Mae Clwb Pêl-droed Manchester United wedi diswyddo’u rheolwr Erik ten Hag.

Fe fu’r Iseldirwr yn y swydd am ddwy flynedd a hanner, ond mae’r tîm wedi cael dechreuad siomedig i’r tymor yn Uwch Gynghrair Lloegr.

Daeth y cyhoeddiad ar ôl iddyn nhw golli o 2-1 oddi cartref yn West Ham ddoe (dydd Sul, Hydref 27).

Maen nhw’n bedwerydd ar ddeg yn y tabl erbyn hyn, ar ôl ennill tair gêm yn unig allan o naw, ac maen nhw’n unfed ar hugain allan o 36 yng Nghynghrair Europa hefyd.

Ruud van Nistelrooy, cyn-ymosodwr y clwb, fydd yn arwain y tîm dros dro hyd nes bod rheolwr newydd yn cael ei benodi, ac mae wedi’i enwi’n ffefryn ar gyfer y swydd yn barhaol hefyd.

‘Anochel, sbo’

“Anochel, sbo” oedd ymateb cyfrif X (Twitter gynt) Man Utd Cymraeg i’r newyddion.

“Dw i’n meddwl bod cyfle da y gwelwn ni Erik yn codi mwy o dlysau gyda chlwb callach.

“Pwy fydd y rheolwr nesaf sydd am adael i ni chwalu ei fyd?”