Yn sydyn mae diwedd y tymor criced wedi cyrraedd ac mae haf arall wedi diflannu.

Mae’n rhaid dweud taw’r haf yma oedd un o’r rhai gwaetha’ o ran y tywydd yn effeithio ar gymaint o gemau criced ar draws y wlad. Yn bersonol, roedd chwe gêm clwb Caerdydd wedi cael eu canslo oherwydd y glaw, ac un o gemau tri diwrnod Cymru yn complete washout, ys dywed y Sais.

Mae fy nhymor gyda fy nghlwb, Caerdydd, wedi bod yn un llwyddiannus, wrth orffen yn drydydd yn Uwch Gynghrair De Cymru, ac wrth gyrraedd rownd gyn-derfynol Cwpan Cymru, cyn colli yn anffodus ym Mae Colwyn mewn gêm agos iawn. Er y siwrne hir ac er i ni golli’r gêm, roedd y cyfle i gael chwarae ym Mae Colwyn yn un wna’i fyth anghofio. Mae Morgannwg wedi chwarae yno yn y gorffennol, ac yn bersonol roedd e’n un o’r llefydd neisa’ dw i wedi chwarae criced. Gobeithio ryw ddydd fydd genna’i gyfle i chwarae yno eto.

Rwy’n falch iawn o fod yn rhan o dîm Caerdydd. Hwn oedd y tymor gorau i fi fod yn rhan ohono ers i fi ddechrau bod yn rhan o’r tim cynta’. A nawr, gyda’r tim sydd gyda ni, dw i wir yn meddwl y gallwn ni herio’r timoedd cryfaf i ennill y gynghrair yn y ddwy neu dair blynedd nesaf.

Y tro diwetha’ i fi ysgrifennu am dymor tîm Siroedd Cenedlaethol Cymru, doedd dim llawer o lwyddiant wedi bod yn anffodus yn y cystadlaethau pêl wen (y T20 a’r tlws undydd). Dros y chwe wythnos ddiwetha’, rydyn ni wedi bod yn chwarae gemau tri diwrnod ym Mhencampwriaeth NCCA Western Division 2 (cystadleuaeth pêl goch). Ein targed ni y flwyddyn yma oedd ennill dyrchafiad i’r Adran Gyntaf, ond yn anffodus cafodd ein gêm gyntaf ni yn erbyn Shropshire ei chanslo oherwydd y glaw, a wnaeth hynna ein hatal ni rhag gallu gwthio mwy am frig yr Ail Adran.

Er hynny, mae llawer o arwyddion da yn y gemau tri diwrnod wrth i ni symud ymlaen i’r tymor nesaf, lle mai ennill dyrchafiad fydd y targed eto. Fe wnaethon ni orffen ein tymor gyda thair gêm gyfartal yn erbyn Cernyw, Dorset a Wiltshire, er i ni fod yn gwthio am fuddugoliaeth ym mhob un o’r gemau yna, ac er taw ni oedd y tim cryfaf ym mhob gêm.

Uchafbwynt personol i fi yn y bencampwriaeth yma oedd sgorio fy hanner canred cyntaf dros Gymru. Roedd hi’n foment falch iawn i fi, a gobeithio nad dyma’r tro olaf.

Er bod fy nhymor criced i wedi gorffen nawr, mae Morgannwg yn parhau am ychydig wythnosau eto, wrth iddyn nhw herio am ddyrchafiad ym Mhencampwriaeth y Siroedd. Mae Morgannwg yn bedwerydd yn y tabl ar hyn o bryd, gyda’r ddau dîm uchaf yn ennill dyrchafiad i’r Adran Gyntaf. Roedd hi’n gêm enfawr yn erbyn Swydd Gaewrangon, sy’n ail yn y tabl, yr wythnos ddiwethaf. Doedd Morgannwg ddim wedi colli y tymor hwn cyn y gêm honno a bydden nhw wedi gobeithio cadw’r record yna i fynd tan diwedd y tymor.

Er ei bod hi’n annhebygol, maen nhw’n dal i frwydro’n galed i sicrhau’r dyrchafiad gyda dwy gêm i ddod, yn erbyn Swydd Efrog a Swydd Derby.