Bydd tîm pêl-droed merched Cymru’n ceisio gwyrdroi mantais Slofacia heno (nos Fawrth, Hydref 29), wrth iddyn nhw geisio cyrraedd Ewro 2025.

Mae tîm Rhian Wilkinson ar ei hôl hi o 2-1 ar ôl y cymal cyntaf yng Nghaerdydd nos Wener (Hydref 25), ond maen nhw wedi cael hwb yn sgil y newyddion fod Jess Fishlock yn holliach i ddechrau am y tro cyntaf ers bron i ddeufis.

Mae’n debygol mai gêm yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon yn rownd derfynol y gemau ail gyfle fydd y wobr i’r tîm buddugol, wrth iddyn nhw geisio sicrhau eu lle ar yr awyren i’r Swistir haf nesaf.

Ond bydd yn rhaid iddyn nhw barhau i ymdopi heb eu capten Sophie Ingle, sydd allan ag anaf hirdymor.

Mae Elise Hughes allan ag anaf hefyd, ond mae Hannah Cain wedi dychwelyd ac mae Lily Woodham wedi gwella hefyd ar ôl cael ergyd yn y cymal cyntaf.

Er i Gymru fod yn ddi-guro yn chwe gêm gyntaf Rhian Wilkinson wrth y llyw, nos Wener oedd y tro cyntaf iddyn nhw golli ers iddi gael ei phenodi, ac mae hi’n dweud bod y pwysau i gyrraedd twrnament am y tro cyntaf erioed wedi effeithio ar y tîm.

I’r gwrthwyneb, bydd Slofacia’n hyderus ar ôl ennill y cymal cyntaf – eu buddugoliaeth gyntaf ers chwe gêm.

Cymal cyntaf

Daeth gôl gysur hwyr allai fod yn hollbwysig i dîm pêl-droed merched Cymru ar ddechrau’r ail gymal.

Ffion Morgan rwydodd er mwyn haneru mantais Slofacia ar ddiwedd y cymal cyntaf yn Poprad.

Dechreuodd Cymru’n gryf wrth greu sawl cyfle cynnar, er gwaetha’r ffaith eu bod nhw’n chwarae heb Sophie Ingle.

Roedd y golwr Olivia Clark ar ei gorau wrth iddi wrthsefyll ymosodiadau’r gwrthwynebwyr yn yr hanner cyntaf, a daeth cyfle hwyr i Gymru wrth i groesiad cywir Ceri Holland fethu â chanfod Kayleigh Barton wrth y postyn pellaf.

Ond roedden nhw ar ei hôl hi’n gynnar yn yr ail hanner, wrth i gamgymeriad amddiffynnol rhwng Josie Green ac Olivia Clark arwain at gic gornel i Slofacia, oedd wedi sgorio drwy ergyd bwerus Martina Šurnovská o ymyl y cwrt cosbi.

Dyblodd Slofacia eu mantais ar ôl 58 munud, wrth i drosedd gan y capten Angharad James arwain at gerdyn melyn a gôl i Maria Mikolajova.

Daeth Jess Fishlock i’r cae ar ôl 64 munud a chreu argraff ar unwaith gyda’i chreadigrwydd, ond roedd Gemma Evans yr un mor awyddus i greu argraff yn yr amddiffyn, wrth iddi atal cyfle i Šurnovská â thacl rymus.

Parhau i wthio am gôl wnaeth Cymru, a daeth honno ar adeg dyngedfennol er mwyn rhoi llygedyn o obaith iddyn nhw yn yr ail gymal.