Mae’n destun siom fod Undeb Rygbi Cymru yn y penawdau am y “rhesymau anghywir”, yn ôl un o weinidogion Llywodraeth Cymru.

Dros y penwythnos, fe wnaeth yr Undeb ymddiheuro am y ffordd y cafodd trafodaethau cytundeb tîm y merched eu cynnal.

Cafodd honiadau newydd o rywiaeth ac anghydraddoldeb yn eu herbyn eu hadrodd yn y Telegraph yn ddiweddar.

Yn ôl y papur, cafodd chwaraewyr eu bygwth â chanlyniadau pe na baen nhw’n cytuno i delerau’r Undeb, gan gynnwys peidio cael eu dewis i chwarae yn ystod cystadlaethau mawr.

Lai na blwyddyn yn ôl, cafodd adolygiad damniol i ddiwylliant “gwenwynig” a gwahaniaethu o fewn Undeb Rygbi Cymru.

Dywed Jack Sargeant, Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol Cymru, ei fod wedi cyfarfod â Richard Collier-Keywood, cadeirydd Undeb Rygbi Cymru  y Prif Swyddog Gweithredol Abi Tierney, a Nigel Walker, Cyfarwyddwr Gweithredol Rygbi yr Undeb.

Mae’r Undeb yn gwrthod rhai o’r honiadau yn eu herbyn, gan gynnwys fod y Prif Weithredwr yn anfodlon talu costau teithio.

Fodd bynnag, maen nhw wedi cyfaddef bod methiannau yn y broses, a’i bod hi’n “gwbl amlwg” y dylai’r bwrdd ymddiheuro.

Maen nhw hefyd wedi dweud eu bod nhw’n cychwyn adolygiad annibynnol o’r broses ac y byddan nhw’n cyhoeddi’r argymhellion.

Y cyd-destun

Derbyniodd merched tîm rygbi Cymru gytundebau proffesiynol am y tro cyntaf ddechrau 2022, ac er bod gwelliannau wedi bod yn eu perfformiad yn 2022 a 2023, dydyn nhw heb fod yn chwarae cystal eleni.

Ers mis Ionawr, mae chwaraewyr wedi bod yn trafod gyda’r Gymdeithas Rygbi Merched er mwyn iddyn nhw eu cynrychioli, gan godi materion megis tâl a pholisi mamolaeth yn seiliedig ar berfformiad.

Mae’r Gymdeithas Rygbi Merched wedi cadarnhau’r hyn mae’r Telegraph wedi’i adrodd.

Mae’r Telegraph yn honni bod chwaraewyr wedi cael eu rhybuddio ym mis Awst na fydden nhw’n cael lle yng nghystadleuaeth WXV2 yn Ne Affrica na Chwpan y Byd flwyddyn nesaf pe na baen nhw’n eu llofnodi, ac roedden nhw wedi cael tair awr yn unig i wneud penderfyniad.

Fis Medi, fe gadarnhaodd Hannah Jones, capten Cymru, fod y sefyllfa wedi’i datrys, gan ddweud eu bod yn “hapus gyda’u cytundebau”.

Yn ddiweddarach y mis hwnnw, cyn eu gêm agoriadol WXV2 yn erbyn Awstralia, cyhoeddodd Undeb Rygbi Cymru eu bod nhw wedi dyfarnu 37 o gytundebau llawn amser.

Honiadau’r Telegraph

Yn sgil yr honiadau yn y Telegraph, mae Undeb Rygbi Cymru wedi cyflwyno canfyddiadau eu hadolygiad yn gynt na’r disgwyl. Mae’r rheiny’n cynnwys y canlynol:

  • Ni chafodd twf a datblygiad gêm broffesiynol y menywod ei ystyried
  • Mae bwrdd arweinyddiaeth gweithredol Undeb Rygbi Cymru yn derbyn eu bod wedi gwneud camgymeriad wrth roi tair awr yn unig i’r chwaraewyr lofnodi cytundeb
  • Safbwyntiau gwahanol iawn ar sut i ddatblygu rygbi menywod yng Nghymru
  • Roedd rhai chwaraewyr dibrofiad mewn trafodaethau cytundeb ond cawson nhw eu hynysu
  • Fe wnaeth chwaraewyr ystyried streicio cyn y gêm gyfeillgar yn erbyn yr Alban ar Fedi 6.

‘Am weld Cymru’n ffynnu’

Mae Jack Sargeant yn dweud y bydd Undeb Rygbi Cymru’n ceisio cyfarfod â’r chwaraewyr yn fuan i ymddiheuro.

“Dros y dyddiau nesaf, byddaf yn ceisio deall safbwyntiau amrywiol pobol ar y broses hon, a bodloni fy hun fod gwersi’n cael eu dysgu,” meddai.

“Rwy’n cynnig cwrdd â’r chwaraewyr i ddeall yn uniongyrchol oddi wrthyn nhw natur eu pryderon a gweld sut y gallwn helpu pob ochr i symud ymlaen yn adeiladol.

“Byddaf hefyd yn ceisio cyfarfod ag awduron yr adolygiad.

“Rwy’ am weld rygbi Cymru, ar bob lefel, yn tyfu ac yn ffynnu.

“Rwy’ wedi ymrwymo i weithio’n agos gydag Undeb Rygbi Cymru a’r chwaraewyr i sicrhau gêm gynaliadwy lwyddiannus yng Nghymru sy’n darparu gwell canlyniadau i bawb.”