Mae’r bowliwr cyflym James Harris wedi llofnodi cytundeb dwy flynedd newydd gyda Chlwb Criced Morgannwg.

Yn enedigol o Dreforys yn Abertawe, fe ddysgodd ei grefft fel cricedwr gyda Phontarddulais.

Daeth ei gêm gyntaf mewn criced dosbarth cyntaf i Forgannwg yn 2007, ac fe dorrodd y record am y bowliwr ieuengaf erioed i gipio wiced i’r sir yn y Bencampwriaeth wrth herio Swydd Nottingham yn Trent Bridge, ac yntau 14 diwrnod i ffwrdd o’i ben-blwydd yn 17 oed.

Ar drothwy ei ben-blwydd, cipiodd e ddeuddeg wiced mewn gêm yn erbyn Swydd Gaerloyw ym Mryste, gan gynnwys saith am 66 yn y batiad cyntaf.

Wrth gyrraedd y garreg filltir, fe oedd y chwaraewr ieuengaf erioed i gipio deg wiced mewn gêm i’r sir.

Cafodd ei ddewis i gynrychioli Lloegr dan 19 a Llewod Lloegr, cyn cael ei alw i brif garfan Lloegr ar gyfer gêm undydd yn erbyn Seland Newydd yn 2012 – er nad oedd e wedi ennill cap.

Symudodd i Middlesex yn 2013, gan chwarae i Gaint hefyd, cyn dychwelyd i Forgannwg yn 2022.

Cipiodd ei 600fed wiced dosbarth cyntaf wrth gipio pum wiced am 73 yn erbyn Swydd Efrog eleni.

Mae e wedi cipio 96 o wicedi Rhestr A a 48 o wicedi ugain pelawd yn ystod ei yrfa, gan sgorio dros 5,000 o rediadau yn ystod ei yrfa.

‘Cymro i’r carn’

“Dw i’n hapus iawn o gael ymestyn fy nghytundeb gyda Morgannwg,” meddai James Harris.

“A finnau’n Gymro i’r carn, does dim byd sy’n fy ngwneud i’n fwy balch na gwisgo’r daffodil ar fy mrest.

“Dw i wedi cyffroi ynghylch ein cyfeiriad ni, a dw i’n credu’n llwyr yn y gwaith mae Grant [Bradburn, y prif hyfforddwr], Sam [Northeast, capten y tîm yn y Bencampwriaeth] a Kiran [Carlson, y capten mewn gemau undydd] yn ei arwain.

“Dw i’n edrych ymlaen at chwarae fy rhan dros y tymhorau nesaf.”

‘Un o’r bobol broffesiynol orau yn y gêm’

“Mae’n wych y bydd James yn aros gyda’r clwb am y dyfodol rhagweladwy,” meddai Mark Wallace, Cyfarwyddwr Criced Morgannwg.

“Mae e’n fodel rôl arbennig ar y cae ac oddi arno i ni, ac yn un o’r bobol broffesiynol orau yn y gêm.

“Aeth e heibio 600 o wicedi dosbarth cyntaf y tymor diwethaf, ac rydym yn edrych ymlaen at ragor o lawer i’r clwb yn y blynyddoedd i ddod.”