Mae Rob Page yn dweud ei fod e eisiau aros yn rheolwr tîm pêl-droed Cymru tan ddiwedd ei gytundeb.
Daw ei sylwadau wrth i Gymru herio Latfia mewn gêm ragbrofol ar gyfer Ewro 2024 yn Riga heno (nos Lun, Medi 11).
Mae’n dweud bod gan y cefnogwyr “ddisgwyliadau” ar ddiwedd yr ymgyrch hon, ar ôl i Gymru gymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd y llynedd a’r ddwy Ewros ddiwethaf.
“Mae yna genhedlaeth o gefnogwyr sydd wedi gweld Cymru’n cymhwyso ar gyfer cystadlaethau mawr,” meddai.
“Mae colli chwaraewyr yn gwneud y gwaith yn fwy anodd, ond mae disgwyliadau’n dweud y dylen ni fod yn cymhwyso.
“Dydy hi ddim mor hawdd â hynny.
“Byddwn ni’n parhau i geisio cymhwyso ar gyfer pob twrnament.
“Mae’r canlyniadau y noson o’r blaen wedi mynd o’n plaid ni.
“Tan ei bod hi’n fathemategol amhosib, fe wnawn ni ddal i drio.
“Mae gyda fi waith i’w wneud – dw i eisiau cymhwyso i fi, fel cefnogwr Cymru fy hun.
“Fel rheolwr, dw i eisiau bod yn y swydd hon am weddill fy nghytundeb.
“Dw i wir yn mwynhau gweithio gyda’r grŵp yma o chwaraewyr.
“Rydyn ni mewn diwydiant lle mae angen i chi ennill gemau pêl-droed.
“Rydyn ni mewn cyfnod o newid hefyd.”
50fed cap i Connor Roberts
Pe bai’n chwarae heno, byddai Connor Roberts yn ennill ei 50fed cap dros Gymru.
Ond pedwar fydd ddim yn chwarae yw Keiffer Moore a Joe Morrell, sydd wedi’u gwahardd, ynghyd â Wes Burns a Wayne Hennessey sydd wedi’u hanafu.
“Nawr mae gyda fi bron i 50 o gapiau dros fy ngwlad, ac all neb fynd â hynny oddi wrtha i,” meddai Connor Roberts.
“Dw i wedi cael profiadau anhygoel – Cwpan y Byd, Ewros, cwpwl o goliau a llwyth o amserau hapsu yng nghrys Cymru.
“Felly gobeithio y gall hynny barhau am gwpwl o flynyddoedd, o leiaf.”
Gemau’r gorffennol
Mae Cymru’n bedwerydd yng Ngrŵp D ar hyn o bryd.
Dim ond dwywaith o’r blaen mae Cymru a Latfia wedi herio’i gilydd.
Cymru enillodd y ddwy gêm, heb ildio’r un gôl.
Daeth y gêm gyntaf rhwng y ddwy wlad yn Riga fis Awst 2004, wrth i John Hartson a Craig Bellamy sgorio mewn buddugoliaeth o 2-0 mewn gêm gyfeillgar.
Daeth yr ail gêm ddiwethaf fis Mawrth eleni, pan sgoriodd Kieffer Moore unig gôl y gêm yng Nghaerdydd.