Mae academi tenis bwrdd gafodd ei sefydlu dros yr haf yn hwb i’r gamp yng Nghymru ar hyn o bryd.
Cafodd yr academi ei sefydlu bedwar mis yn ôl fel rhan o bartneriaeth rhwng Tenis Bwrdd Cymru a Choleg Cambria i greu rhaglen gymunedol gynhwysol ac i gynnig hyfforddiant llawr gwlad.
Mae’r academi’n cwmpasu campysau Glannau Dyfrdwy, Llaneurgain, Llysfasi, Iâl a Ffordd Bersham yn Wrecsam, ac mae wedi croesawu dros 800 o bobol ar gyfer hyfforddiant a sesiynau hwyliog ers ei sefydlu.
Bu Aaron Beech, Swydd Datblygu Rhanbarthol gogledd Cymru’n cydweithio ag ysgolion, clybiau a sefydliadau cymunedol mewn ymgais i ddod o hyd i’r pencampwr Olympaidd, Cymanwlad neu Fyd nesaf.
“Rydyn ni wedi cael ychydig fisoedd prysur iawn, ac mae’r adborth wedi bod yn wych,” meddai.
“Yn rhan o’n canolfan perfformiad uwch, rydyn ni wedi buddsoddi mewn cyfarpar newydd – mae gan safle Coleg Iâl ddeuddeg bwrdd tenis bellach – ac ar draws y rhanbarth, rydyn ni wedi cyfarfod ac wedi hyfforddi pobol o bob oed.
“O fyfyrwyr i blant ac aelodau hŷn y gymuned, mae llawer o dalent allan yno, felly rydyn ni’n ceisio’i harneisio a helpu pobol i wireddu eu potensial.
“Rydyn ni wedi cael llawer o gefnogaeth gan chwaraewyr a hyfforddwyr ar lawr gwlad ledled gogledd Cymru hefyd, ac rydyn ni’n ddiolchgar iawn iddyn nhw am roi o’u hamser.”
‘Bwyd a hwyl’
Dros yr haf, aeth Aaron Beech ati i drefnu sesiynau ‘bwyd a hwyl’ yn Sir Ddinbych, Ynys Môn, Wrecsam a Sir y Fflint, yn ogystal â phrofion sirol yn y gogledd.
Ar y cyd ag Aura, Wrecsam Egnïol, Hamdden Sir Ddinbych, Cyngor Conwy, Byw’n Iach, Môn Actif ac ysgolion uwchradd a chynradd, mae bagiau cit wedi cael eu dosbarthu i ddarpar chwaraewyr, ac mae perthynas newydd wedi’i sefydlu â Chwaraeon Anabledd Cymru hefyd.
“Rydyn ni wedi bod yn cynnal rhaglenni hyfforddiant rhanbarthol a chymunedol bob wythnos, a chynghrair leol, ac mae’r cyfan wedi dechrau gwella safonau a chynnig mwy o gyfleoedd i chwarae,” meddai Aaron Beech.
“Rydyn ni hefyd wedi cychwyn sesiynau ‘Sut i hyfforddi tenis bwrdd’ ar gyfer myfyrwyr chwaraeon yn Iâl, ac ym mis Rhagfyr bydd cystadleuaeth ranbarthol Colegau Cymru’n cael ei chynnal yno.
“Mae cymaint yn yr arfaeth, rydyn ni wedi cymryd camau breision, a gobeithio y bydd proffil tenis bwrdd yn yr ardal hon yn parhau i dyfu a thyfu.”