Mae angen i dîm pêl-droed Abertawe gadw mwy o lechi glân er mwyn helpu Ben Cabango i gael ei ddewis i chwarae dros Gymru, yn ôl rheolwr yr Elyrch.

Fe fu Michael Duff a Ben Cabango yn siarad â golwg360 cyn gêm yr Elyrch yn erbyn Bristol City ddydd Sadwrn (Medi 2), a chyn i Gymru herio De Corea mewn gêm gyfeillgar a Latfia mewn gêm ragbrofol Ewro 2024 yr wythnos nesaf.

Ond mae’r Elyrch yn dal i geisio’u buddugoliaeth gyntaf yn y Bencampwriaeth ar ôl pedair gêm.

“Mae angen i ni gadw mwy o lechi glân iddo fe, oherwydd mae’n gwneud iddo fe edrych yn well, sy’n golygu bod ganddo fe fwy o siawns o gael i mewn i dîm Cymru, sy’n well iddo fe,” meddai’r rheolwr.

“Felly mae angen i’r grŵp ei helpu fe, fel pob un ohonyn nhw.

“Maen nhw i gyd yn fusnesau unigol, yn berchen ar eu cwmnïau eu hunain; oni bai bod y tîm yn ennill, dydy hynny’n dda i neb.

“Mae’n fater o’i gael e i ddeall nad yw’n ddigon iddo fe fod yn dda, ond mae angen i bawb wynebu’r un cyfeiriad, ac os gallwch chi wneud hynny’n ddigon aml yna dw i’n grediniol fod 3 o’r gloch ar ddydd Sadwrn yn ffenest i mewn i’ch wythnos waith.

“Ar hyn o bryd, mae’r ffenest wedi gweld ambell gip, ond does dim perfformiad 90 munud cyflawn wedi bod, ond gobeithio y gall e fynd ac ennill cap arall.

“Dw i’n credu ein bod ni wedi bod braidd yn anlwcus – tair ergyd ar y gôl yn erbyn Preston ac ildio dwy, dwy ar y gôl i Coventry ac ildio un, pedair yn erbyn West Brom ac ildio tair.

“Dw i’n ffodus o fod wedi chwarae dros fy ngwlad [Gogledd Iwerddon, 24 cap].

“Does dim byd yn plesio mwy na gwisgo’r crys a gwneud eich teulu cyfan a chi’ch hun yn falch, felly os bydd e’n gwneud hynny wedyn bydd hynny’n edrych yn dda iddo fe ac i ni.”

Arweinydd

Wrth siarad am Ben Cabango fel unigolyn ac fel chwaraewr, dywed Michael Duff fod ganddo fe’r rhinweddau addas i fod yn arweinydd ar hyn o bryd ac yn gapten yn y dyfodol.

“Dw i’n credu ei fod e wedi bod yn dda,” meddai.

“Mae arweinydd i mewn yna.

“Mae e’n chwaraewr ifanc, ond dw i’n credu bod ganddo fe rinweddau arweinydd mae angen i ni geisio dod â nhw allan ynddo fe.

“Mae e’n barod i dderbyn gwybodaeth newydd am y pethau dw i’n chwilio amdanyn nhw o ran amddiffynnwr a’r ffordd dw i eisiau iddyn nhw amddiffyn.

“Mae e wedi bod yn agored i hynny ac wrth geisio gweithredu arno fe.

“Mae e wedi bod yn wych, a dyna rydych chi eisiau gweithio gydag e o’m rhan i.

“Rydych chi eisiau gweithio gyda phobol sydd eisiau gwrando a dysgu, a dyna un peth mae e eisiau ei wneud.

“Mae ganddo fe’r rhinweddau corfforol i fod yn amddiffynnwr da, felly mae’r cyfan yn rhan o’r gêm mae gyda fi obsesiwn yn ei chylch hi.

“Maen nhw’n derbyn llawer o fanylion ac mae’n anodd gweithredu, ond pan fydd y geiniog yn disgyn, dyna pryd fydd e’n chwaraewr llawer gwell eto.”

Beth sy’n gwneud arweinydd da?

Yn ôl Michael Duff, mae creu arweinwyr o fewn y garfan yn rhan o’i waith bob dydd fel rheolwr.

“Arwain yw gosod safonau proffesiynol, dweud wrth y rhai sydd yn llai profiadol ‘Nid dyma’r ffordd o’i gwneud hi os ydych chi eisiau cael mewn i’r tîm’.

“Gall fod yn sgwrs bum munud yn y ffreutur.

“Rydych chi’n edrych ar ei siâp e [Ben Cabango], y ffordd mae e’n gofalu amdano fe ei hun.

“Mae peth rhyfedd am arweinyddiaeth. Mae pobol yn meddwl bod rhaid i chi bwrw’r wal gyda’ch pen wrth gerdded allan o’r ystafell newid.

“Ond mae sawl ffordd wahanol o arwain. Joe Allen yw’r enghraifft berffaith. Mae e braidd yn torri gair â neb, ond mae ei weithredoedd yn adrodd cyfrolau.

“Fe yw’r dyn mwyaf cyfoethog yn yr adeilad, ond y dyn mwyaf diymhongar yn y byd.

“Dw i’n credu y gall Ben dyfu’n gapten yn y dyfodol o bosib, ac rydyn ni’n ceisio’i helpu fe bob dydd.

“Fy ngwaith i yw ceisio gwella’r chwaraewyr a’u gwneud nhw’n bobol ac yn bêl-droedwyr gwell.

“Gobeithio y galla i roi rhywfaint o wybodaeth a chyngor iddo fe i’w wneud e’n well, ac os gall e basio hynny i lawr y gadwyn yna dyna sut mae’n gweithio, oherwydd roeddwn i’n chwaraewr ifanc rywdro ac rydych chi’n dysgu o’ch profiadau.

“800 o gemau’n ddiweddarach ac mae gyda chi nifer o brofiadau – sut all rheiny helpu rhywun arall?

“Dyna rydyn ni’n ei wneud gyda Ben, ac yn amlwg gall e dyfu i mewn i hynny hefyd.”

150 o gemau

Daeth gêm rhif 150 i Ben Cabango yn ddiweddar – rhywbeth sydd wedi dod yn gynnar yn ei yrfa, meddai’r chwaraewr ei hun.

“Fi’n rili prowd,” meddai.

“Do’n i ddim yn gwybod fod e’n 150 o gemau.

“Fi’n rili hapus bo fi wedi cael y siawns i chwarae gymaint o gemau ac mae e wedi dod yn gynnar yn fy ngyrfa.”

Wrth drafod y gwahaniaeth rhwng Michael Duff a’i ragflaenydd Russell Martin, dywed Ben Cabango fod y ddau reolwr “yn debyg ond yn wahanol ar yr un pryd” ond fod “mwy o siâp amddiffynnol” ganddyn nhw o dan y rheolwr newydd.

“Mae e wedi bod yn rili dda,” meddai.

“Ni wedi dechrau bant yn araf, ond ni’n dechrau rhoi pethau at ei gilydd nawr, a gobeithio y byddwn ni’n cael y triphwynt ar ddydd Sadwrn.

“Mae wastad yn gêm anodd yn erbyn Bristol City, so gobeithio gallwn ni gael y triphwynt i’r ffans.”

Er mai’r Elyrch fydd y flaenoriaeth am y tro, mae ganddo fe un llygad ar gemau Cymru yn erbyn De Corea a Latfia ar yr un pryd.

“Mae’n rili bwysig bo ni’n cael y triphwynt yn erbyn Latfia, oherwydd yn y gwersyll ddiwethaf roedden ni wedi colli’r ddwy gêm, so dydyn ni ddim mewn safle gwych,” meddai.

“Ond gobeithio, os byddwn ni’n cael triphwynt yn erbyn Latfia byddwn ni ’nôl ar y trac.”