan mewn llai na 39 pelawd.

Carfan Swydd Gaerwrangon: B D’Oliveira (capten), J Libby, G Roderick, Azhar Ali, A Hose, Kashif Ali, J Haynes, L van Beek, J Leach, B Allison, J Baker, D Pennington, B Gibbon, P Brown

Carfan Morgannwg: K Carlson (capten), B Root, B Kellaway, J Harris, A Gorvin, S Northeast, Zain ul-Hassan, J McIlroy, C Ingram, C Cooke, T van der Gugten, E Byrom 

Sgorfwrdd