Mae tîm criced Seland Newydd wedi curo Lloegr yn gyfforddus o wyth wiced yng ngêm gynta’r gyfres 50 pelawd yng Ngerddi Sophia yng Nghaerdydd, diolch i ganred yr un gan Devon Conway (111) a Daryl Mitchell (118) a’u partneriaeth drydedd wiced allweddol o 180.
Daeth yr ornest hon lai na mis cyn i’r ddau dîm herio’i gilydd yng ngêm agoriadol Cwpan y Byd yn Ahmedabad yn India ar Hydref 5, gan ailadrodd gêm derfynol Cwpan y Byd diwethaf, gafodd ei ennill gan Loegr.
Mae Lloegr yn bencampwyr byd yn y cystadlaethau ugain pelawd a 50 pelawd, felly, a dyma’r tro cyntaf iddyn nhw gwrdd ers rownd derfynol y twrnament 50 pelawd.
Ymhlith y sêr oedd ar goll i Loegr roedd Moeen Ali, Jonny Bairstow, Jason Roy a Mark Wood, gyda Trent Boult hefyd yn absennol i Seland Newydd a Kane Williamson yn parhau i wella o anaf ac yn gobeithio bod yn holliach erbyn Cwpan y Byd.
Torri’r bartneriaeth fawr
Ar ôl cael ei hepgor o’r garfan wreiddiol, cafodd Harry Brook ei ddewis ar ôl i Jason Roy gael anaf i’w gefn cyn dechrau’r gêm, ond ei bartner agoriadol Dawid Malan oedd yn dwyn sylw yn ystod y cyfnod clo wrth gyrraedd ei hanner canred oddi ar 48 o belenni, gan gynnwys naw ergyd am bedwar.
Ar ôl cyfnod hesb i’r bowlwyr cyflym, talodd y newid cyflymdra ar ei ganfed i Seland Newydd, wrth i Malan gael ei fowlio gan y troellwr llaw chwith Rachin Ravindra am 54 cyn i Lockie Ferguson waredu Brook am 25 pan neidiodd y wicedwr Tom Latham i’w ddal oddi ar belen gododd oddi ar y llain.
Erbyn hynny, roedd Lloegr yn 80 am ddwy wrth i Joe Root a Ben Stokes ddod ynghyd ar ôl 15.4 pelawd, ond buan yr oedden nhw’n 101 am dair pan sgubodd Root yn uchel i ochr y goes oddi ar fowlio Ravindra i roi daliad syml i Daryl Mitchell ar ddechrau’r unfed belawd ar hugain, a’r batiwr allan am chwech.
Yn nwylo Stokes a Jos Buttler roedd tynged Lloegr wedyn, ac er bod eu batio’n fwy pwyllog nag y byddai rhywun yn ei ddisgwyl, fe lwyddon nhw i sefydlogi ac ailadeiladu’r batiad wrth i Buttler gyrraedd ei hanner canred oddi ar 48 o belenni, gydag un ergyd pedwar ac un ergyd chwech.
Cyrhaeddodd Stokes ei hanner canred yntau’n fuan wedyn â’i unig ergyd chwech, a hynny oddi ar 67 o belenni, gan gynnwys tri phedwar hefyd, cyn cael ei ddal ar ymyl y cylch yn gyrru at Henry Nicholls wrth i Ravindra gipio’i drydedd wiced, gyda Lloegr yn 189 am bedair.
Gyda wicedi wrth gefn, daeth Liam Livingstone i ymuno â Buttler yn benderfynol o glatsio, ac fe darodd e dair ergyd chwech yn olynol oddi ar fowlio Kyle Jamieson ym mhelawd rhif 43 – dwy wedi’u tynnu tua’r pafiliwn a’r llall yn ergyd syth i gyfeiriad yr afon.
Cafodd Livingstone ei ddal oddi ar belen anghyfreithlon gan Ferguson ar ddechrau pelawd rhif 46, ond fe aeth yn ei flaen i gyrraedd ei hanner canred cyn cael ei ddal oddi ar ergyd syth gan Daryl Mitchell oddi ar fowlio Tim Southee am 52.
Daeth ail wiced i Southee yn y belawd pan darodd Buttler y bêl yn uchel i’r awyr a chael ei ddal gan Ferguson am 72, a Lloegr bellach yn 267 am chwech cyn i David Willey daro 21 heb fod allan yn niwedd y batiad i arwain ei dîm i 291 am chwech.
Cwrso’n gyfforddus
Dechreuodd Devon Conway a Will Young fatiad Seland Newydd yn gryf wrth iddyn nhw geisio cwrso 292 i ennill. Roedden nhw eisoes ar y blaen i sgôr cyfatebol Lloegr ar ôl deg pelawd, ond wrth i Loegr ddysgu gwersi o lwyddiant Ravindra, fe wnaethon nhw droi’n gynnar at y troellwr coes Adil Rashid.
Oddi ar ei belen gyntaf yn yr unfed belawd ar ddeg, cafodd Young ei fowlio am 29 i adael Seland Newydd yn 61 am un, ond roedden nhw wedi arafu rywfaint i 82 am un erbyn diwedd y bymthegfed pelawd.
Cyrhaeddodd Conway ei hanner canred oddi ar 57 o belenni yn niwedd y bedwaredd belawd ar bymtheg, ac roedd ei dîm wedi cyrraedd 117 pan ergydiodd Henry Nicholls yn wyllt oddi ar fowlio David Willey a chael ei ddal gan y wicedwr Buttler am 26 wrth i’w dîm golli eu hail wiced.
Wrth iddyn nhw aros ar y blaen i sgôr cyfatebol Lloegr, roedd Seland Newydd yn dechrau rheoli’r gêm gydag ugain pelawd yn weddill, wrth iddyn nhw gyrraedd 170 am ddwy gyda Conway a Daryl Mitchell, gyrhaeddodd ei hanner canred oddi ar 54 pelen, yn edrych yn gyfforddus o dan y llifoleuadau.
Roedd angen 93 arnyn nhw oddi ar bymtheg pelawd ola’r ornest – ar gyfradd ychydig dros rediad y belen – ac roedd ganddyn nhw hen ddigon o wicedi wrth gefn wrth iddyn nhw leihau’r gyfradd ofynnol i lai na rhediad y belen, gyda 54 rhediad i’w cael oddi ar 60 pelen ola’r gêm.
Daeth canred Conway oddi ar 115 o belenni ym mhelawd rhif 42, ac erbyn hynny roedd e wedi taro 13 pedwar wrth i’w dîm glosio at y fuddugoliaeth.
Cyrhaeddodd Mitchell yr un garreg filltir oddi ar 84 o belenni, ar ôl taro chwe phedwar a phum chwech, ond Conway gafodd y gair olaf gydag ergyd chwech tuag at afon Taf.