Mae tîm pêl-droed menywod Cymru wedi cyrraedd rownd derfynol gemau ail gyfle Ewro 2025.

Bu’n rhaid iddyn nhw dibynnu ar amser ychwanegol i sicrhau’r fuddugoliaeth dros Slofacia yng Nghaerdydd, gan ennill o ddwy gôl i ddim ar y noson, a thair gôl i ddwy ar gyfanswm goliau.

Daeth goliau Cymru gan Jess Fishlock a Ceri Holland, gyda’r ail wedi’i chymeradwyo gan VAR.

Gallai Cymru fod wedi sgorio llawer iawn mwy o goliau ar y noson, gyda Ffion Morgan yn methu â dau gyfle, a Fishlock yn camsefyll wrth sgorio dwy gôl arall.

Daeth gôl dyngedfennol Holland ddwy funud cyn y chwiban olaf er mwyn sicrhau na fyddai’r canlyniad yn cael ei benderfynu gan giciau o’r smotyn.

Gweriniaeth Iwerddon fydd gwrthwynebwyr tîm Rhian Wilkinson yn y rownd derfynol.