Fe wnaeth Sam Northeast ac Eddie Byrom daro canred yr un i achub tîm criced Morgannwg yn erbyn Swydd Efrog, wrth i’r gêm Bencampwriaeth yng Nghaerdydd orffen yn gyfartal.

Daw’r canlyniad er i Forgannwg orfod canlyn ymlaen.

Sgoriodd yr ymwelwyr 500 yn eu hunig fatiad, wrth i Forgannwg gael eu bowlio allan am 273 yn eu batiad cyntaf.

Roedden nhw’n 401 am bump pan ddaeth y chwarae i ben ar y diwrnod olaf, gyda Northeast heb fod allan ar 166, yn dilyn 101 gan Byrom yn gynharach yn y batiad.

Adeiladodd y pâr bartneriaeth o 178 am y drydedd wiced wrth iddyn nhw frwydro i achub y gêm, er bod eu gobeithion o ennill dyrchafiad i’r Adran Gyntaf ar ben erbyn hyn.

Yn ystod yr ail fatiad, cyrhaeddod y capten Kiran Carlson garreg filltir hollbwysig gyda’i 1,000fed rhediad y tymor hwn – y tro cyntaf erioed iddo fe gyflawni’r nod.

Mae Morgannwg bellach wedi cael unarddeg gêm gyfartal y tymor hwn ar ôl chwarae 13 o gemau, gyda’u hanallu i fowlio timau allan wedi bod yn broblem gynyddol.

Manylion

Dechreuodd y diwrnod yn llawn gobaith i Swydd Efrog ond maen nhw’n gorffen y gêm ar waelod y tabl, ar ôl colli pwyntiau’n gynharach yn y tymor yn sgil helynt hiliaeth yn ymwneud â’r cyn-chwaraewr Azeem Rafiq.

Roedd Morgannwg yn 120 am ddwy ar ddechrau’r diwrnod olaf, ar ôl bod ar ei hôl hi o 227 o rediadau ar ddiwedd y batiad cyntaf a gorfod batio eto.

Roedden nhw’n gwybod y byddai’n rhaid iddyn nhw fatio am ddiwrnod cyfan i achub yr ornest, a chafodd bowlwyr Swydd Efrog fawr o gymorth ar y llain.

Cyrhaeddodd Northeast ei hanner canred ym mhedwaredd belawd y dydd, tra bod Byrom heb fod allan ar 52 ar ddechrau’r bore cyn mynd yn ei flaen i gyrraedd ei ganred.

Ond gallai Northeast fod wedi bod ar ei ffordd yn ôl i’r pafiliwn pan ergydiodd e’n wyllt oddi ar fowlio Matthew Revis, gipiodd bum wiced yn y batiad cyntaf, gyda’r bêl yn bwrw ei droed ar ei ffordd tua’r wiced.

Cymaint oedd rhwystredigaeth y Saeson nes eu bod nhw wedi rhoi’r bêl i’r wicedwr Jonathan Tattersall i roi cynnig ar fowlio, ond parhau i ymosod wnaeth y batwyr.

Daeth canred Byrom oddi ar fowlio Dom Bess, ond daeth y batiad i ben yn fuan wedyn pan geisiodd e sgubo’n wrthol a chael ei fowlio gan y troellwr ar ôl wynebu 199 o belenni yn ystod partneriaeth allweddol gyda Northeast.

Roedd Morgannwg yn 230 am dair erbyn amser cinio – tri rhediad ar y blaen – gyda Northeast wrth y llain ar 88 ochr yn ochr â Carlson.

Goroesodd Northeast waedd am goes o flaen y wiced oddi ar fowlio’r troellwr achlysurol Adam Lyth ar 93, a chyfle wedyn i’w ddal gan y bowliwr Bess oddi ar droed y maeswr agos James Wharton – blaen bys yn unig gafodd y troellwr arni.

Daeth ei ganred gydag ergyd am bedwar i’r ochr agored oddi ar fowlio Lyth, cyn i Swydd Efrog gymryd y bêl newydd pan oedd Morgannwg yn 254 am dair – ar y blaen o 27 rhediad.

Daeth 1,000fed rhediad Carlson ar ôl i’r bowlwyr cyflym Ben Coad a Jordan Thompson ddychwelyd, ac fe gyrhaeddodd ei hanner canred cyn cael ei ddal gan y wicedwr Tattersall am 52, wrth i Ben Cliff gipio’i wiced gyntaf yn ei gêm gyntaf i sir y rhosyn gwyn.

Erbyn hynny, roedd Morgannwg yn 305 am bedair, ac wedyn yn 354 am bedair erbyn amser te.

Er i Wharton fowlio Billy Root am 45, daeth yr ornest i ben am 4.20yp pan oedd Morgannwg yn 401 am bump – ar y blaen o 174 heb unrhyw obaith y gallai’r naill dîm na’r llall gipio buddugoliaeth.

Llain farw – ‘stori’r tymor’

“Fe wnaeth Swydd Efrog ddominyddu’r gêm am y ddau ddiwrnod cyntaf a’n rhoi ni o dan bwysau da,” meddai Sam Northeast.

“Fe wnaethon nhw fowlio’n dda iawn yn y batiad cyntaf, ro’n i’n meddwl.

“Ond fe aeth y llain yn wastad a marw i raddau.

“Dyna stori’r tymor. Gall farw yma dipyn bach ar adegau, a dyna pam ein bod ni wedi cael cynifer o gemau cyfartal.

“Wrth symud ymlaen, bydd yn rhaid i ni feddwl am ffyrdd o gael canlyniad ar y llain honno.

“Roedd yn destun pleser ein bod ni wedi brwydro ac wedi dangos calon ar ddiwedd tymor hir, ac ro’n i’n hapus i gael y bois adref.

“Bydden ni’n amlwg wedi hoffi gwthio’n galetach am ddyrchafiad, ond doedd hynny ddim am fod.”

‘Trueni nad oedd gen i Joel Garner’

Yn ôl Ottis Gibson, prif hyfforddwr Swydd Efrog a chyn-chwaraewr tramor Morgannwg, maen nhw’n teimlo’n “rhwystredig” yn sgil y canlyniad.

“Efallai mai rhwystredig yw’r ffordd orau o’i ddisgrifio, nid dim ond i’r chwaraewyr ond i bawb oedd yn eistedd ac yn gwylio hefyd,” meddai.

“Roedden ni’n gwybod pan ddaethon ni yma a gweld ein bod ni’n chwarae ar lain oedd eisoes wedi cael ei defnyddio, a hanes y llain ei hun, ei bod hi am fod yn bedwar diwrnod anodd.

“Ar ôl batio’n gyntaf a rhoi rhediadau ar y bwrdd, roedden ni’n gwybod ein bod ni am orfod gweithio’n galed yn ail ran y gêm.

“Dw i ddim yn meddwl fod llawer o dimau wedi cipio ugain wiced yma eleni.

“Roedd hi’n ymdrech dda gennym ni, fe wnaethon ni barhau i yrru’r gêm a cheisio gwneud pob math o bethau, ond yn y pen draw doedd hi ddim am fod.

“Roedd un adeg pan oeddwn i’n eistedd yno’n meddwl, ‘Treuni nad oedd gen i Joel Garner [cyn-fowliwr cyflym India’r Gorllewin]…’ ond pob clod i’r bois – fe wnaethon nhw eu gorau, a phob clod i Forgannwg – fe wnaethon nhw fatio’n dda yn yr ail fatiad.”