Mae tîm criced Morgannwg yn croesawu Swydd Efrog i Gaerdydd heddiw (dydd Sul, Medi 10) ar gyfer diwrnod cyntaf gêm Bencampwriaeth olaf ond un y tymor.
Mae gobeithion Morgannwg o ennill dyrchafiad yn deilchion yn dilyn y golled oddi cartref yn Swydd Gaerwrangon.
Maen nhw’n bedwerydd yn y tabl, yn gorfod ennill y ddwy gêm sy’n weddill gyda phwyntiau llawn, a dibynnu ar ganlyniadau’r gemau eraill hefyd.
Mae Swydd Efrog yn wythfed yn y tabl.
Dydy’r rhagolygon ddim yn argoeli’n dda i’r sir Gymreig chwaith, gyda chymysgedd law a golau gwael eisoes wedi tarfu ar ddechrau’r gêm.
Mae angen 88 rhediad ar y capten Kiran Carlson i gyrraedd 1,000 o rediadau dosbarth cyntaf mewn tymor am y tro cyntaf yn ei yrfa.
Gemau’r gorffennol
Y tro diwethaf i’r ddwy sir herio’i gilydd yng Nghaerdydd, roedd Lloegr ar fin herio Awstralia yng Nghyfres y Lludw yn 2021, gyda Marnus Labuschagne a Joe Root yn mynd ben-ben gerbron camerâu Sky Sports.
Gorffennodd y gêm yn gyfartal, gyda Root yn sgorio 99 ar ôl batio am bron i bum awr wrth roi blaenoriaeth batiad cyntaf o 81 i’w dîm cyn i’r glaw ddod.
Doedden nhw ddim wedi herio’i gilydd ers 1998 cyn y gêm honno, pan enillodd sir y rhosyn gwyn o 114 o rediadau o ganlyniad i gyfraniad Gavin Hamilton, oedd wedi sgorio 79 a 70 ac wedi cipio deg wiced yn y gêm.
Dydy Morgannwg ddim wedi curo Swydd Efrog yng Nghaerdydd ers 1987, pan gipiodd y troellwr Rodney Ontong chwe wiced am 91 i roi buddugoliaeth o 73 rhediad i’r sir Gymreig.
Yn 1981, enillodd Morgannwg o ddeg wiced yng Nghaerdydd, wrth i Ontong gipio tair wiced yn dilyn 116 gan John Hopkins gyda’r bat.
Bu’n rhaid i Swydd Efrog ganlyn ymlaen, a chipiodd Ezra Moseley chwe wiced am 63 i roi nod o 44 i’w dîm gyda’r bat.
Roedd Morgannwg hefyd yn fuddugol yn 1973 ar ddiwedd gornest gafodd ei chwtogi gan y glaw, gydag ugain wiced yn cwympo ar y diwrnod olaf wrth i Phil Carrick gipio pum wiced am 24, cyn i Roger Davis gipio pum wiced am 12 wrth i Forgannwg ennill o 65 rhediad.
Morgannwg: E Byrom, Zain ul Hassan, C Ingram, S Northeast, K Carlson (capten), B Root, C Cooke, B Kellaway, A Gorvin, J Harris, J McIlroy
Swydd Efrog: A Lyth, F Bean, J Wharton, Shan Masood (capten), G Hill, J Tattersall, M Revis, D Bess, J Thompson, B Cliff, B Coad