Mae tîm pêl-droed Cymru wedi ennill triphwynt hollbwysig yn dilyn buddugoliaeth o 2-0 dros Latfia yn Riga i gadw eu gobeithion yng ngemau rhagbrofol Ewro 2024 yn fyw.
Bydd y rheolwr Rob Page hefyd yn teimlo rhyddhad yn sgil y canlyniad, gydag adroddiadau bod ei ddyfodol yn y fantol o ganlyniad i rediad o ganlyniadau digon siomedig.
Ond dechreuodd Cymru’n llawn penderfyniad, wrth iddyn nhw greu dau gyfle yn y munudau agoriadol.
Tarodd Ethan Ampadu y bêl drwy’r canol cyn i Brennan Johnson ergydio dros y trawst, ac fe gafodd Ampadu ail gyfle funud yn ddiweddarach o’r gic gornel ddilynodd y symudiad, gan benio dros y trawst unwaith eto.
Wrth i Gymru barhau i bwyso, daeth trydydd cyfle mawr oddi ar ben Ben Davies, wrth i Chris Mepham ei phenio hi i’r cwrt cosbi, a Davies yn gorfodi’r golwr Roberts Ozols i wneud arbediad.
Gallai Connor Roberts yn hawdd iawn fod wedi sgorio yn ei 50fed gêm, wrth i Neco Williams groesi o’r asgell chwith â’i droed dde, a chanfod pen y cefnwr de yng nghanol y cwrt cosbi ond hwnnw’n ei tharo hi’n syth at y golwr.
Chwalodd Latfia dan y pwysau o’r diwedd ar ôl 26 munud.
Cafodd Harry Wilson ei lorio gan Kaspars Dubra, gafodd gerdyn melyn am y drosedd, ac ar ôl i’r dyfarnwr fideo wirio’r amheuon o gamsefyll, rhwydodd Aaron Ramsey ganfed gôl ei yrfa – y gic gyntaf o’r smotyn ers i Gareth Bale ymddeol – i’w gwneud hi’n 1-0.
Daeth degfed ergyd Cymru at y gôl wrth i Ramsey a Johnson gyfuno, a Johnson yn canfod gwagle ar ochr dde’r cwrt cosbi cyn i’w ergyd lithro heibio’r postyn.
Cafodd Latfia gyfle prin hwyr cyn yr egwyl, wrth i Roberts Savlnieks orfodi Joe Rodon i geisio clirio’r bêl, ond peniodd Janis Ikaunieks y bêl at Danny Ward a hwnnw’n ei chlirio hi ar yr ail gyfle wrth idlio cic gornel, a methodd Raimonds Krollis â’i foli at y gôl wag.
Peniodd Roberts Uldrikis yn ofer wrth iddyn nhw geisio un cyfle olaf cyn y ddwy funud o amser ychwanegol ar ddiwedd yr hanner cyntaf.
Ail hanner
Dechreuodd tîm Rob Page yr un mor egnïol yn yr ail hanner, ond yn wastraffus hefyd wrth i Aaron Ramsey greu dau gyfle cyn dod oddi ar y cae.
Parhaodd Wilson a Neco Williams i gyfuno’n dda i lawr yr asgell chwith, ac ar ôl i Latfia fethu ag ymdopi â’r pwysau cynyddol ar ôl 56 munud, daeth y bêl i Johnson ond roedd yr ergyd yn un gyfforddus i’r golwr.
Cafodd Jordan James ei lorio ar ôl 65 munud, ac wrth i’r dyfarnwr chwarae mantais, ergydiodd Johnson y tu hwnt i’r postyn.
Gwelodd Savalnieks gerdyn melyn am dacl flêr ar Neco Williams yn fuan wedyn, ac er i’r dyfarnwr droi at y dyfarnwr fideo doedd dim cerdyn coch am fod er gwaetha’r protestiadau.
Eduards Emsis oedd y chwaraewr nesaf i weld cerdyn melyn, a hynny ar ôl 77 munud am drosedd ar Wilson wrth i’w dîm barhau i wrthsefyll pwysau cynyddol gan Gymru. Oddi ar y gic rydd gan Wilson, fe wnaeth e ganfod Ampadu ar y smotyn, a hwnnw’n penio’r bêl dros y trawst.
Daeth cyfle mawr ar ôl 81 munud, wrth i Brennan Johnson gamergydio at Neco Williams, hwnnw’n ei chroesi hi i’r cwrt a David Brooks yn ei tharo hi i mewn i’r ddaear a thros y trawst gyda’r golwr yn ddiymadferth.
Roedd Cymru’n parhau dan bwysau ymhell i mewn i’r amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm, ac ar ôl i Danny Ward gasglu’r bêl yn daclus llwyddodd Cymru i gau’r drws ar Latfia a rhedeg y cloc i lawr cyn i Brooks rwydo’r ail gôl dros gorff y golwr funud a hanner cyn y diwedd.