Mae tîm rygbi Cymru wedi ennill eu gêm gyntaf yng Nghwpan y Byd o 32-26 yn erbyn Ffiji yn Bordeaux.
Roedd ganddyn nhw eiliadau nerfus i’w goroesi ar ddiwedd y gêm, gyda Ffiji yn brwydro’n galed am y trosgais buddugol cyn gollwng y bêl ymlaen o’r dwylo wrth anelu am y llinell gais.
Roedd gan dîm Warren Gatland fantais o 18 pwynt ar un adeg yn dilyn ceisiau gan Josh Adams, George North, Louis Rees-Zammit ac Elliot Dee, gan ennill pwynt bonws.
Ond tarodd y Ffijïaid yn ôl gyda cheisiau gan Waisea Nayacalevu, Lekima Tagitagivalu, Josua Tuisova a Mesake Doge er mwyn lleihau’r bwlch i un sgôr yn y munudau olaf.
Daeth cyfle hwyr i Ffiji gipio’r pwyntiau cyn i Semi Radradra ollwng ei afael ar y bêl oddi ar symudiad ola’r ornest.
Bydd Cymru’n herio Portiwgal yn Nice ddydd Sadwrn nesaf (Medi 16), Awstralia yn Lyon ar Fedi 24 a Georgia bythefnos yn ddiweddarach.
Hanner cyntaf
Enillodd y clo Will Rowlands gic gosb i Gymru yn y ddwy funud gyntaf, ac fe roddodd Dan Biggar ei dîm ar y blaen gyda thriphwynt.
Fe wnaeth Cymru ymestyn eu mantais bum munud yn ddiweddarach wrth i Biggar gicio’n gyflym cyn i Nick Tompkins a George North gyfuno i roi gofod i Josh Adams dorri’n glir a chroesi am y cais.
Ond un pwynt oedd ynddi rai munudau’n ddiweddarach wrth i Ffiji daro’n ôl drwy gais gan y capten Waisea Nayacalevu wrth iddo fe dorri trwy’r canol cyn i Frank Lomani drosi i’w gwneud hi’n 8-7.
Ond y Ffijiaid aeth ar y blaen wedyn wrth i Semi Radradra achosi problemau i amddiffyn Cymru, gyda’r blaenasgellwr Lekima Tagitagivalu yn bylchu am ail drosgais ei dîm.
Lleihaodd Cymru fantais Ffiji i driphwynt gyda chic gosb gan Biggar, ac ar ôl hanner awr roedden nhw ar y blaen o 18-14 diolch i gais George North a chymorth Nick Tompkins.
Croesodd Ffiji y llinell gais ar ôl 35 munud, ond penderfynodd y dyfarnwr fideo bod Eroni Mawi wedi colli’r bêl yn y dacl cyn ei thirio.
Ail hanner
Yn debyg i’r hanner cyntaf, daeth cic gosb gynnar i Gymru yn gynnar wedi’r egwyl ar ôl i Radradra daclo’i wrthwynebydd oddi ar y bêl ond methodd Biggar â’r gic at y pyst.
Gwaith tîm ar ei orau arweiniodd at y cais wnaeth ymestyn mantais Cymru i 25-14, wrth i Jac Morgan ganfod ei hun yng nghanol cae a chicio’n bert i ddwylo Rees-Zammit, a’r asgellwr yn croesi yn y gornel cyn i Biggar drosi.
Sicrhaodd Cymru’r pwynt bonws gyda chwarter awr yn weddill, pan groesodd Elliot Dee am gais o lein, ac fe ddaeth y trosiad gan Biggar cyn iddo adael y cae, gyda’r blaenasgellwr Lekima Tagitagivalu hefyd yn gadael y cae ac yn mynd i’r gell gosb am atal y sgarmes symudol arweiniodd at y cais.
Roedd y ddau dîm i lawr i 14 dyn yr un funudau’n ddiweddarach, wrth i’r eilydd o brop Corey Domachowski weld cerdyn melyn cyn creu argraff ar y gêm, ac fe achosodd hynny i Ffiji ganfod ail wynt.
Fe bwyson nhw’n galed am gais, gyda Radradra yn ei chanol hi unwaith eto ond Josua Tuisova groesodd o dan bwysau’r dacl, gyda’r trosgais yn ei gwneud hi’n 32-21.
Gallai Ffiji fod wedi cael lein oddi ar gic gosb yn agos at linell gais Cymru gyda phum munud yn weddill, ond sicrhaodd Liam Williams fod y bêl yn aros ar dir y chwarae.
Ond roedd Ffiji yn credu eu bod nhw wedi sgorio ddwy funud yn ddiweddarach, cyn i’r dyfarnwr benderfynu bod yna symudiad dwbwl wrth dirio’r bêl. 32-21 o hyd, felly, er i’r dyfarnwr awgrymu ei fod yn gais.
Roedd angen dau drosgais o hyd ar Ffiji, a daeth y cyntaf ohonyn nhw ar ôl 78 munud, wrth i’r eilydd o brop Mesake Doge hyrddio’i ffordd drwy’r amddiffyn.
Ond gyda’r trosiad wedi’i fethu, roedd angen trosgais o hyd ar Ffiji a daeth ochenaid o ryddhad i Gymru wrth iddyn nhw oroesi’r funud olaf.