Mae adroddiad annibynnol ar Undeb Rygbi Cymru wedi canfod “diwylliant gwenwynig” o rywiaeth, gwreig-gasineb, hiliaeth a homoffobia o fewn yr Undeb.

Cafodd ymchwiliad ei sefydlu fis Chwefror eleni, wedi i’r BBC ddarlledu rhaglen am honiadau o wahaniaethu yn erbyn cyn-aelodau o staff.

Arweiniodd hyn at ymddiswyddiad y Prif Weithredwr Steve Phillips.

Mae’r adolygiad wedi cynnig 30 o argymhellion, gan gynnwys penodi corff goruchwylio a gwell system ar gyfer ymdrin â chwynion.

Dywed yr adroddiad fod Undeb Rygbi Cymru’n “gamweithredol, heb gyfarpar, ac yn methu mynd i’r afael â’r problemau sefydliadol a diwylliannol difrifol roedd yn eu hwynebu”.

“Condemio’n llwyr”

Mae Abi Tierney, olynydd Steve Phillips fydd yn dechrau yn ei swydd ym mis Ionawr, yn dweud na ddylai’r math o ymddygiad sydd wedi’i ddisgrifio fodoli yn y gweithle.

“Wrth gwrs, fel arweinwyr y mudiad, rydyn ni i gyd yn condemnio’r agweddau a’r materion sy’n cael eu disgrifio yn llwyr, ond rydyn ni’r un mor ymwybodol fod angen i’n hymateb fod yn fwy na hyn,” meddai.

“Mae’r ffaith fod gennym ni adroddiad fel hwn o ffynhonnell annibynnol yn nodi unrhyw faterion a phroblemau sy’n bodoli yn ein diwylliant yn gyfle gwych i ni drawsnewid y ffordd rydyn ni’n gweithio.

“Gallwn deimlo ein bod wedi ein hysbrydoli nawr fod popeth allan yn yr awyr agored.

“Gallwn deimlo ein bod wedi’n grymuso, gan fod ein pobol yn gwybod y bydd rhywun yn gwrando arnyn nhw ac y byddwn yn gweithredu’n gymesur ac yn briodol i ymddygiad sy’n cael ei alw allan yn y dyfodol.

“Byddwn yn gweithredu pob un o argymhellion y panel.”

‘Rhaid canolbwyntio ar y dasg’

Dywed Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth yn Llywodraeth Cymru, fod y Llywodraeth yn “croesawu cyhoeddi’r adroddiad”.

“Byddwn nawr yn ystyried yr adroddiad yn llawn, ac yn cyfarfod ag Undeb Rygbi Cymru i drafod yr argymhellion a’u cynlluniau ehangach,” meddai.

“Mae’n galonogol fod Undeb Rygbi Cymru wedi derbyn, yn ddieithriad, holl argymhellion y panel adolygu, gyda chynnydd sylweddol eisoes wedi’i wneud mewn rhai meysydd.

“Rhaid i Undeb Rygbi Cymru ganolbwyntio nawr ar y dasg o adfer ymddiriedaeth gyda phawb sydd â buddiant yn y gêm, gan gynnwys dioddefwyr ymddygiad annerbyniol sydd wedi siarad allan yn ddewr.”

‘Dysgu’

Dywed Tom Giffard, llefarydd chwaraeon y Ceidwadwyr Cymreig, ei fod yn gobeithio y bydd Undeb Rygbi Cymru’n “dysgu o’r adroddiad annibynnol hwn ac yn gwneud gwelliannau pellach drwy ystyried y 36 argymhelliad fel maen nhw wedi awgrymu y byddan nhw’n ei wneud”.

“Gobeithio y bydd yr adroddiad hwn yn cau pennod i’r rhai sydd wedi’u heffeithio,” meddai.

“Mae’n anodd iawn darllen yr adroddiad ei hun, a hwnnw’n tynnu sylw at enghreifftiau hollol ffiaidd o wreig-gasineb amlwg iawn gan swyddogion Undeb Rygbi Cymru.

“Mae’n briodol fod Undeb Rygbi Cymru wedi ymddiheuro.”