I’r rheiny ohonon ni sy’n dilyn hynt a helynt Clwb Criced Morgannwg ers blynyddoedd, dydy dweud bod 2010 yn isafbwynt yn hanes y clwb ddim ond yn crafu’r wyneb.
Bryd hynny, ymddiswyddodd Matthew Maynard am y tro cyntaf ar ôl i’r clwb fethu ag ymgynghori ar y penderfyniad i deithio i Dubai i ddenu Alviro Petersen, chwaraewr o’r tu allan i’r clwb, a’i benodi’n gapten yn lle Jamie Dalrymple, ac yn sgil newidiadau mawr i’r strwythur hyfforddi.
Yn sgil ymddiswyddiad Maynard, gadawodd Dalrymple y sir hefyd, gan ddweud nad oedd ganddo fe barch at y cadeirydd ar y pryd, Paul Russell, ac fe gamodd y llywydd Peter Walker i’r naill ochr hefyd gan nad oedd trafodaeth wedi bod ynghylch y penderfyniadau oedd yn cael eu gwneud.
Yn sgil penodi Petersen, a hefyd Colin Metson yn Gyfarwyddwr Criced, collodd Morgannwg brofiad Maynard, Dalrymple a Walker mewn cyfnod byr iawn o amser, ac roedd blynyddoedd llwm i ddilyn. Fe adawodd Tom Maynard, mab Matthew, y sir hefyd ac ymuno â Surrey ond yn drasig iawn, bu farw’n 23 oed yn 2012.
Cyn ac yn ystod tymor 2023, mae Morgannwg wedi colli’r bowliwr cyflym profiadol Michael Hogan, y capten David Lloyd (oedd wedi ymuno â Swydd Derby ar fenthyg cyn symud yn barhaol ‘am resymau teuluol’ yn 2024), y prif weithredwr Hugh Morris sy’n gadael am resymau personol, y cadeirydd Gareth Williams sydd wedi ymuno â Bwrdd Criced Cymru a Lloegr, dau brif hyfforddwr – Mark Alleyne a Matthew Maynard – a dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd beth yw sefyllfa’r ddau chwaraewr tramor, Marnus Labuschagne a Michael Neser, yn sgil eu hymrwymiadau gyda thîm cenedlaethol Awstralia.
Fe geisiodd y cyn-brif hyfforddwr Robert Croft feithrin carfan Gymreig fel polisi. Ond yn dilyn newid cyfeiriad a rhai blynyddoedd bellach ers ei ddiswyddo, mae’n ymddangos y gall fod angen i Forgannwg ddychwelyd at y polisi hwnnw o angenrhaid yn hytrach na dymuniad. Ond cwestiwn arall sy’n codi yn y fan honno yw beth ddigwyddodd i’r academi gafodd ei chrybwyll ar gyfer gorllewin Cymru, rhan o’r wlad sy’n hanesyddol gyfrifol am feithrin doniau rhai o fawrion y sir – Alan Jones, Eifion Jones, Don Shepherd, Robert Croft ac ati, ac ati…
Hanes Morgannwg yn ailadrodd ei hun?
Cafodd Matthew Maynard ei benodi gan y sir eto yn 2019, gan ddychwelyd i rôl y Prif Hyfforddwr, ond mae’n gadael ar ddiwedd y tymor hwn, flwyddyn cyn i’w gytundeb ddod i ben a blwyddyn ers iddo fe golli hanner ei swydd.
Daeth cadarnhad eleni wedyn y byddai Maynard yn gofalu am y tîm yn y Bencampwriaeth yn unig, gyda Mark Alleyne wedi’i benodi’n brif hyfforddwr ar gyfer y gemau undydd. Ond dim ond yn y gystadleuaeth ugain pelawd y bu Alleyne wrth y llyw, gan ymuno â’r Tân Cymreig ar gyfer y Can Pelen, gyda’r is-hyfforddwr David Harrison wedi’i benodi ar gyfer Cwpan Metro Bank, y gystadleuaeth 50 pelawd. Dydy’r clwb ddim wedi cynnig fawr o eglurhad am y sefyllfa honno o hyd.
Tra bod y canlyniadau wedi bod yn siomedig yn y ddwy gystadleuaeth undydd, daeth Morgannwg o fewn trwch blewyn unwaith eto i ddyrchafiad yn y Bencampwriaeth cyn iddyn nhw golli gêm dyngedfennol yn erbyn Swydd Gaerwrangon.
Wrth siarad â BBC Cymru heddiw yn dilyn y cyhoeddiad, mae Matthew Maynard wedi awgrymu ei fod e’n rhwystredig â nifer o bethau, nid lleiaf y broses recriwtio – a recriwtio troellwr yn benodol. Gydag Andrew Salter heb allu ennill ei le yn y tîm, mae Morgannwg wedi dibynnu ar nifer o droellwyr achlysurol i gamu i fyny i’r rôl. Roedd yr ysgrifen ar y mur, i raddau, ar ddiwedd y tymor diwethaf pan adawodd Michael Hogan gan ddweud ei fod yn ymddeol ac yn dychwelyd i Awstralia, cyn ymuno â Chaint yn fuan wedyn. Mae Morgannwg yn dal i ddiodde’r golled, ac mae’r perfformiadau eleni’n awgrymu nad ydyn nhw wedi gallu dod o hyd i’r bowliwr gorau i lenwi ei esgidiau, gyda’r rhan fwyaf o’u gemau’n gorffen yn gyfartal gan nad ydyn nhw wedi gallu cipio digon o wicedi dro ar ôl tro.
“Dw i wedi bod yn mynd ar ôl troellwr i ennill gemau ers i fi ddod yma,” meddai Maynard, gan ychwanegu bod yna “rai wedi bod ar gael yn y cyfnod hwnnw na chawson ni”. Ond mae’n ymfalchïo ar yr un pryd yn y ffaith ei fod e wedi llwyddo i weddnewid diwylliant y clwb wrth i’r to iau fagu mwy o hyder a chael mwy o gyfleoedd.
Wrth drafod y penderfyniad i hollti ei swydd, mae’n dweud ei fod yn “deall yn iawn” nad oedd y canlyniadau wedi bod yn ddigon da. Ond mae’n cyfeirio hefyd at y ffaith nad yw’r canlyniadau wedi gwella eleni chwaith – ac mae’n anodd iawn anghytuno â hynny. Ond dydy hi ddim yn ymddangos bod gan Morgannwg yr ateb i’r broblem honno ar hyn o bryd chwaith – er iddyn nhw ennill y gwpan 50 pelawd gwta ddwy flynedd yn ôl.
Rheswm arall sydd wedi’i roi gan Matthew Maynard am ei ymddiswyddiad yw’r diffyg cyfle i hyfforddi’r tîm mewn gemau undydd. Mae’n rhaid bod y penderfyniad i dynnu’r cyfrifoldeb hwnnw oddi arno’n dal i frifo, ond mae’n rheswm proffesiynol dilys hefyd. Mae’n dweud bod y gwaith hwnnw’n cynnig “math gwahanol o foddhad” iddo. A phwy all ei feio gyda’r holl sylw sy’n cael ei roi i’r Can Pelen erbyn hyn? Dyna le mae’r holl gyffro erbyn hyn.
Canu clodydd – ond angen dysgu gwersi hefyd
Does ond gobeithio y bydd Morgannwg yn dysgu gwersi o’r sefyllfa hon. Mae’r Cyfarwyddwr Criced Mark Wallace wedi talu teyrnged i Maynard, gan ddweud iddo fod yn “was anhygoel o ffyddlon i’r clwb” ac yn un o’r “hoelion wyth”. A gafodd e ddigon o gefnogaeth i gwblhau ei swydd – ar ôl colli hanner ei swydd flaenorol – sy’n gwestiwn arall. Mae awgrym Wallace fod “y tymor hwn yn fwy siomedig na’r tymor diwethaf” yn awgrymu teimladau’r clwb. Mae rhyw eironi creulon yn y ffaith fod y perfformiadau wedi gwella yn yr unig gystadleuaeth y bu Maynard yn gyfrifol amdani, tra bod y perfformiadau a’r canlyniadau yn y ddwy gystadleuaeth arall wedi aros yn eu hunfan, os nad wedi gwaethygu.
Mae Wallace yn addo adolygiad o’r sefyllfa. Ond hyn a hyn mae adolygiadau’n gallu ei wneud. Mae angen gweld camau pendant yn cael eu cymryd – i recriwtio bowliwr cyflym, i benodi’r bobol iawn yn brif hyfforddwr ac yn gapten, i ddatblygu cenhedlaeth newydd o chwaraewyr. Ond yn bennaf oll, mae angen tryloywder er mwyn deall y ffordd ymlaen. All y clwb ddim fforddio cyfnod arall – ddegawd ar ôl y cyfnod diwethaf – o amwysedd, o ddiffyg cyfeiriad a chyhuddiadau o ddiffyg tryloywder.
Mae’r holl ymadawiadau’n bryder. Ond y pryder mwyaf ar hyn o bryd yw fod mwy o gwestiynau nag o atebion.