Mae Teddy Williams, clo Rygbi Caerdydd, wedi’i alw i garfan Cymru ar gyfer gemau’r hydref.

Daw hyn yn dilyn anaf i benglin Ben Carter o’r Dreigiau.

Mae Williams, sy’n 24 oed, wedi ennill dau gap dros ei wlad.

Adam Beard, Freddie Thomas, Christ Tshiunza a Will Rowlands yw’r chwaraewyr ail reng eraill yn y garfan, gyda Dafydd Jenkins a Rhys Davies wedi’u hanafu hefyd.

Bydd tîm Warren Gatland yn dechrau gemau’r hydref yn erbyn Ffiji yng Nghaerdydd ar Dachwedd 10, cyn herio Awstralia’r wythnos ganlynol, gyda’r gyfres yn dod i ben yn erbyn De Affrica ar Dachwedd 23.

Dydy Cymru ddim wedi ennill yr un o’u naw gêm diwethaf.