Y bachwr Dewi Lake fydd yn gapten ar dîm rygbi Cymru ar gyfer y gêm yn erbyn Portiwgal yn Nice ddydd Sadwrn (4.45yp).

Bydd y mewnwr Tomos Williams yn ennill ei hanner canfed cap, ac yn cadw cwmni i’r maswr Gareth Anscombe.

Ynghyd â Lake, mae tri chwaraewr arall yn chwarae yng Nghwpan y Byd am y tro cyntaf – y canolwyr Johnny Williams a Mason Grady, a’r asgellwr Rio Dyer.

Yn cwblhau’r rheng flaen gyda Lake mae Nicky Smith a Dillon Lewis, tra bod Leigh Halfpenny wedi’i enwi’n gefnwr a bydd Louis Rees-Zammit ar yr asgell arall.

Christ Tshiunza, sy’n dechrau gêm am y tro cyntaf, a Dafydd Jenkins fydd yn chwarae yn yr ail reng.

Yn y rheng ôl fydd Dan Lydiate, Tommy Reffell a Taulupe Faletau.

Yr eilyddion yw Gareth Davies, Sam Costelow, Josh Adams, Ryan Elias, Corey Domachowski, Tomas Francis, Adam Beard a Taine Basham.

Cyfle i’r chwaraewyr ar y cyrion

Gydag ychydig iawn o amser rhwng gemau, dywed y prif hyfforddwr Warren Gatland fod y gêm hon yn gyfle i chwaraewyr sydd ar y cyrion.

“Dw i wedi dweud o’r blaen, mae yna gystadleuaeth wych o fewn y garfan, a dyna rydyn ni eisiau ei weld,” meddai.

“Mae cyfle nawr i’r grŵp yma fynd allan ddydd Sadwrn a gosod eu stamp eu hunain ar y twrnament.”

Dywed fod y garfan yn deall ble mae angen gwella ers eu gêm agoriadol pan gawson nhw fuddugoliaeth o 32-26 dros Ffiji.

“Mae gyda ni gynllun clir o ran sut rydyn ni eisiau chwarae ddydd Sadwrn, ac mae’n fater o fynd allan yno a gweithredu hynny fel rydyn ni wedi’i baratoi.

“Mae Portiwgal yn dîm sydd â sgiliau, a byddan nhw’n ysu i gael mynd amdani y penwythnos yma yn eu gêm gyntaf yn y twrnament.

“Rydyn ni wedi cyffroi o gael mynd allan yno, ac yn edrych ymlaen at weld mwy o gefnogaeth wych yn Nice gan y cefnogwyr sydd wedi teithio.”

Tîm Cymru:

15. L Halfpenny, 14. L Rees Zammit, 13. M Grady, 12. J Williams, 11. R Dyer, 10. G Anscombe, 9. T Williams; 1. N Smith, 2. D Lake (capten), 3. D Lewis, 4. C Tshiunza, 5. D Jenkins, 6. D Lydiate, 7. T Reffell, 8. T Faletau

Eilyddion: 16. R Elias, 17. C Domachowski, 18. T Francis, 19. A Beard, 20. T Basham, 21. G Davies, 22. S Costelow, 23. J Adams