Mae Clwb Criced Morgannwg wedi cyhoeddi blwyddyn dysteb i’r wicedwr a chyn-gapten Chris Cooke yn 2024.

Hwn fydd ei bedwerydd tymor ar ddeg yng nghrys y sir.

Mae e wedi sgorio dros 10,500 o rediadau, gan waredu dros 390 o fatwyr yn y cyfnod hwnnw.

Mae e wedi chwarae mwy o gemau ugain pelawd na neb arall yn hanes y sir, a sgoriodd ei ganred cyntaf yn y fformat hwnnw eleni.

Daeth ei gêm gyntaf yn erbyn Middlesex yng Nghaerdydd yn ei dymor cyntaf, ac fe ddangosodd ar unwaith ei fod yn fatiwr ymosodol.

Y tymor hwnnw hefyd, tarodd e ganred mewn gêm 40 pelawd yn erbyn Gwlad yr Haf.

Mae ganddo fe gyfartaledd batio dros 40 mewn gemau pedwar diwrnod.

Roedd e’n aelod o’r tîm gyrhaeddodd rownd derfynol y gwpan undydd yn 2013, ac fe ddaeth ei gyfle mawr yn y Bencampwriaeth y tymor canlynol, gan sgorio 171 yn erbyn Caint yng Nghaergaint, gan orffen y tymor gydag 870 o rediadau ar gyfartaledd o 43.50.

Daeth dau ganred dosbarth cyntaf arall yn 2015, ynghyd â 94 oddi ar 54 o belenni wrth i Forgannwg guro Caint yn y gwpan undydd.

Cafodd ei benodi’n is-gapten yn 2018 ac yn gapten yn y Bencampwriaeth y tymor canlynol.

Sgoriodd e 161 yn erbyn Swydd Gaerloyw yn y gwpan undydd cyn anafu ei ffêr yng Nghasnewydd a threulio chwe wythnos ar y cyrion cyn dychwelyd ar gyfer y gemau ugain pelawd.

Sgoriodd e ganred dwbwl yn 2021 – y wicedwr cyntaf yn hanes y sir i gyrraedd y garreg filltir honno.

Ildiodd e’r gapteniaeth yn 2022, y tymor pan adeiladodd e record o bartneriaeth o 461 am y chweched wiced gyda Sam Northeast yng Nghaerlŷr, wrth sgorio 191.

Ar ôl sgorio canred yn erbyn Sussex, gorffennodd e’r tymor hwnnw gyda chyfanswm o 840 o rediadau.

Eisoes y tymor hwn, mae e wedi sgorio canred oddi ar 38 o belenni mewn gêm ugain pelawd ym Middlesex – y cyflymaf erioed i’r sir mewn unrhyw fformat.

‘Hynod ddiolchgar ac anrhydeddus’

“Dw i’n hynod ddiolchgar ac anrhydeddus o fod wedi cael blwyddyn dysteg yn 2024,” meddai Chris Cooke.

“Dw i wedi bod yn falch o gael cynrychioli’r ‘Daff’ dros y 13 o flynyddoedd diwethaf, a dw i’n edrych ymlaen at allu diolch a dathlu gyda’r bobol sydd wedi gwneud y daith anhygoel hon yn bosib.

“Dyma edrych ymlaen at flwyddyn wych ar y cae ac oddi arno!”

‘Cyfraniadau rhagorol’

“Mae’n wych fod Chris wedi cael ei wobrwyo am ei gyfraniadau rhagorol i’r clwb gyda blwyddyn dysteb yn 2024,” meddai Mark Wallace, Cyfarwyddwr Criced Morgannwg.

“Mae perfformiadau Chris gyda’r bat a’r menig dros y blynyddoedd wedi ei osod e ar frig y chwaraewyr gorau sydd wedi chwarae’r clwb yn ei safle fe, ac rydym yn dymuno blwyddyn lwyddiannus iddo fe ar y cae ac oddi arno yn 2024.”