Mae Clwb Rhedwyr Eryri wedi cyflwyno cwyn i Athletau Cymru ar ôl i fyfyrwraig Arweinyddiaeth Ffitrwydd Rhedeg dderbyn cais i wneud rhan o’i hasesiad yn Saesneg.
Cafodd Nia Meleri Edwards, gwirfoddolwr gyda’r clwb rhedeg sy’n hyfforddi pobol ifanc deuddeg i ddeunaw oed, “gyfarwyddyd i beidio â defnyddio’r Gymraeg yn ei fideos asesu”.
Yn ôl y llythyr, mae’r hyfforddwr dan sylw a’r holl blant mae’n eu hyfforddi’n dod o’r ardal leol, “sydd â’r ganran uchaf o siaradwyr Cymraeg y pen” yng Nghymru.
“Mae pob un sy’n ymwneud â’r fideo yn naturiol yn defnyddio’r Gymraeg yn ystod sesiynau hyfforddi a thu hwnt,” medd y llythyr.
Ar ôl i’r fideos gael eu cyflwyno i’w hasesu, daeth e-bost “gyda chais a chyfarwyddyd i ailrecordio pob sesiwn gan ddefnyddio Saesneg yn unig”, medd y llythyr.
Roedd hyn, yn ôl Nia Meleri Edwards, am nad yw ei rheolwr yn medru’r Gymraeg, ond dydy hi ddim yn gweld unrhyw fai arni hi o gwbl.
Dywed iddi gael “sioc” o dderbyn y cais.
‘Parchu hawl’
“Fel Clwb Rhedeg Cymraeg sy’n gweithredu’n gwbl ddwyieithog, ac yn bencampwyr dros ddefnyddio’r Gymraeg mewn chwaraeon, rydym yn gweld hyn yn peri pryder mawr, yn enwedig o ystyried pwysigrwydd hyrwyddo’r Gymraeg ym mhob agwedd ar fywyd cyhoeddus Cymru,” medd y llythyr.
“Er nad yw Athletau Cymru’n cael ei gategoreiddio fel corff cyhoeddus o dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg, fel sefydliad sy’n darparu gwasanaethau i’r cyhoedd yng Nghymru, mae’n bwysig ei fod yn parchu ac yn cynnal hawliau unigolion i ddefnyddio’r Gymraeg mewn asesiadau a chyfathrebu.”
Ychwanega fod Athletau Cymru’n “chwarae rhan allweddol wrth feithrin cynwysoldeb a mynediad i athletwyr a hyfforddwyr Cymraeg”, a bod eu Polisi Iaith Gymraeg yn nodi bod ganddyn nhw’r nod o “drin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal ym mhob sefyllfa, yn ddieithriad”.
Mae’r llythyr yn galw am “adolygu’r digwyddiad hwn” a “chymryd camau angenrheidiol” i “sicrhau nad yw myfyrwyr Cymraeg eu hiaith dan anfantais neu eu hannog i beidio â defnyddio eu dewis iaith mewn unrhyw agwedd ar eu hymgysylltiad ag Athletau Cymru, gan gynnwys cymwysterau ac asesiadau”.
Dywed y llythyr ymhellach na fydd y myfyriwr yn ailrecordio’r fideos “ar sail egwyddorion personol a dyletswydd foesegol i feithrin parhad a datblygiad ein hawl i ddefnyddio’r Gymraeg ym mhob agwedd o’n bywydau”.
‘Brifo’
Wrth siarad â golwg360, dywed Nia Meleri Edwards fod y mater wedi ei “brifo”.
“Wna i ddim sefyll o flaen fy mhlant, sydd yn y grŵp dw i’n ei hyfforddi, yn arwain sesiwn yn gyfan gwbl yn Saesneg oherwydd bod galw na allwn ddefnyddio ein hiaith ni’n hunain ar gyfer gwahanol weithgareddau dydd i ddydd,” meddai.
Ychwanega ei bod hi wedi derbyn galwad ffôn gan y Rheolwr Datblygu Hyfforddwyr “yn sylweddoli bod y gofyn yn yr e-bost gynt am ailrecordio’r fideos yn Saesneg yn hollol annerbyniol”.
“Maen nhw wedi ymddiheuro ac yn cynnig i aelod arall o’r tîm drawsgrifio’r fideos i gael eu hasesu.
“Pam oedden nhw’n methu gwneud hyn yn y lle cyntaf, dw i ddim yn gwybod.”
Ychwanega fod Athletau Cymru’n “wael ar y cyfan wrth ddarparu gwasanaeth yn y Gymraeg”, ac mai “dim ond hanner y wefan sydd wedi’i chyfieithu”.
Ymateb
Mae swyddfa Comisiynydd y Gymraeg wedi cadarnhau eu bod nhw wedi derbyn copi o’r ohebiaeth, a’u bod nhw’n awyddus i dderbyn eglurhad.
“Tra nad yw Athletau Cymru yn gorff sydd yn dod o dan Safonau’r Gymraeg, rydym wedi gofyn iddynt am eglurhad o’r sefyllfa cyn penderfynu ar gamau pellach posib,” meddai llefarydd.
Dywed Athletau Cymru eu bod nhw “wedi derbyn adborth gwerthfawr gan fyfyriwr”.
“Gallwn gadarnhau ein bod ni wedi gweithredu ar sail yr adborth, a’n bod ni mewn trafodaethau uniongyrchol â’r myfyriwr,” meddai llefarydd.
Yn ôl Athletau Cymru, roedd eu cyrsiau’n arfer cael eu rhedeg gan UK Athletics, ond maen nhw wedi cymryd rheolaeth dros y cyrsiau hyn yn ddiweddar ac yn barod i edrych ar newidiadau.
“Er na fydd y newidiadau hyn i gyd yn digwydd ar unwaith, rydym yn weithgar yn edrych ar sut allwn ni ddatblygu ein hopsiynau iaith Gymraeg wrth symud ymlaen,” medd y llefarydd.
“Rydyn ni eisoes wedi trosi a chyfieithu peth o’r deunydd ar draws y llwybr cymwysterau, a byddwn ni’n parhau i ddatblygu hyn, ynghyd â’n gweithlu ehangach, dros gyfnod o amser.”