Fel un fu’n gwylio tîm criced Morgannwg ers 30 mlynedd a mwy bellach, dwi wedi dod i dderbyn nad oes dim byd yn fy synnu bellach. A dyw’r penderfyniad diweddaraf i ddychwelyd i’r drefn o un prif hyfforddwr yn ddim gwahanol chwaith.

Flwyddyn yn ôl, pan gafodd swydd Matthew Maynard ei hollti – yntau’n gyfrifol am y Bencampwriaeth a Mark Alleyne yn cael ei benodi maes o law i ofalu am y gemau undydd – dywedodd y Cyfarwyddwr Criced Mark Wallace fod y tymor yn un hir a bod hollti’r swydd am alluogi’r hyfforddwyr i aros yn ffres ac i ganolbwyntio ar eu swyddi’n well. Flwyddyn yn ddiweddarach, ac mae’n ymddangos ei fod e bellach yn teimlo bod amserlen brysur yn atal hynny ac mai un dull, un llais sydd orau. Wel, does bosib na fyddai wedi sylweddoli hynny flwyddyn yn ôl?

Gorffennodd Morgannwg yn bumed yn y Bencampwriaeth yn 2023, ar ôl sicrhau bod ganddyn nhw ryw obaith o ddyrchafiad ar ddiwedd y tymor, ond aeth un neu ddau ganlyniad allweddol yn eu herbyn nhw yn y pen draw. Pe baen nhw wedi bod ychydig yn fwy clinigol ar y cae ar adegau pwysau, gallai’r cefnogwyr fod wedi bod yn edrych ymlaen at dymor 2024 yn yr Adran Gyntaf. Mae Maynard, o leiaf, wedi gallu cerdded i ffwrdd ag urddas, ond mae ei resymau dros wneud hynny’n codi cwestiynau ynghylch yr hyn sy’n digwydd y tu ôl i’r llenni.

Ond roedd sefyllfa’r tîm undydd yn llanast. Ennill pump a cholli naw oedd hanes Morgannwg yng nghystadleuaeth ugain pelawd y Vitality Blast o dan Mark Alleyne. Ond byddai ganddo fe ail gyfle yng Nghwpan Metro Bank, y gystadleuaeth 50 pelawd… tan bod Morgannwg yn penderfynu penodi’r is-hyfforddwr David Harrison ar gyfer y gystadleuaeth honno, gydag Alleyne yn cynorthwyo Maynard gyda’r Tân Cymreig yn y Can Pelen. Does bosib na fyddai Morgannwg wedi rhagweld hynny ymlaen llaw? Penodiad rhyfedd o dan yr amgylchiadau, a dweud y lleiaf. Ond ddim mor rhyfedd, efallai, â’r cyhoeddiad ddaeth yr wythnos hon fod Alleyne am fod yn rhan o’r tîm hyfforddi, sy’n awgrymu na fydd e o reidrwydd yn cael ei benodi i’r brif swydd – er bod ganddo fe brofiad o wneud hynny gyda Morgannwg a Swydd Gaerloyw. Ac mae’r cyfan oll yn deillio o adolygiad mewnol – byddai gan nifer o gyn-hyfforddwyr y sir rywbeth i’w ddweud am y rheiny hefyd!

Ble nesaf?

Dyma gwestiwn wnes i ei ofyn ar ddiwedd y tymor aeth heibio.

Yma, dwi’n cymharu’r sefyllfa bresennol â dyddiau duon 2010. Mae prif hyfforddwr wedi mynd unwaith eto, ac mae’r capten David Lloyd wedi symud i Swydd Derby gan nodi rhesymau teuluol. Collodd Morgannwg brofiad un o’r bowlwyr cyflym gorau yn eu hanes diweddar, Michael Hogan, a dydyn nhw ddim wedi gallu dod â neb i mewn i lenwi ei esgidiau mawr.

Ydyn, mae Morgannwg yn glwb heb gyfeiriad ar hyn o bryd, wrth iddyn nhw flaenoriaethu cytundebau i chwaraewyr ifainc ac ymylol ar draul denu chwaraewyr profiadol – rhywbeth mae mawr ei angen arnyn nhw ers blynyddoedd. Mae gwir angen bowliwr cyflym agoriadol all fygwth batwyr – rhywun fel Michael Neser, sydd ond ar gael am ran o’r tymor ar hyn o bryd yn sgil ei ymrwymiadau ag Awstralia, yn debyg i’r batiwr agoriadol Marnus Labuschagne. Mae angen arweinydd cryf yn y tîm – mae’n debygol mae Kiran Carlson fydd yn gapten y tymor nesaf drwyddi draw, ond mae angen llais profiadol i fod yn glust iddo fe hefyd.

O ran y prif hyfforddwr, mae’n debygol mai David Harrison gaiff y swydd pe bai’n mynd amdani. Mae gan Forgannwg hanes diweddar o benodi’n fewnol, felly fyddai hynny ddim yn syndod mawr. Mae ganddyn nhw Adrian Shaw yn eu rhengoedd hefyd, ac yntau wedi gwneud y swydd o’r blaen. Opsiwn amgen, efallai, fyddai rhywun fel Darren Thomas, y cyn-chwaraewr sy’n nabod y sir yn dda ac sydd newydd ymddiswyddo o’i rôl yn brif hyfforddwr tîm Siroedd Llai Cymru.

Mae’n ddadl ers tro bod angen rhywun o’r tu allan ar Forgannwg – dadl dwi ddim o reidrwydd yn cytuno â hi. Wedi’r cyfan, mae’n draddodiad ar draws yr holl siroedd fod cyn-chwaraewyr yn cael eu penodi’n hyfforddwyr yn ddiweddarach. Does dim byd yn bod â hynny, ac nid nepotistiaeth yw e er mai dyna’r cyhuddiad. Ond os oes rhywun gwell ar gael, mae’n rhaid mynd amdanyn nhw – rhywun fel Mike Hussey o’r Tân Cymreig, efallai? A dw i’n dweud hyn â ‘nhafod yn gadarn yn fy moch – am ba hyd fydd Matthew Mott, cyn-brif hyfforddwr Morgannwg – yn cadw ei swydd gyda Lloegr ar ôl Cwpan y Byd erchyll?! Na, awn ni ddim i feddwl am y posibilrwydd hwnnw…

Yr heriau

Pwy bynnag fydd wrth y llyw – ac fe gawn ni wybod yn fuan yn y flwyddyn newydd, mae’n debyg – bydd ganddyn nhw dipyn o job ar eu dwylo.

Dim ond tacluso fan hyn a fan draw sydd ei angen yn y Bencampwriaeth. Oes, mae angen mwy o brofiad yn y tîm, ond fe lwyddodd Matthew Maynard yn rhyfeddol o ystyried yr adnoddau oedd ganddo fe. Byddai ychwanegu batiwr a bowliwr agoriadol profiadol yn gam mawr ymlaen. All y bowlwyr presennol ddim cario’r baich i gyd, ac all Morgannwg ddim parhau i fod mewn sefyllfa lle mae’r batwyr canol y rhestr yn achub y tîm ar ôl colli tair neu bedair wiced gynnar fel sydd wedi digwydd dros y blynyddoedd.

Dydy’r perfformiadau undydd yn sicr ddim wedi bod yn ddigon da ers rhai blynyddoedd, o ystyried bod Morgannwg wedi bod yn brolio ar un adeg mai tîm undydd ydyn nhw yn y bôn. Mae angen mynd yn ôl i edrych ar fuddugoliaeth y tîm yn 2021 pan enillon nhw’r gwpan 50 pelawd, a 2017 pan gyrhaeddon nhw Ddiwrnod y Ffeinals yn y gystadleuaeth ugain pelawd, i weld sut a pham lwyddon nhw bryd hynny.

Does gen i mo’r atebion i gyd. Ond gobeithio wir fod gan rywun ym Morgannwg o leiaf ambell ateb.

All y sefyllfa bresennol ddim parhau. Mae’r sefyllfa mor llwydaidd â’r llun sydd ar frig yr erthygl hon.