Mae rhanbarth rygbi’r Gweilch wedi cyhoeddi partneriaeth arloesol newydd â chlwb y Toyota Cheetahs yn Ne Affrica.
Nod y bartneriaeth fydd datblygu chwaraewyr ar gyfer twf a datblygiad y ddau glwb.
Mae tri o chwaraewyr eisoes wedi ymuno â’r Gweilch fel rhan o’r cytundeb – yr asgellwr Daniel Kasende, y bachwr Marnus van der Merwe, a’r mewnwr Rewan Kruger sydd wedi chwarae i’w dîm cenedlaethol dan 20.
Yn ôl y Gweilch, bydd y bartneriaeth hefyd yn gyfle i roi cyfleoedd amrywiol i chwaraewyr y ddau glwb ac i dyfu eu sgiliau.
Bydd chwaraewyr y Cheetahs hefyd yn cael ymuno â charfan y Gweilch, a chwaraewyr y Gwelch yn cael ymuno â’r Cheetahs, ac yn cael y cyfle i ddysgu diwylliant a dulliau chwarae gwahanol.
‘Atgyfnerthu’r garfan ar adegau allweddol yn y tymor’
Yn ôl Dan Griffiths, Rheolwr Cyffredinol y Gweilch, bydd y bartneriaeth yn “creu cyfleoedd i atgyfnerthu ein carfan ar adegau allweddol yn y tymor”.
Dywed y bydd hefyd yn gwella’u gallu i reoli anafiadau a llwyth gwaith y chwaraewyr.
“Rydyn ni hefyd wedi cyffroi o gael cydweithio â’r Cheetahs i archwilio profiadau rygbi a bywyd ar gyfer ein chwaraewyr dawnus sy’n datblygu,” meddai.
“Mewn amserau heriol, rhaid i ni fod yn arloesol yn ein dull, ac mae ein perthynas â’r Cheethahs yn un o’r ffyrdd rydyn ni’n gyrru’r uchelgais hwnnw.”