Mae tîm pêl-droed Cymru wedi cael gêm gyfartal ddi-sgôr yn erbyn De Corea yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Mae’n ymddangos nad oes gan Rob Page bryderon mawr o ran anafiadau cyn y gêm ragbrofol ar gyfer Ewro 2024 yn erbyn Latfia yn Riga nos Lun, ar ôl dangos ei rwystredigaeth ynghylch y gêm gyfeillgar.

Yn dilyn ei sylwadau di-flewyn-ar-dafod, byddai unrhyw un oedd yn disgwyl i Rob Page roi seibiant i rai o’r prif chwaraewyr yn barod at y gêm fawr yn Latfia nos Lun wedi cael braw o weld enwau fel Brennan Johnson, Connor Roberts, Chris Mepham a Joe Rodon yn y tîm.

Ond roedd hi am fod yn brawf hefyd i’r ddau olaf ohonyn nhw yng nghanol yr amddiffyn, wrth iddyn nhw geisio cadw Son Heung-Min o Spurs yn dawel yn y gêm gyntaf erioed rhwng y ddwy wlad.

Dydy Cymru a De Corea erioed wedi herio’i gilydd ar y cae pêl-droed, a dyma’r tro cyntaf i Gymru wynebu tîm o Asia ers iddyn nhw golli o 2-0 yn erbyn Iran yng Nghwpan y Byd y llynedd.

Dim ond un o’u deuddeg gêm gystadleuol ddiwethaf mae Cymru wedi’i hennill, gan golli wyth ohonyn nhw, felly mae Rob Page dan gryn bwysau ar drothwy’r ornest yn erbyn Latfia.

Ond roedd yr un fuddugoliaeth honno yn erbyn Latfia fis Mawrth.

Doedd De Corea ddim wedi ennill yr un o’u pum gêm ddiwethaf, gan golli tair ohonyn nhw, a daeth eu buddugoliaeth ddiwethaf yn erbyn Portiwgal (2-1) yn Qatar.

Yr hanner cyntaf

Cyfnod o basio gofalus oedd y deng munud agoriadol, wrth i’r naill dîm a’r llall geisio dylanwadu ar lif y chwarae, ond daeth y symudiad bygythiol cyntaf ar ôl 14 munud wrth i Wilson ganfod ei hun mewn gwagle.

Digon gwastraffus oedd ei ergyd at y gôl, serch hynny, wrth i Kim Seung-gyu wthio’r bêl i ffwrdd.

Ond roedd arwyddion addawol i ymosod di-brofiad Cymru wrth i Nathan Broadhead, wrth ddechrau gêm am y tro cyntaf, glymu’r chwarae ymosodol ynghyd a chynnig digon o gefnogaeth i Brennan Johnson, oedd yn gwisgo crys coch Cymru am y tro cyntaf ers ymuno â Son yn Spurs am £47.5m.

Gyda Haf Bach Mihangel yn parhau yng Nghymru, byddai’r ddau dîm wedi gwerthfawrogi’r cyfle ddaeth i dorri syched a chael seibiant ar ôl 25 munud, ond digon prin oedd cyfleoedd y naill dîm a’r llall o flaen y gôl cyn i Brennan Johnson ergydio at y golwr ym munudau ola’r hanner.

Roedd un cyfle hwyr i’r ymwelwyr cyn yr egwyl, wrth i ergyd Son gael ei dargyfeirio dros y trawst gan Rodon fel ei bod hi’n dal yn ddi-sgôr ar yr egwyl.

Yr ail hanner

Daeth ambell newid allweddol ar ddechrau’r ail hanner, wrth i’r ymosodwr Kieffer Moore ddod i’r cae yn lle Johnson, gyda Joe Morrell yn cymryd lle Ethan Ampadu yng nghanol cae.

Ar ôl cyfnod tawel ar ddechrau’r hanner, yn union fel yr hanner cyntaf, arweiniodd camgymeriad amddiffynnol Joe Rodon at gic gornel a chyfnod o ymosod i Dde Corea, ond chafodd tîm Rob Page fawr o drafferth wrth dawelu’r bygythiad.

Daeth eu cyfle nesaf rai munudau’n ddiweddarach, wrth i gyfnod o ledu’r bêl a chreu patrymau arwain at gyfle i Son, ond tarodd hwnnw’r bêl yn ddigon dof dros y trawst cyn creu cyfle’n ddiweddarach i Hwang In-beom, ond hwyliodd y bêl heibio’r postyn.

Wnaeth yr ochenaid o ryddhad gan gefnogwyr Cymru ddim para’n hir ar ôl gweld Neco Williams a Harry Wilson yn gadael y cae toc ar ôl awr, gyda dyfodiad annisgwyl Aaron Ramsey yn ychwanegu opsiwn ymosodol ychwanegol ynghyd â Wes Burns ar yr ochr chwith.

A bu bron i’r newidiadau ddwyn ffrwyth ar unwaith, wrth i Mepham groesi a chanfod Ramsey a Moore o flaen y gôl heb i’r naill na’r llall allu canfod y rhwyd, a Moore yn taro’r postyn.

Burns gafodd y cyfle mawr nesaf, wrth ergydio dros y trawst o’r ochr chwith, ryw ugain llath o’r gôl.

Roedd y dorf o 13,668 yn Stadiwm Dinas Caerdydd wedi bod yn ddigon tawel drwy gydol y gêm, a bu’n rhaid aros i dri chwarter yr ornest fynd heibio cyn i’r Wal Goch forio canu ‘Yma O Hyd’.

Ar wahân i’r canlyniad, byddan nhw’n ddigon hapus o weld nad oes gan Gymru bryderon mawr o ran anafiadau cyn y daith i Riga.