Bydd Cymru’n herio Latfia yn eu pumed gêm ragbrofol yn Euro 2024 heno, ac mae ambell gefnogwr yn ffyddiog y bydd Cymru’n llwyddiannus.
Mae Cymru’n bedwerydd yn eu grŵp, dim ond ar y blaen i Latfia, ac maen nhw wedi colli eu dwy gêm ragbrofol Ewro 2024 ddiwethaf yn erbyn Armenia a Thwrci.
Ond gallai buddugoliaeth i Gymru olygu bod y tîm yn symud fyny i’r ail safle yng Ngrŵp D y tu ôl i Dwrci, yn dibynnu ar ganlyniadau eraill.
Mae Latfia wedi colli pob un o’u tair gêm ragbrofol Ewro 2024, ac maen nhw wedi ildio dwy gôl y gêm ar gyfartaledd.
‘Disgwyl i Gymru guro’
Un sy’n ffyddiog y bydd Cymru’n llwyddiannus yn erbyn Latfia heno ydy cyn-chwaraewr Bangor, Marc Lloyd Williams.
“Ar ôl y perfformiad nos Iau, dw i’n meddwl bydd Cymru’n fuddugol,” meddai wrth golwg360.
“Roedd o’n berfformiad calonogol fel llechen lan.
“Dw i’n disgwyl i Gymru guro’r gêm yma, hyd yn oed os ydy o ond o un gôl i ddim – y tri phwynt sy’n bwysig er mwyn rhoi’r pwysau ar Armenia a Thwrci.
“Dw i’n disgwyl i Rob Page gadw’r un patrwm o’r tîm a bod Ramsey yn dychwelyd i ddechrau’r gêm.
“Mae’n dibynnu wedyn yn hollol ar bwy sy’n mynd i fethu allan.
“Dw i’n meddwl y bydd deg o’r 11 gychwynnodd nos Iau yn cychwyn heno gyda Ramsey yn dod i mewn un ai yn lle Jordan James neu Chris Mephan.
“Felly fydd hi’n ddiddorol gweld be fydd Rob Page wedi’i ddewis fel yr 11 cyntaf.”
Dim Morell na Moore
Mae Joe Morrell a Kieffer Moore wedi cael eu gwahardd rhag chwarae heno, ac ni fydd Wes Burns na Wayne Hennessey yno chwaith yn sgil anafiadau.
“Bydd arddull wahanol i pan mae Kieffer Moore yn chwarae,” meddai Marc Lloyd William.
“Byddan nhw ddim mor uniongyrchol a dw i’n disgwyl gweld mai Nathan Broadhead a Brennan Johnson fydd y ddau fydd yn arwain y llinell flaen – dydyn nhw ddim y talaf, ond wrth gwrs mae ganddyn nhw gyflymder.
“Efallai byddan nhw’n chwarae mwy ar ganol y cae a gobeithio y bydd Ramsey’n dod yn fwy allweddol i Harry Wilson.
“Mae Joe Morrell yn golled efo’i egni ganol cae ond mae’n siŵr y bydd Ampadu neu Jordan James yn gallu gwneud y swydd yna’n ddigon rhwydd.”
Edrych ymlaen yn Riga
Ymysg y rhai sydd wedi teithio draw i Riga ar gyfer y gêm mae Ceridwen Edwards o Bentre-llyn-cymer yng Nghonwy, sy’n dweud bod awyrgylch braf yn y ddinas ar hyn o bryd.
“Mae’r tywydd yn fendigedig, crysau coch ym mhob man, a phawb yn edrych ymlaen at y gêm,” meddai wrth golwg360.
“Fe wnaeth y Cymry i gyd gasglu at ei gilydd neithiwr i wylio’r rygbi, a chanu tan yr oriau mân.
“Mae pawb ychydig yn fwy nerfus erbyn heddiw yn barod am y gêm!”
Ond ydy Ceridwen yn ffyddiog y bydd Cymru’n fuddugol?
“Tawel hyderus – mae angen gêm dda a pherfformiad cryf,” meddai.
“Gobeithio am dipyn o goliau er mwyn i ni gael digon o ddathlu!
“O’r argraff hyd yma, dydy llawer o bobl Latfia ddim yn dilyn pêl-droed ryw lawer, gyda llawer methu deall beth oedd y môr coch yn cyrraedd eu strydoedd.
“Felly gobeithio y bydd hyn yn adlewyrchu ar y cae.”
Wrth drafod y math o strwythur y byddai’n hoffi’i weld heno, dywedodd ei bod hi’n licio gweld Cymru’n chwarae gyda pum chwaraewr yn y cefn.
“Mae angen cymysgu pethau weithiau,” meddai.
“Gobeithio bydd Brennan Johnson yn hitio’r targed!”