Does dim angen i Glwb Pêl-droed Caerdydd ruthro i benodi rheolwr parhaol newydd tra bo’r tîm yn ennill, yn ôl cyn-amddiffynnwr Cymru a’r Adar Gleision.

Ers i Omer Riza gael ei benodi’n rheolwr dros dro yn dilyn diswyddo Erol Bulut, maen nhw wedi ennill unarddeg pwynt mewn chwe gêm.

Pan gafodd Bulut ei ddiswyddo, roedden nhw ar waelod y Bencampwriaeth ar ôl ennill dim ond un pwynt allan o ddeunaw ar ddechrau’r tymor.

Wrth siarad â BBC Radio Wales, dywedodd Danny Gabbidon nad oes angen rhuthro i newid unrhyw beth oni bai bod y tîm yn dechrau colli eto.

“Tra eu bod nhw’n ennill, pam fod angen i chi ruthro i wneud penderfyniad?” gofynnodd.

“Mae ganddyn nhw gemau mawr i ddod, [yn erbyn] Norwich a Luton; dyna’r gemau lle bydd ei rinweddau fel rheolwr yn cael eu profi.

“Tra eu bod nhw’n ennill, dw i ddim yn credu bod unrhyw frys i wneud unrhyw beth na’i wneud e’n barhaol.

“Pe baen nhw’n dal i golli gemau, byddai, fe fyddai mwy o frys efallai i newid pethau neu i ddod â rhywun i mewn.

“Tra ei fod e’n mynd yn iawn ar y funud, gadewch iddo fe fwrw iddi, gweld sut mae’r tîm yn gwneud, gadael iddo fe adeiladu hyder y chwaraewyr, ac os ydyn nhw’n parhau i gael canlyniadau da, bydd e’n haeddu cael y swydd.”