Mae Dan James wedi’i gynnwys yng ngharfan bêl-droed Cymru am y tro cyntaf ers i Craig Bellamy ddod yn rheolwr.

Bydd y tîm cenedlaethol yn herio Twrci a Gwlad yr Iâ yng Nghynghrair y Cenhedloedd fis yma.

Dydy James ddim wedi chwarae yn y pedair gêm ddiwethaf oherwydd anaf.

Hefyd wedi’i gynnwys yn y garfan mae Rubin Colwill a Joe Allen.

Ond mae Aaron Ramsey allan o hyd wrth iddo fe barhau i wella o anaf i linyn y gâr, ac mae Ethan Ampadu ac Ollie Cooper wedi’u hanafu hefyd.

Mae Tom King wedi’i gynnwys yn lle Adam Davies ymhlith y gôl-geidwaid.

Mae disgwyl i Joe Rodon ennill ei hanner canfed cap dros Gymru yn ystod y gemau rhyngwladol hyn – mae ganddo fe 48 hyd yma.

Byddai curo Twrci ar Dachwedd 16 fwy neu lai yn sicrhau dyrchafiad i Gymru i Gynghrair A ar drothwy’r gêm yn erbyn Gwlad yr Iâ yng Nghaerdydd ar Dachwedd 19.

Carfan Cymru: D Ward, K Darlow, T King; R Norrington-Davies, O Beck, B Davies, B Cabango, J Rodon, C Mepham, C Roberts, N Williams; J James, R Colwill, J Sheehan, J Allen, H Wilson, D Brooks, D James, S Thomas, W Burns; B Johnson, K Moore, M Harris, N Broadhead, L Koumas, L Cullen