Mae’r seiclwr Stevie Williams o Aberystwyth wedi ymestyn ei gytundeb gydag Israel – Premier Tech hyd at 2025.

Roedd yn ychwanegiad hwyr at restr seiclwyr IPT 2023 ar ôl i’w symudiad i dîm B&B Hotels fethu wrth i’r tîm hwnnw ddod i ben. Er hynny, mae Williams wedi mynd o nerth i nerth yn ystod y tymor.

“Fe wnes i setlo i mewn yn dda iawn yn IPT gan fy mod yn adnabod llawer o’r seiclwyr cyn arwyddo gyda’r tîm ac roedd hynny wedi gwneud y trosglwyddiad yn llawer haws. Wnaeth hi ddim cymryd yn hir i deimlo’n gartrefol a setlo mewn ac mae gen i berthynas wych gyda’r staff a’r seiclwyr ar y tîm,” meddai Williams, sy’n 27 oed.

Ar ôl bod yn rhan o dîm llwyddiannus Israel – Premier Tech yn y Giro d’Italia, fe lwyddodd Williams i ddod yn drydydd ym Mhencampwriaethau Ras Ffordd Prydain, gan fethu o drwch blewyn i gael buddugoliaeth yn y Tour de Wallonie, cyn mynd ymlaen i ennill cymal a’r Dosbarthiad Cyffredinol yn yn Nhaith Norwy rai wythnosau yn ôl. Erbyn hyn, mae Williams yn edrych ymlaen at gystadlu eto.

“Dw i’n gyffrous i adnewyddu fy nghytundeb am ychydig o flynyddoedd eto gyda’r tîm” meddai’r Cymro Cymraeg o bentref Capel Dewi.

“Dw i’n hapus ac yn rasio’n dda mewn amgylchedd braf lle dw i’n gallu parhau i symud ymlaen a rasio rasys mwyaf y byd. Ar ôl rasio’n dda yn bennaf drwy’r haf ac i mewn i’r hydref, dw i am barhau i wella drwy ennill yn fwy cyson a chael effaith wirioneddol ar y tîm wrth symud ymlaen ar gyfer y blynyddoedd i ddod.”

Wrth egluro ei benderfyniad i  ymestyn cytundeb Williams dywedodd rheolwr chwaraeon IPT, Rik Verbrugghe nad oedd y Cymro wedi cyrraedd ei lawn botensial eto.

“Mae Stevie yn seiclwr dawnus gyda llawer o botensial ac yn ogystal â hynny, mae’n gyd-chwaraewr gwych sy’n cyfrannu’n wirioneddol at ddeinameg y tîm” meddai Verbrugghe.

“Mae Stevie wedi dod yn rhan greiddiol o’n grŵp dringo ac roedd yn allweddol wrth helpu Mike Woods i ennill yn Occitanie, felly roedd yn wych ei weld yn cael ei lwyddiant ei hun gyda’r fuddugoliaeth yn Norwy ar ôl gweithio’n galed i’r tîm drwy’r tymor. Rydym yn credu nad yw Stevie wedi cyrraedd ei lawn botensial eto ac edrychwn ymlaen at weithio gydag ef yn y blynyddoedd i ddod i weld beth y gall ei wneud yn y rasys a’r Grand Tours.”