Mae teyrngedau wedi’u rhoi i Stephen Bale, y gohebydd rygbi uchel ei barch oedd wedi cyrraedd rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn ddwy flynedd yn ôl.
Bu farw yn dilyn salwch byr.
Fel gohebydd rygbi, fe wnaeth e ohebu ar fwy na 500 o gemau rhyngwladol, saith taith gyda’r Llewod a saith Cwpan Rygbi’r Byd.
Dechreuodd ei yrfa yn 1973, pan ddechreuodd e weithio i’r Neath Guardian, ac fe aeth yn ei flaen i weithio i’r South Wales Evening Post, y South Wales Argus a’r Western Mail.
Bu’n gweithio wedyn fel gohebydd rygbi i’r Independent am wyth mlynedd, cyn mynd i weithio i’r Sunday Express a’r Daily Express.
Bu’n ohebydd rygbi Cymru i’r Sunday Times cyn ymddeol yn 2017.
Taith iaith
Ar ôl ymddeol, aeth ati i ddechrau taith newydd sbon – i ddysgu Cymraeg.
“Ro’n i yn y brifysgol yng Nghaerdydd yn y 70au,” meddai wrth Lingo360 pan gafodd ei enwi’n un o bedwar cystadleuydd yn rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn yn 2022.
“Fe wnes i lawer o ffrindiau o’r Gorllewin a oedd yn siarad Cymraeg.
“Roedd hynny wedi dechrau fy niddordeb yn yr iaith.
“Wnes i gwrs Cymraeg pan oedd yn bosibl, cwrs Wlpan yng Nghastell-nedd – sef cwrs dwys bob nos Lun i nos Wener am 11 o wythnosau yn 1977.
“Wnes i gyrraedd safon rhyw hanner ffordd lan y lefelau sy’n bodoli erbyn hyn.
“Oherwydd fy mod i’n byw ym Mhontardawe ar y pryd, pan oedd llawer iawn o bobol yng Nghwm Tawe yn siarad yr iaith, roedd hi’n hawdd ymarfer a defnyddio’r iaith a oedd gyda fi ar y pryd.
“Ond wedyn symudon ni allan o’r ardal o achos gwaith, yn gyntaf i fyw yn Sir Fynwy. Doedd dim llawer o bobol yn siarad Cymraeg yno, os o gwbl.
“Wedyn es i weithio a byw yn Llundain ac yna i Wlad yr Haf am chwarter canrif cyn dychwelyd i Sir Fynwy.
“Mae pethau wedi newid llawer yno gyda’r Gymraeg.
“Y peth cyntaf wnes i ar ôl ymddeol yn 2017 oedd ffeindio ffordd i ddysgu, neu ail-ddysgu Cymraeg.
“Dysgu’r iaith yw’r ffordd orau i’w chefnogi, ynte?”
Dywedodd ei fod e wedi cael “syndod faint o Gymraeg” oedd ganddo fe o hyd wrth ddechrau dysgu eto.
“Roedd hynny bedwar degawd ar ôl i fi drio dysgu’r iaith y tro cyntaf.
“Roedd dwy athrawes wedi asesu fi; wedyn dechreuais i wersi wythnosol ynghanol y lefelau gydag ‘Uwch Pontio’.
“Ers hynny, dwi wedi bod trwy lefel Uwch, wedi sefyll yr arholiadau Canolradd ac Uwch hefyd erbyn hyn.
“Dw i newydd orffen yr addysg ffurfiol i oedolion ac yn symud ymlaen i rywbeth llai ffurfiol (o’r enw Gloywi) y flwyddyn nesaf.”
Teyrngedau
Wrth dalu teyrnged, dywed y Rugby Union Writers’ Club y byddan nhw’n “cofio’i dalent, ei gynhesrwydd, a’i ganu”.
Mae nifer o ohebwyr rygbi wedi talu teyrnged iddo fe hefyd.
Y newyddion am ei farwolaeth yw’r “stori newyddion waethaf, fydd yn tristáu pobol rygbi ledled y byd”, yn ôl Stephen Jones, gohebydd rygbi’r Times.
“Ysgrifennodd yn hyfryd i alaeth o bapurau newydd, ac roedd yn cael ei garu’n fawr drwy’r byd chwaraeon a thu hwnt.
“Fy mêt annwyl dros ddegawdau o deithio.”
Mae wedi’i ddisgrifio fel “newyddiadurwr gwych” gan y sylwebydd a chyn-chwaraewr Jonathan Davies.
“Roeddwn i’n lwcus o gael sawl sgwrs dros gwrw neu ddau neu ginio gyda Steve,” meddai.
Dywed Peter Jackson nad oedd “neb ohonom mewn newyddiaduraeth chwaraeon yn adnabod cydweithiwr mwy caredig a gofalgar”.
“Doedd ei ddynoliaeth byth yn peidio disgleirio fel golau, a dyna pam roedden ni i gyd yn ei garu.”
Dywed Andrew Baldock fod Steve Bale yn “feistr ar ei grefft ac yn bencampwr gwirioneddol”.
Yn ôl Graham Thomas, “Steve bob amser oedd y boi fyddech chi wrth eich bodd o gael eistedd yn ei ymyl – ym mlychau’r wasg neu wrth fwrdd bwyty ar deithiau”.
“Cydweithiwr cynnes, hael, doniol ac ysgrifennwr arbennig.
“Rhedwr da, gwell canwr, a dyn hyfryd drwyddi draw.”
“Yn ystod fy mlynyddoedd yn gohebu ar rygbi, roedd Steve yn gydweithiwr mor agos-atoch a chyfeillgar,” meddai’r gohebydd criced Edward Bevan.
“Bob amser â gwên, a phob amser yn barod i helpu.
“Bydd colled fawr ar ei ôl.”