Mae un o fawrion Clwb Criced Morgannwg ymhlith y sêr diweddaraf i gael eu hurddo i Oriel Enwogion Chwaraeon Cymru.

Mae Hugh Morris yn gyn-gapten a chyn-Brif Weithredwr y clwb.

Roedd e’n gapten ar y tîm enillodd Dlws Cynghrair AXA Equity & Law yn 1993, ac yn aelod o’r garfan enillodd Bencampwriaeth y Siroedd yn ei gêm olaf i Forgannwg cyn ymddeol i fynd i weithio i Fwrdd Criced Cymru a Lloegr (ECB) yn 1997.

Morris oedd capten ieuengaf erioed Morgannwg, pan gafodd ei benodi yn 22 oed yn 1986.

Fe wnaeth y batiwr llaw chwith dorri record sirol gyda deg canred a chyfanswm o 2,276 o rediadau yn 1990, ac fe gafodd ei alw i garfan Lloegr y flwyddyn ganlynol.

Ar ôl ymddeol, bu’n Gyfarwyddwr Technegol ac yn Brif Weithredwr yr ECB, cyn dychwelyd i Forgannwg yn Brif Weithredwr ac yn Gyfarwyddwr Criced.

Cafodd ei anrhydeddu ochr yn ochr ag Iwan Thomas (athletau), Liza Burgess (rygbi), Jim Roberts (rygbi cadair olwyn) a Liz Johnson (para-nofio) yn ystod noson yng ngwesty’r Parkgate yng Nghaerdydd ddiwedd yr wythnos ddiwethaf.

Mae Hugh Morris yn ymuno ag unarddeg cricedwr arall yn yr Oriel Enwogion, sef Maurice Turnbull (1994), Johnnie Clay (1998), Tony Lewis (2004), Allan Watkins a Don Shepherd (2006), Simon Jones, Jeff Jones a Wilf Wooller (2015), Alan Jones (2016), Peter Walker (2017) a Lynne Thomas (2018).