Jac Morgan fydd yn gapten ar dîm rygbi Cymru ar gyfer eu gêm agoriadol yng Nghwpan y Byd.

Mae Warren Gatland wedi cyhoeddi’r tîm fydd yn chwarae yn erbyn Ffiji yn Bordeaux ddydd Sul (Medi 10).

Cyrhaeddodd carfan Cymru Bordeaux o’u gwersyll yn Versaille brynhawn heddiw (dydd Iau, Medi 7).

Mae’r pymtheg fydd yn cychwyn y gêm yn cynnwys pum chwaraewr fydd yn chwarae yng Nghwpan y Byd am y tro cyntaf, gan gynnwys Louis Rees-Zammit, Gareth Thomas a Nick Tompkins.

Fe fydd pum chwaraewr arall sy’n ymddangos yn eu Cwpan y Byd gyntaf ar y fainc hefyd, gan gynnwys Rio Dyer a Corey Domachowski.

Mae Taulupe Faletau wedi cael ei enwi yn y tîm hefyd, ar ôl methu tair gêm baratoadol Cymru’n ystod yr haf.

Bydd George North yn chwarae gêm rhif 17 yng Nghwpan y Byd, y bedwaredd bencampwriaeth iddo fod yn rhan ohoni.

Dydy’r cyd-gapten Dewi Lake heb gael ei enwi ar gyfer y gêm gyntaf, gyda Warren Gatland yn egluro nad yw wedi gallu hyfforddi gymaint â’r blaenwyr eraill ers iddo gael anaf i’w ben-glin, er ei fod wedi gwella’n llwyr.

Ar ôl y gêm yn erbyn Ffiji, bydd Cymru’n herio Portiwgal, Awstralia a Georgia yng Ngrŵp C.

‘Mewn lle da’

Wrth gyhoeddi’r tîm, dywedodd y prif hyfforddwr Warren Gatland fod y garfan wedi gweithio’n “eithriadol o galed dros yr ychydig fisoedd diwethaf ac wedi bod yn paratoi’n dda at Ffiji am yr ychydig wythnosau diwethaf”.

“Mae Ffiji yn dîm da gyda rhai athletwyr gwych, ac maen nhw’n chwarae gyda dipyn mwy o strwythur nawr nag maen nhw wedi’i wneud yn draddodiadol, efallai,” meddai.

“Rydyn ni’n glir ar yr hyn rydyn ni eisiau llwyddo i’w wneud a’r ffordd rydyn ni eisiau chwarae dros y penwythnos.

“Mae’r hogiau yn edrych yn dda, mae yna awyrgylch wych yn y grŵp – chwaraewyr yn helpu ei gilydd, yn mwynhau cwmni ei gilydd.

“Rydyn ni mewn lle da a fedrwn ni ddim aros i fynd allan yno a dechrau ein hymgyrch yng Nghwpan Rygbi’r Byd 2023.”

Tîm Cymru

15 Liam Williams, 14 Louis Rees-Zammit, 13 George North, 12 Nick Tompkins, 11 Josh Adams, 10 Dan Biggar, 9 Gareth Davies, 1 Gareth Thomas, 2 Ryan Elias, 3 Tomas Francis, 4 Will Rowlands, 5 Adam Beard, 6 Aaron Wainwright, 7 Jac Morgan, 8 Taulupe Faletau

Eilyddion

16 Elliot Dee, 17 Corey Domachowski, 18 Dillon Lewis, 19 Dafydd Jenkins, 20 Tommy Reffell, 21 Tomos Williams, 22 Sam Costelow, 23 Rio Dyer

  • Bydd y gic gyntaf am 8yh nos Sul, Medi 10 ac mae gemau Cymru i gyd yn cael eu dangos ar S4C.

Cymru v Ffiji: “Gêm fawr y grŵp,” medd Gareth Charles

Alun Rhys Chivers

All Cymru osgoi ailadrodd yr embaras gawson nhw o dan Gareth Jenkins yn Ffrainc 16 o flynyddoedd yn ôl?

Ffiji – disgyblaeth a doniau disglair

COLOFN RYGBI NEWYDD Gareth Charles, wrth iddo edrych ymlaen at benwythynos cyntaf Cwpan y Byd