Mae’r amddiffynnwr Cyrus Christie wedi dychwelyd i Glwb Pêl-droed Abertawe ar gytundeb tan ddiwedd y tymor.

Gall y chwaraewr 32 chwarae ym mhob safle yn y cefn, ac fe fu’n ymarfer gyda’r clwb dros yr wythnosau diwethaf.

Roedd yn chwarae i Hull yn fwyaf diweddar.

Dyma ail gyfnod Christie gyda’r Elyrch, ar ôl treulio ail hanner tymor 2021-22 ar fenthyg yn Stadiwm Swansea.com.

Dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd a fydd Ben Cabango a Harry Darling, sydd hefyd yn amddiffynwyr, yn llofnodi cytundebau newydd.

Gyrfa

Cododd Cyrus Christie, sydd wedi cynrychioli Gweriniaeth Iwerddon 30 o weithiau – gan gynnwys Ewro 2016 – drwy rengoedd Coventry, gan dreulio cyfnodau ar fenthyg gyda Nuneaton a Hinckley Borough cyn symud i Derby yn 2014.

Treuliodd e dair blynedd yno, wrth iddyn nhw gyrraedd gemau ail gyfle’r Bencampwriaeth yn 2016.

Symudodd i Middlesbrough y flwyddyn ganlynol, cyn ymuno â Fulham yn 2018, gan chwarae yn rownd derfynol y gemau ail gyfle yn 2018 a 2020.

Aeth ar fenthyg i Nottingham Forest, cyn chwarae i’r Elyrch 23 o weithiau a sgorio tair gôl.

Symudodd i Hull yn 2022.