Mae Liam Cullen wedi llofnodi cytundeb newydd gyda Chlwb Pêl-droed Abertawe tan o leiaf 2028.
Roedd disgwyl i’w gytundeb blaenorol ddod i ben yn yr haf.
Ymunodd yr ymosodwr 25 oed o Sir Benfro â’r clwb yn wyth oed, gan godi drwy’r rhengoedd a chwarae i’r tîm dan 18 pan oedd e’n 13 oed.
Daeth ei gêm gyntaf i Abertawe yn erbyn Crystal Palace yng Nghwpan Carabao yn 2018, ac fe ymunodd â’r brif garfan yn 2020, gan sgorio’i gôl gyntaf mewn buddugoliaeth o 4-1 dros Reading wrth i’r Elyrch gyrraedd gemau ail gyfle’r Bencampwriaeth.
Aeth e ar fenthyg i Lincoln yn 2021-22, a sgorio naw gôl a chynorthwyo dwy yn ei 32 gêm.
Sgoriodd e saith gôl yn 2023-24, gan gynnwys un yn y ddarbi fawr yn erbyn Caerdydd, wrth fynd heibio 100 o gemau i’r clwb roedd yn ei gefnogi’n blentyn.
Enillodd ei gap cyntaf dros Gymru yn erbyn Gibraltar yn 2023, ac mae e bellach wedi gwisgo’r crys coch bump o weithiau.
Mae e wedi sgorio cyfanswm o 23 o goliau mewn 130 o gemau i’r Elyrch, a thair ohonyn nhw y tymor hwn.
‘Chwaraewr sy’n rhoi popeth i’r clwb bob dydd’
Yn ôl y rheolwr Luke Williams, mae’r clwb yn falch o fod wedi datrys cytundeb Liam Cullen yn dilyn trafodaethau.
“Mae e’n chwaraewr sy’n rhoi popeth i’r clwb bob dydd, a gallwch chi weld hynny ar y cae,” meddai.
“Mae e’n ddiflino, mae e’n gweithio gymaint dros y tîm, ond rydyn ni’n gwybod ei safon e hefyd.
“Mae’n rhaid i chi oresgyn cynifer o heriau a rhwystrau i fod gyda chlwb cyhyd, a dw i’n gwybod y bydd llawer o bobol yn y clwb hwn fydd yn falch iawn o’i weld e’n rhoi ei lofnod ar bapur.
“Byddan nhw’n ei ddefnyddio fe fel esiampl i chwaraewyr yr academi o ran yr hyn y gallwch chi ei gyflawni gydag Abertawe.”