Bydd Matthew Maynard, prif hyfforddwr tîm criced Morgannwg yn y Bencampwriaeth, yn camu o’r neilltu ar ôl gêm ola’r tymor yn erbyn Swydd Derby ymhen pythefnos.
Dychwelodd y cyn-gapten i’r sir yn brif hyfforddwr dros dro yn 2019, cyn cael ei benodi’n barhaol ar ddiwedd y tymor hwnnw.
Dros gyfnod o bum mlynedd, mae e wedi gweddnewid canlyniadau’r tîm, yn enwedig mewn criced pedwar diwrnod, wrth iddyn nhw golli allan o drwch blewyn ar ddyrchafiad i’r Adran Gyntaf y tymor diwethaf.
Fe fu’n canolbwyntio ar y Bencampwriaeth yn unig y tymor hwn, ar ôl i’w swydd gael ei hollti’n ddwy, gyda Mark Alleyne yn cael ei benodi ar gyfer y gemau undydd ond yn gadael ar ddiwedd yr ymgyrch ugain pelawd, gyda’r is-hyfforddwr David Harrison yng ngofal y tîm ar gyfer y gemau 50 pelawd.
Mae ymadawiad Matthew Maynard yn golygu eu bod nhw wedi colli’r capten (David Lloyd, sydd wedi ymuno â Swydd Derby am resymau teuluol), y prif weithredwr Hugh Morris (sy’n camu o’r neilltu am resymau personol) a chadeirydd (Gareth Williams, sydd wedi cael swydd gyda Bwrdd Criced Cymru a Lloegr).
Gyrfa
Cyn mentro i’r byd hyfforddi, sgoriodd Matthew Maynard bron i 25,000 o rediadau i Forgannwg mewn 754 o gemau dosbarth cyntaf, gan daro 59 canred.
Roedd e’n aelod o bedwar tîm enillodd dlysau – yn 1993, 1997, 2002 a 2004 – ac fe fu’n gapten ar y sir pan enillon nhw Bencampwriaeth y Siroedd am y trydydd tro erioed yn 1997.
Chwaraeodd e 18 o weithiau dros Loegr – pedair gêm brawf ac 14 o gemau undydd.
Fe wnaeth e ymddeol o’r cae chwarae yn 2005 i fynd yn is-hyfforddwr gyda Lloegr a rhwng dau gyfnod gyda Morgannwg – yn Gyfarwyddwr Criced ac yna’n Brif Hyfforddwr – cafodd e gyfnodau’n hyfforddi’r Titans yn Ne Affrica a’r St Lucia Zouks yn y Caribî, yn ogystal â bod yn Gyfarwyddwr Criced gyda Gwlad yr Haf.
Mae Clwb Criced Morgannwg wedi awgrymu y bydd e’n parhau i weithio i’r sir ym maes datblygu chwaraewyr iau.
‘Yr adeg iawn i gamu o’r neilltu’
“Bu’n bum mlynedd ers i mi ddychwelyd i Forgannwg yn brif hyfforddwr, ac mae’n teimlo fel yr adeg iawn rŵan i mi gamu o’r neilltu,” meddai Matthew Maynard.
“Dw i wedi mwynhau gweithio hefo’r chwaraewyr a’r staff yn fawr iawn, ac yn teimlo y gall y diwylliant sydd wedi’i feithrin o fewn y grŵp dyfu’n rywbeth arbennig.
“Mae yna dalent o fewn y garfan, a dw i’n edrych ymlaen at wylio’r chwaraewyr yn datblygu dros y blynyddoedd i ddod.
“Dw i’n dal i garu hyfforddi ac mae gen i angerdd am gydweithio hefo chwaraewyr, ac ar ôl rhywfaint o amser i ffwrdd – a gwneud fy nhaith gerdded elusennol – mi fydda i’n cychwyn sbïo ar ba heriau sydd allan yno i mi wrth symud ymlaen.
“Morgannwg fydd fy nghlwb i wastad, a dw i’n dymuno pob lwc i bawb sydd ynghlwm yn y dyfodol.”
‘Ychydig iawn o ffigurau mwy adnabyddus a dylanwadol’
Mae Mark Wallace, Cyfarwyddwr Criced Morgannwg, wedi talu teyrnged i Matthew Maynard, gan ddweud bod “ychydig iawn o ffigurau mwy adnabyddus a dylanwadol ynghlwm wrth Glwb Criced Morgannwg na Matthew Maynard”.
“Mae ei fewnbwn fel prif hyfforddwr dros ei ddau dymor yn y rôl wedi bod yn arwyddocaol,” meddai.
“Mae ganddo fe allu gwych i gysylltu â chwaraewyr, ac mae ei arweinyddiaeth ysbrydoledig fel chwaraewr a hyfforddwr wedi gadael ei ôl yn barhaol ar wead y clwb fydd i’w deimlo am nifer o flynyddoedd i ddod.
“Yn bersonol ac ar ran pawb sydd ynghlwm wrth y clwb, hoffwn ddiolch i Matthew am ei effaith heb ei ail ar Forgannwg dros y blynyddoedd, a dymuno’r gorau iddo ar gyfer ei ddyfodol.
“Er bod Matthew yn camu o’i swydd yn brif hyfforddwr, rydym yn gobeithio cadw ei arbenigedd ym Morgannwg mewn rhyw rôl wrth symud ymlaen, wrth i ni geisio datblygu chwaraewyr yng Nghymru hyd eithaf eu gallu.”
‘Un o’r cricedwyr mwyaf rhagorol’
Yn ôl y prif weithredwr Hugh Morris, mae Matthew Maynard yn “un o’r cricedwyr mwyaf rhagorol mae Clwb Criced Morgannwg wedi’u cynhyrchu erioed”.
“Mae ei angerdd a’i ymrwymiad i’r clwb ar y cae ac oddi arno am bron i 40 mlynedd heb ei ail,” meddai.
“Dylai Matt deimlo’n eithriadol o falch o’i gyflawniadau rhagorol, ac yn fwyaf nodedig fel trydydd capten Morgannwg yn unig y tu ôl i Wilf Wooller a Tony Lewis i ennill Pencampwriaeth y Siroedd.
“Roedd hi’n bleser chwarae a gweithio gyda Matt, ac ar ran y clwb hoffwn ddiolch iddo am ei wasanaeth eithriadol a dymuno’n dda iddo ar gyfer y dyfodol.”