Mae Clwb Criced Morgannwg wedi cadarnhau mai un prif hyfforddwr fydd yng ngofal y tîm yn 2024.
Fe ymddiswyddodd Matthew Maynard ar ddiwedd y tymor, ar ôl bod yn rhannu’r swydd â Mark Alleyne.
Maynard oedd yng ngofal y tîm yn y Bencampwriaeth, tra roedd Alleyne yn gyfrifol am y tîm yn y gemau ugain pelawd cyn trosglwyddo’r cyfrifoldeb am y gystadleuaeth ugain pelawd rai dyddiau’n ddiweddarach i David Harrison.
Bu Alleyne yn arwain y tîm wedyn yn y gystadleuaeth 50 pelawd.
Ond yn dilyn adolygiad, mae Morgannwg yn dweud y byddan nhw’n dychwelyd i’r strwythur blaenorol, gydag un prif hyfforddwr wrth y llyw ar gyfer yr holl gystadlaethau.
Bydd Alleyne yn aros gyda’r clwb er mwyn gweithio gyda’r prif hyfforddwr newydd, wrth i’r tîm ddechrau ymarfer eto yr wythnos hon.
‘Strwythur mwy traddodiadol’
Yn ôl Mark Wallace, Cyfarwyddwr Criced Morgannwg, mae’r clwb wedi penderfynu dychwelyd i’r hen drefn “er bod rhai elfennau positif” wrth hollti’r swydd.
“Gyda natur hectig yr amserlen a’r angen i chwaraewyr symud ar draws y fformatiau, rydyn ni wedi penderfynu dychwelyd i strwythur sy’n fwy traddodiadol wrth symud ymlaen,” meddai.
“Mae’r swydd bellach yn cael ei hysbysebu, ac rydyn ni’n chwilio am yr ymgeisydd cywir i fod yn ei le ar gyfer y swydd gyffrous hon yn gynnar yn y flwyddyn newydd.”
Y swydd
Mae’r hysbyseb ar wefan y clwb yn dweud bod y Prif Hyfforddwr yn atebol i’r Cyfarwyddwr Criced o ran perfformiadau, ac y bydd gofyn cydweithio â’r capten(iaid), rheolwyr a’r chwaraewyr.
Cytundeb tair blynedd fydd yn cael ei gynnig i’r ymgeisydd llwyddiannus, ac ymhlith y prif gyfrifoldebau mae dewis y tîm, gwneud argymhellion ynghylch cytundebau’r chwaraewyr, datblygu a monitro cynlluniau datblygu’r chwaraewyr, paratoi’r tîm i chwarae ar y cae ym mhob cystadleuaeth, ac arwain hyfforddiant y garfan.
Bydd y prif hyfforddwr hefyd yn gyfrifol am oruchwylio iechyd a ffitrwydd y chwaraewyr ar y cyd â’r adrannau perthnasol o fewn y clwb, yn ogystal â chefnogi’r capten o ran tactegau a’r gwrthwynebwyr.
Bydd elfennau masnachol, gweithrediadau, cyfleusterau, a diwylliant y clwb yn rhan o’r swydd hefyd.
Bydd gofyn i ddeilydd y swydd gyfrannu at “ddatblygu a chyflwyno polisïau i greu llwyddiant cynaliadwy”.
Bydd elfen o’r swydd hefyd yn canolbwyntio ar ddatblygu chwaraewyr drwy rengoedd a llwybrau’r clwb.
Mae Morgannwg yn dweud y byddan nhw’n ystyried ceisiadau o dramor hefyd.