Ruben Amorim yw rheolwr newydd Clwb Pêl-droed Manchester United.
Mae ei benodiad yn ddibynnol ar sicrhau fisa, ac mae disgwyl iddo ddechrau yn y swydd ar Dachwedd 11.
Ond fydd dim gêm ganddyn nhw tan eu bod nhw’n herio Ipswich ar Dachwedd 24.
Mae e wedi llofnodi cytundeb tan fis Mehefin 2027, ac mae opsiwn i’w ymestyn am flwyddyn ychwanegol.
Yn ôl y clwb, mae Amorim yn “un o’r hyfforddwyr ifainc mwyaf cyffrous ac uchaf ei barch ym mhêl-droed Ewrop”.
Mae e wedi ennill y Primeira Liga gyda Sporting CP, wrth i’r clwb ennill y tlws am y tro cyntaf ers 19 o flynyddoedd.
Bydd Ruud van Nistelrooy yn parhau’n rheolwr dros dro tan bod Amorim yn dechrau yn y rôl.
Erik ten Hag
Daw penodiad Ruben Amorim ar ôl i Manchester United ddiswyddo Erik ten Hag.
Fe fu’r Iseldirwr yn y swydd am ddwy flynedd a hanner, ond mae’r tîm wedi cael dechreuad siomedig i’r tymor yn Uwch Gynghrair Lloegr.
Daeth y cyhoeddiad ar ôl iddyn nhw golli o 2-1 oddi cartref yn West Ham ar Hydref 27.
Maen nhw’n bedwerydd ar ddeg yn y tabl erbyn hyn, ar ôl ennill tair gêm yn unig allan o naw, ac maen nhw’n unfed ar hugain allan o 36 yng Nghynghrair Europa hefyd.